Y
faner genedlaethol
a chwifir gan
longau
sifil (
masnachol
ac eraill) yw
lluman
sifil
.
Gall y llumanau sifil sy'n wahanol i'r faner genedlaethol cael eu rhannu i bum categori.
Llumanau Cochion sy'n dilyn y dyluniad Prydeinig
[
golygu
|
golygu cod
]
Dyma
faneri
cochion sydd, gan amlaf, gyda'r faner genedlaethol briodol neu
Faner yr Undeb
yn y
canton
, yn dilyn dyluniad
y Lluman Coch
Prydeinig. Mae
tiriogaethau tramor Prydeinig
naill ai'n defnyddio'r Lluman Coch plaen neu Luman Coch gyda'r arfbais drefedigaethol briodol yn y
fly
.
Llumanau sifil sy'n wahanol yn sylweddol i'r faner genedlaethol
[
golygu
|
golygu cod
]
Mae gan rai gwledydd llumanau sifil sydd yn wahanol iawn i'r faner genedlaethol.
Llumanau sifil sy'n cynnwys y faner genedlaethol ag arwyddlun ychwanegol
[
golygu
|
golygu cod
]
Cafodd y mwyafrif o'r arwyddluniau yma eu hychwanegu i wahaniaethu rhwng y lluman a baneri tebyg gwledydd eraill.
Baneri cenedlaethol symledig
[
golygu
|
golygu cod
]
Mewn nifer o wledydd (yn bennaf
America Ladin
) mae yna dau fersiwn o'r faner, un syml (gan amlaf yn rhesog) ac un goethach gyda'r
arfbais
genedlaethol. Defnyddir yr un symlach fel lluman sifil (ac mewn nifer o achosion fel baner sifil), a defnyddir y fersiwn a'r arfbais yn bennaf gan y
llywodraeth
a'r
lluoedd milwrol
. Yn
Sbaen
mae'r faner heb yr arfbais dim ond ar gyfer defnydd sifil; defnyddir y faner genedlaethol fel lluman sifil.
[6]
Llumanau sifil sy'n wahanol i'r faner genedlaethol o ran cyfraneddau
[
golygu
|
golygu cod
]
Mae nifer o gyn-
drefedigaethau
Prydeinig
yn defnyddio 1:2 fel cyfrannedd eu llumanau, ond 3:5 ar gyfer baneri ar dir. Mae hyn i'w wrthdroi yng ngwledydd y gyn
Iwgoslafia
: llumanau yn 2:3 a baneri ar dir yn 1:2.