Dechreuodd
rasio ceir
yn fuan wedi datblyfiad y
ceir
cyntaf, ac mae'n boblogaidd trwy ran helaeth y byd. Cynhaliwyd y gystadleuaeth gyntaf yn
1894
, wedi ei threfnu gan y cylchgrawn
Le Petit Journal
, sef ras o
Baris
i
Rouen
. Roedd y ras yn cynnwys ceir gan wneuthurwyr enwog fel
Karl Benz
,
Gottlieb Daimler
a
Wilhelm Maybach
. Roedd hon yn brawf ar ddibynolrwydd y ceir yn hytrach na chyflymdra, ond yn
1895
cafwyd y ras go-iawn gyntaf, o Baris i
Bordeaux
.
Ymhlith y mathau mwyaf poblogaidd o rasio ceir heddiw mae rasio
Fformiwla Un
a
rasio rali
.