- Gweler hefyd y dudalen gwahaniaethu
Merthyr (gwahaniaethu)
.
Merthyr
(o'r
Lladin
martyr
) yw un sy'n marw dros ei (h)egwyddorion, ei
ffydd
neu rhywbeth y mae'n credu ynddo. Yn wreiddiol defnyddid y gair mewn cyd-destun
Cristnogol
i ddisgrifio credadyn sy'n barod i ddioddef angau dros ei ffydd yn hytrach nag ymwrthod a hi. Mae'r gair heddiw yn cael ei ddefnyddio ar gyfer pobl sy'n dioddef angau yn enw
crefyddau
eraill, e.e.
Bwdhaeth
, neu yn enw argyhoeddiadau
gwleidyddol
a.y.y.b.
Merthyroleg
yw'r gair am astudio hanes merthyron.
Ail ystyr y gair "merthyr" yn y
Gymraeg
yw "
eglwys
(er cof am
sant
neu ar ei fedd)." Fe'i gwelir yn yr enwau lleoedd
Merthyr Tudful
,
Merthyr Cynog
,
Merthyr Dyfan
a
Merthyr Mawr
(i gyd yn
ne Cymru
).
[1]