Ratko Mladi?
|
---|
|
Ganwyd
| 12 Mawrth 1943
Bo?anovi?i
|
---|
Dinasyddiaeth
| Gweriniaeth Ffederal Sosialaidd Iwgoslafia, Republic of Serbian Krajina, Republika Srpska,
Bosnia a Hertsegofina
|
---|
Galwedigaeth
| person milwrol,
milwr
|
---|
Gwobr/au
| Order of the People's Army, Urdd brawdoliaeth a undod
|
---|
Cyn-gadfridog
Serbaidd
o wlad
Bosnia
yw
Ratko Mladi?
(
Serbeg
: Ратко Млади?, ganwyd
12 Mawrth
1943
) a wasanaethodd yn Bennaeth Staff Byddin
Republika Srpska
yn ystod
Rhyfel Bosnia
.
Ymunodd a Byddin Pobl Iwgoslafia ym 1965, a daeth i sylw'r byd yn ystod Rhyfel Bosnia (1992?95) pan arweiniodd lluoedd Republika Srpska, sef y weriniaeth Serbaidd ethnig yn y wlad a elwir heddiw
Bosnia-Hertsegofina
. Fel pennaeth y fyddin, roedd ganddo gyfrifoldeb trwy orchymyn dros Warchae Sarajevo (1992?96) a
chyflafan Srebrenica
.
[1]
Ym 1995 cafodd ei dditio gan
y Tribiwnlys Troseddol Rhyngwladol ar gyfer y cyn-Iwgoslafia
(ICTY) am
hil-laddiad
,
troseddau rhyfel
, a
throseddau yn erbyn dynoliaeth
. Wedi'r rhyfel, bu helfa hir i ddal Mladi? a throseddwyr honedig eraill o'r rhyfel, gan gynnwys y cyn-arlywydd Republika Srpska
Radovan Karad?i?
.
[2]
[3]
[4]
Cafodd ei arestio gan luoedd diogelwch Serbia ar 26 Mai 2011 yn
Lazarevo
,
Serbia
.
[5]
Cafwyd Mladi? yn euog o ddeg allan o'r 11 o gyhuddiadau yn ei erbyn, a'i ddedfrydu i garchar am oes ar 22 Tachwedd 2017.
[6]