Siap

Oddi ar Wicipedia
Gwahanol fathau o siapau

Yn fathemategol , ffin allanol gwrthrych, neu ei amlinelliad, yw siap .

Dosbarthu siapau [ golygu | golygu cod ]

Gellir rhoi rhai siapiau syml mewn categoriau bras. Er enghraifft, mae polygonau yn cael eu dosbarthu yn ol nifer eu hymylon e.e. trionglau , pedrochrau , pentagonau , ac ati. Rhennir pob un o'r rhain yn gategoriau llai; gall trionglau fod yn hafalochrog , isosceles , lem ac aflem , anghyfochrog, ac ati, tra y gall pedrochrau fod yn betrual , rhombws , trapesoid , sgwar , ac ati. Ymhlith siapau geometrig eraill y mae: pwyntiau, llinellau , planau a thrychiadau conig megis elipsau , cylchoedd a pharabolau .

O ran gofod tri dimensiwn , y siapau mwyaf cyffredin yw polyhedra , sef siapau gydag arwynebau fflat, elipsoidau , sef ffurfiau siap wy neu siap sffer , silindrau a conau . [1]

Cyfeiriadau [ golygu | golygu cod ]

  1. Hubbard, John H.; West, Beverly H. (1995). Differential Equations: A Dynamical Systems Approach. Part II: Higher-Dimensional Systems . Texts in Applied Mathematics. 18 . Springer. t. 204. ISBN   978-0-387-94377-0 .