Salvador Allende
|
---|
|
Ffugenw
| Chicho
|
---|
Ganwyd
| 26 Mehefin 1908
Santiago de Chile
|
---|
Bu farw
| 11 Medi 1973
o anaf balistig
Santiago de Chile
|
---|
Dinasyddiaeth
| Tsile
|
---|
Alma mater
| - Prifysgol Tsili
- Q5391867
- Q5975059
- Instituto Nacional General Jose Miguel Carrera
- Q5975072
|
---|
Galwedigaeth
| gwleidydd
,
meddyg
, llawfeddyg, President of Chile
|
---|
Swydd
| President of Chile, president of the Senate of Chile, Aelod o Siambr Dirprwyon Chile, senator of Chile, Chilean minister of Health, ysgrifennydd cyffredinol
|
---|
Plaid Wleidyddol
| Socialist Party of Chile
|
---|
Tad
| Salvador Allende Castro
|
---|
Mam
| Laura Gossens Uribe
|
---|
Priod
| Hortensia Bussi
|
---|
Plant
| Maria Isabel Allende, Beatriz Allende
|
---|
Perthnasau
| Isabel Allende
, Maya Fernandez
|
---|
Llinach
| Teulu Allende
|
---|
Gwobr/au
| Urdd Jose Marti, Order of Augusto Cesar Sandino, Gwobr Heddwch Lennin, Grand Cross of the Order Bernardo O'Higgins, Grand Cross of the Order of Merit, Gwobr Cymdeithion O. R. Tambo
|
---|
llofnod
|
---|
|
Roedd
Salvador Guillermo Allende Gossens
(
26 Mehefin
1908
-
11 Medi
1973
) yn wleidydd o
Tsile
a wasanaethodd fel arlywydd ei wlad o
3 Tachwedd
1970
hyd ei farwolaeth. Fe'i ganed yn
Valparaiso
.
Ymddiddorai Allende mewn
gwleidyddiaeth
yn ddyn ifanc, a chafodd ei arestio sawl gwaith yn ystod ei amser fel myfyriwr am iddo gymryd rhan mewn gweithgareddau radicalaidd. Cynorthwyodd i sefydlu
Plaid Sosialaidd Tsile
, plaid
Farcsaidd
annibynnol a ddilynai lwybr gwahanol i'r
Blaid Gomiwynyddol
a oedd yn dilyn llwybr yr
Undeb Sofietaidd
. Cafodd ei ethol i Siambr Dirprwyon Tsile yn 1937, gwasanaethodd fel gweinidog iechyd am dair blynedd ac fel seneddwr o 1945 hyd 1970.
Safodd dair gwaith am yr arlywyddiaeth - yn 1952, 1958 a 1964 - ond heb lwyddiant. Yn
1970
llwyddodd gyda mwyafrif bychan i ddod yn
arlywydd Tsile
a chychwynodd ar raglen radicalaidd
asgell chwith
i greu cymdeithas
sosialaidd
mewn fframwaith
llywodraeth
ddemocrataidd
yn y wlad. Ond wynebai wrthwynebiad eang gan elfennau grymus yn y sector preifat a byd busnes ; cefnogai llywodraeth yr
Unol Daleithiau
'r gwrthwynebwyr a rhoddwyd y
CIA
ar waith yn y wlad i helpu tanseilio llywodraeth Allende. Ym mis
Medi
1973
, cafwyd
coup milwrol
yn ei erbyn a sefydlwyd
junta
militaraidd dan arweiniad y Cadfridog
Augusto Pinochet
. Bu farw cannoedd o bobl yn yr ymladd. Lladdwyd Allende yn y brwydro i gipio'r Palas Arlywyddol yn
Santiago
, prifddinas Tsile.
Yn y misoedd ar ol lladd Allende, ffodd cannoedd o bobl, yn cynnwys nith Allende, y nofelydd
Isabel Allende
, i geisio lloches yn yr Unol Daleithiau a gwledydd eraill.