Mynydd Libanus
(
Arabeg
:
??? ?????
) yw'r enw a ddefnyddir am gadwyn o fynyddoedd yn
Libanus
a de-orllewin
Syria
. Mae'n ymestyn am 240 km o'r gogledd i'r de, gyda tua 160 km yn Libanus ac 80 km yn Syria.
Ar ochr orllewinol y mynyddoedd mae'r gwastadedd arfordirol a'r
Mor Canoldir
, tra ar yr ochr ddwyreiniol mae
Dyffryn Beka
. Y copa uchaf yw
Qurnat as Sawda'
, 3,088 m. Rhoddodd y mynyddoedd eu henw i'r wlad; mae "
Laban
" yn golygu "gwyn" mewn
Aramaeg
.
Yn y mynyddoedd hyn y ceir
Cedrwydd Libanus
, a ystyrir yn symbol o'r wlad, ac sy'n ymddangos ar faner Libanus.