Parth cyhoeddus
|
Enghraifft o'r canlynol
| statws hawlfraint, cysyniad cyfreithiol
|
---|
Math
| pethau da, cyhoeddus
|
---|
Y gwrthwyneb
| dan hawlfraint
|
---|
Yn cynnwys
| yn anaddas ar gyfer amddiffyn yr hawlfraint
|
---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
|
Pan fo gweithiau sydd a'u
hawliau deallusol
wedi dod i ben, yn anaddas,
[1]
neu wedi eu hildio (neu eu 'fforffedu'),
[2]
gellir dweud eu bod yn y '
parth cyhoeddus
.
[3]
Er enghraifft, oherwydd eu hoedran, mae
hawlfraint
gweithiau
Dafydd ap Gwilym
a
Shakespeare
wedi dod i ben ers blynyddoedd, ac felly yn y parth cyhoeddus.
[3]
Mae rhai gweithiau eraill nad ydynt yn addas i fod o fewn hawlfraint, er enghraifft fformiwlau
Isaac Newton
,
rysait
ac unrhyw
feddalwedd
a grewyd cyn 1974.
[4]
Ceir hefyd gorff o weithiau mae eu hawduron (neu berchnogion) wedi ildio eu hawlfraint. Ni ddefnyddir y term 'parth cyhoeddus' pan fo'r gwaith yn cadw 'hawliau dros ben' (neu
residual rights
) h.y. fe ganiateir defnyddio'r gwaith, ond cedwir yr hawliau gan ei berchennog, gan ei ryddhau "dan drwydded" neu "gyda chaniatad"; mae
Copyleft
yn enghraifft o hyn.
Mae deddfau hawlfraint yn gwahaniaethu o wlad i wlad: gall gwaith fod yn y parth cyhoeddus mewn un wlad ond dan amodau hawliau mewn gwlad arall.