Datblygodd yr
hen Rufain
(hefyd
Rhufain yr henfyd
,
hen ddinas Rhufain
,
Rhufain gynt
) o fod yn bentref amaethyddol ger glan
Afon Tiber
yng nghanolbarth
yr Eidal
i fod yn ymerodraeth oedd yn ymestyn o'r
Alban
i
Ogledd Affrica
ac o
Sbaen
i
Mesopotamia
. O'r
5g
ymlaen, dechreuodd yr ymerodraeth ddadfeilio, ac ymrannodd
Ymerodraeth Rufeinig y Gorllewin
yn nifer o deyrnasoedd annibynnol. Parhaodd
Ymerodraeth Rufeinig y Dwyrain
, a reolid o
Gaergystennin
am ganrifoedd lawer ar ol hyn, dan yr enw
Yr Ymerodraeth Fysantaidd
.
Gellir rhannu hanes Rhufain yn nifer o gyfnodau.
- Prif erthygl
Teyrnas Rhufain
Yn ol traddodiad, sefydlwyd Rhufain ar
21 Ebrill
,
753 CC
gan
Romulus a Remus
, disgynyddion
Aeneas
o
Gaerdroea
. Roedd brenin
Alba Longa
wedi gorchymyn eu bod i'w lladd, ond achubwyd hwy gan
fleiddiast
.
Tyfodd y ddinas yn raddol o sefydliadau buchain o gwmpas rhyd dros Afon Tiber. Bu cyfres o frenhinoedd ar Rufain, hyd nes i'r brenin olaf,
Lucius Tarquinius Superbus
, gael ei ddiorseddu a'i alltudio tua
509 CC
.
- Prif erthygl:
Gweriniaeth Rhufain
Wedi diorseddu Tarquinius Superbus, sefydlwyd system weriniaethol, gyda dau
gonswl
yn cael eu hethol bob blwyddyn, fel na allai yr un ohonynt fynd yn rhy bwerus.
Yn raddol, concrodd y Rhufeiniaid drigolion eraill yr Eidal, megis yr
Etrwsciaid
. Yn ail hanner y
3 CC
, dechreuodd y cyntaf o dri rhyfel yn erbyn dinas
Carthago
yng ngogledd Affrica. Yn ystod yr ail o'r rhyfeloedd hyn, ymosododd
Hannibal
ar yr Eidal a gorchfygu'r Rhufeiniaid mewn nifer o frwydrau gyda cholledion enbyd, ond yn y diwedd gorchfygwyd yntau gan
Scipio Africanus
. wedi gorchfygu
Macedonia
yn yr
2 CC
, Rhufain oedd y grym mwyaf o gwmpas
Mor y Canoldir
.
Datblygodd terfysgoedd mewnol yn ystod y
Ganrif 1af CC
, gydag ymryson rhwng
Gaius Marius
a
Lucius Cornelius Sulla
, yna gytundeb i rannu grym rhwng
I?l Cesar
,
Gnaeus Pompeius Magnus
a
Marcus Licinius Crassus
. Wedi i Cesar goncro Gal, bu
rhyfel cartref
, gyda Cesar yn gorchfygu Pompeius i gipio grym. Yn
44 CC
llofruddiwyd ef gan aelodau o'r
senedd
oedd yn credu ei fod yn mynd yn rhy bwerus.
- Prif erthygl:
Yr Ymerodraeth Rufeinig
Yr Ymerodraeth Rufeinig oedd y cyfnod yn hanes y wladwriaeth Rufeinig a ddilynodd
y Weriniaeth Rufeinig
ac a barhaodd hyd y
5g
OC yn y gorllewin, ac fel
yr Ymerodraeth Fysantaidd
hyd
1453
yn y dwyrain. Yn wahanol i'r Weriniaeth, lle'r oedd yr awdurdod yn nwylo
Senedd Rhufain
, llywodraethid yr ymerodraeth gan gyfres o ymerodron, gyda'r Senedd yn gymharol ddi-rym. Awgrymwyd nifer o ddyddiadau gan haneswyr ar gyfer diwedd y weriniaeth a dechrau'r ymerodraeth; er enghraifft dyddiad apwyntio
I?l Cesar
fel
dictator
am oes yn
44 CC
, buddugoliaeth etifedd Cesar,
Octavianus
ym
Mrwydr Actium
yn
31 CC
, a'r dyddiad y rhoddodd y Senedd y teitl "Augustus" i Octavianus (
16 Ionawr
,
27 CC
).
Roedd Rhufain eisoes wedi meddiannu tiriogaethau helaeth yng nghyfnod y Weriniaeth; daeth yn feistr ar ran o
Sbaen
yn dilyn ei buddugoliaeth yn y rhyfel cyntaf yn erbyn
Carthago
, a dilynwyd hyn gan diriogaethau eraill. Cyrhaeddodd yr ymerodraeth ei maint mwyaf yn ystod teyrnasiad
Trajan
tua
177
. Yr adeg honno roedd yr ymerodraeth yn ymestyn dros tua 5,900,000 km² (2,300,000 milltir sgwar) o dir.
Thannwyd yr ymerodraeth yn ddwy ran, yn y gorllewin a'r dwyrain, fel rhan o ddiwygiadau yr ymerawdwr
Diocletian
. Daeth yr ymerodraeth Rufeinig yn y gorllewin i ben yn
476
pan ddiorseddwyd yr ymerawdwr olaf,
Romulus Augustus
. Parhaodd yr ymerodraeth yn y dwyrain am bron fil o flynyddoedd wedi hyn fel yr Ymerodraeth Fysantaidd. Cafodd yr ymerodraeth Rufeinig ddylanwad enfawr ar y byd, o ran iaith, crefydd, pensaerniaeth, athroniaeth, cyfraith a llywodraeth; dylanead sy'n parhau hyd heddiw.