Modd o ryfela yw rhyfela confensiynol sy'n defnyddio arfau a thactegau confensiynol rhwng dwy wladwriaeth neu fwy. Ei bwrpas yw i ddifetha lluoedd milwrol y gelyn gan orfodi iddynt ardeleru . Mae'r cysyniad o ryfela gwladwriaeth-ganolog yn tarddu o waith Carl von Clausewitz .
Ystyrid arfau dinistr torfol yn arfau anghonfensiynol, a ddefnyddir mewn rhyfela cemegol , biolegol , a niwclear . Er hyn, cafwyd eu defnyddio mewn rhai rhyfeloedd rhwng gwladwriaethau, e.e. defnyddiwyd arfau niwclear yn yr Ail Ryfel Byd ac arfau cemegol yn Rhyfel Iran ac Irac .