Osama bin Laden
|
---|
|
Ganwyd
| ????? ?? ???? ?? ??? ?? ????
10 Mawrth 1957
Riyadh
|
---|
Bu farw
| 2 Mai 2011
caer Osama bin Laden yn Abbottabad
|
---|
Man preswyl
| caer Osama bin Laden yn Abbottabad, cartref Osama bin Laden
|
---|
Dinasyddiaeth
| Sawdi Arabia
, di-wlad
|
---|
Alma mater
| - Prifysgol y Brenin Abdulaziz
- Prifysgol y Brenin Abdulaziz
- Al-Thager Model School
- Ysgol Uwchradd Brummana
- Thomas Sprigg Wootton High School
|
---|
Galwedigaeth
| jihadist, peiriannydd sifil, person busnes, terfysgwr
|
---|
Swydd
| General Emir of Al-Qaeda
|
---|
Taldra
| 195 centimetr
|
---|
Pwysau
| 75 cilogram
|
---|
Mudiad
| Salafi jihadism, Jihadism, Pan-Islamism,
Gwrth-Semitiaeth
, Anti-Christian sentiment,
Gwrth-gomiwnyddiaeth
, anti-Americanism
|
---|
Tad
| Mohammed bin Awad bin Laden
|
---|
Mam
| Hamida al-Attas
|
---|
Priod
| Najwa bin Laden, Khairiah Sabar, Osama bin Laden's fifth wife, Siham Sabar
|
---|
Plant
| Saad bin Laden, Omar bin Laden, Hamza bin Laden, Abd Allah bin Laden, Khalid bin Laden, Miriam bin Laden, Sumaiya bin Laden
|
---|
Llinach
| Bin-Laden Family
|
---|
Terfysgwr
Islamaidd
a ystyrir yn sylfaenwr
Al-Qaeda
oedd
Osama bin Mohammed bin Awad bin Laden
(
Arabeg
:
????? ?? ???? ?? ??? ?? ????
,
?Us?mah bin Mu?ammad bin ?Awa? bin L?din
;
10 Mawrth
1957
?
2 Mai
2011
).
Ganed ef yn
Riyadh
,
Sawdi Arabia
, yn aelod o deulu cyfoethog a dylanwadol bin Laden. Ym 1996 ac eto ym 1999 cyhoeddodd ef a nifer eraill ddwy
fatwa
, yn dweud y gellid lladd aelodau o luoedd arfog neu ddinasyddion yr
Unol Daleithiau
hyd nes iddynt dynnu eu lluoedd arfog o'r gwledydd Islamaidd a rhoi'r gorau i gefnogi
Israel
. Cred yr Unol Daleithiau iddo fod a rhan yn yr ymosodiad ar lysgenhadaeth yr Unol Daleithiau yn
Dar es Salaam
,
Tansania
, a
Nairobi
,
Cenia
.
Osama Bin Laden oedd yn gyfrifol am drefnu llofruddiaeth
Ahmad Shah Massoud
, arweinydd gwrthryfel yn erbyn y
Taliban
ac
Al-Qaeda
yng Ngogledd
Afghanistan
.
[1]
Credir yn gyffredinol mai Osama bin Laden ac Al-Qaeda fu'n gyfrifol am drefnu
Ymosodiadau 11 Medi 2001
ar yr Unol Daleithiau, pan gipiwyd awyrennau a'u hedfan i mewn i
Ganolfan Masnach y Byd
yn
Efrog Newydd
a'r
Pentagon
yn
Arlington, Virginia
.
Ar 1 Mai 2011, adroddodd Arlywydd
Obama
y lladdwyd bin Laden yn ystod gweithred filwrol yr Unol Daleithiau gan "dim bychan o Americaniaid", mewn gweithred gudd yn
Abbottabad
, Pacistan, 93 milltir (150 km) i'r gogledd o Islamabad,
[2]
a chadarnhaodd yr hyn a ddywedwyd gan swyddogion yr Unol Daleithiau i'r cyfryngau yn gynharach.
[3]
Drwy ddefnyddio corff bin Laden, a'i gymharu a samplau DNA ei chwaer, cadarnhawyd mai bin Laden ydoedd.
[4]
Derbyniwyd y corff gan fyddin yr Unol Daleithiau a chafodd ei gladdu yn y mor.
[5]
Yn ol yr Arlywydd Obama, cynorthwyodd llywodraeth
Pacistan
hefyd yn y weithred o'i ddal.