Mynydd sanctaidd a gorynys yng Ngwlad Groeg sy'n gartref i nifer o fynachlogydd yr Eglwys Uniongred ac a reolir fel math o weriniaeth fynachol o fewn Groeg yw Mynydd Athos ( Groeg : ?γιο ?ρο? Ayio[n] Oros , "Y Mynydd Sanctaidd"). Mae isthmws o dir isel yn ei gysylltu a'r tir mawr. Dominyddir y gorynys gan gopaon Mynydd Athos ei hun. sy'n cyrraedd 6670 troedfedd. Fe'i lleolir yn Halkidiki , talaith Macedonia , yng ngogledd Gwlad Groeg. Dim ond dynion sy'n gallu mynd yno ac mae hyd yn oed anifeiliaid benywaidd yn cael eu gwahardd.