Y
gweinidog
sy'n dal y swydd uchaf yng nghabinet y
llywodraeth
mewn sustemau
seneddol
yw
prif weinidog
. Mae'n gyfrifol am ddewis a chael gwared o weddill aelodau'r
Cabinet
ac yn gyfrifol am rannu swyddi gweinidogol yn y llywodraeth i'r aelodau hynny. Yn y rhan fwyaf o wledydd mae hefyd yn gadeirydd y Cabinet hwnnw. Yn y gwledydd hynny lle ceir systemau llywodraeth lled-
arlywyddol
(ac nid oes llawer ohonynt) gwaith y prif weinidog yw rheoli'r
gwasanaeth sifil
a gweithredu gorchmynion ar ran pennaeth y wlad.