한국   대만   중국   일본 
Kirundi - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Kirundi

Oddi ar Wicipedia
Kirundi
Enghraifft o'r canlynol iaith, iaith fyw  Edit this on Wikidata
Math Rwanda-Rundi  Edit this on Wikidata
Enw brodorol Ikirundi  Edit this on Wikidata
Nifer y siaradwyr  
  • 10,800,000 (2019), [1]
  •  
  • 8,800,000 (2007)
  • cod ISO 639-1 rn  Edit this on Wikidata
    cod ISO 639-2 run  Edit this on Wikidata
    cod ISO 639-3 run  Edit this on Wikidata
    System ysgrifennu yr wyddor Ladin   Edit this on Wikidata
    Mae'r testun Kirundi ar gefn y lori yn rhybuddio seiclwyd rhag dal ymlaen i'r cerbyd
    Gweddi'r Arglwydd yn Kirundi yn Eglwys Pater Noster yn Jerwsalem

    Un o ieithoedd Bantw yn Bwrwndi yw Kirundi , Kirundi mewn orgraff Gymraeg, gelwir hefyd yn Rwndi , Rundi , neu Roundi . Mae'n dafodiaith a siaredir yn Rwanda a rhannau cyfagos o Tanzania , Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo , Wganda , yn ogystal ag yn Kenya . Mae Kirundi yn gyd-ddealladwy a Kinyarwanda , iaith genedlaethol Rwanda , ac mae'r ddwy ran yn rhan o'r continwwm tafodieithol ehangach a elwir yn Rwanda-Rundi. [2]

    Mae Kirundi yn iaith Bantw a siaredir yn frodorol yn Burundi gan 97% o'r boblogaeth (11,045,000) yn Wganda (246,000), sef cyfanswm o 12.5 miliwn o siaradwyr. [3] [4]

    Cyd-desun [ golygu | golygu cod ]

    Siaredir yr iaith Kirundi yn frodorol gan yr Hutu , gan gynnwys y Bakiga ac ethnigrwydd cysylltiedig eraill, yn ogystal a'r Tutsi , Twa a Hima ymhlith eraill. Mae tafodieithoedd cyfagos Kirundi yn ddealladwy i'r ddwy ochr a Ha.

    Mae Kirundi yn un o'r ieithoedd lle mae rheol Meeussen , rheol sy'n disgrifio patrwm penodol o newid tonyddol yn ieithoedd Bantw, yn weithredol.

    Gellir dadlau fod y ddwy iaith. Kirundi a Kinyarwanda , mewn gwirionedd yn un a'r un iaith; gellir cymharu hyn ag Iseldireg o'r Iseldiroedd ac Iseldireg o Wlad Belg , mae'r ddau amrywiad iaith yn perthyn i'r un iaith, er gwaethaf y gwahaniaethau rhanbarthol mewn ynganiad a geirfa.

    Yn 2020, sefydlwyd Academi Rundi i helpu i safoni a hyrwyddo Kirundi. [5]

    Ffonoleg [ golygu | golygu cod ]

    Ton [ golygu | golygu cod ]

    Iaith donyddol yw Rundi. Mae dwy don hanfodol yn Rundi: uchel ac isel (neu H ac L). Gan fod gan Rundi wahaniaeth ffonemig ar hyd llafariad, pan fo llafariad hir yn newid o don isel i don uchel fe'i nodir fel ton codi. Pan fydd llafariad hir yn newid o don uchel i don isel, fe'i nodir fel ton sy'n gostwng. [6]

    Defnyddir Rundi yn aml mewn ffonoleg i ddarlunio enghreifftiau o reol Meeussen. [7] [8] Yn ogystal, cynigiwyd y gall tonau symud gan strwythur mydryddol neu rythmig. Mae rhai awduron wedi ehangu'r nodweddion mwy cymhleth hyn o'r system donyddol gan nodi bod priodweddau o'r fath yn anarferol iawn i system don. [9]

    Ffonotacteg [ golygu | golygu cod ]

    Mae strwythur sillafau yn Rundi yn cael ei ystyried yn CV, hynny yw heb unrhyw glystyrau, dim cytseiniaid coda, a dim cnewyllyn llafariad cymhleth. Cynigiwyd bod dilyniannau sy'n CVV yn y sylweddoliad arwyneb mewn gwirionedd yn CV yn yr adeiledd dwfn gwaelodol, gyda'r gytsain yn cyfuno a'r llafariad gyntaf. [10]

    Cytgord cytsain [ golygu | golygu cod ]

    Dangoswyd bod gan Rundi briodweddau cytgord cytsain yn enwedig o ran sibilyddion. Disgrifiodd Meeussen yr harmoni hwn yn ei draethawd ac ymchwilir iddo ymhellach gan eraill. [11] Mae un enghraifft o'r harmoni hwn yn cael ei sbarduno gan /?/ a /?/ ac mae'n targedu'r set o /s/ a /z/ yn y sillafau bonyn cyfagos blaenorol.

    Defnydd swyddogol a Kirundi heddiw [ golygu | golygu cod ]

    Cydnabuwyd Kirundi yn iaith swyddogol yn Burundi gan Gyfansoddiad Teyrnas Burundi ym 1962. Yn unol a'r cyfansoddiad, ysgrifennwyd llawer o orchmynion llywodraeth Burundiaidd, yn enwedig y rhai a argraffwyd yn y Bulletin Officiel du Burundi o 1962 i 1963, yn Ffrangeg a Kirundi. Wedi i'r cyfansoddiad gael ei atal yn 1966, parhaodd Kirundi yn iaith swyddogol de facto yn y wlad, er i'w defnydd yn nogfennau'r llywodraeth leihau. [12] Ym 1972 mabwysiadwyd Kirundi yn iaith swyddogol addysgu yn ysgolion cynradd Burundian. [13]

    Prin yw'r testun yn yr iaith. Ceir peth defnydd ohono gan gyrff rhyngwladol er mwyn lledaenu negeseuon i wella iechyd y trigolion, er enghraiff, fideo addysgol am colera . [14] neu wyboaeth ar iechyd meddwl a gynhyrchwyd gan UNHCR (Asiantaeth Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig). [15]

    Gwefannau newyddion a radio [ golygu | golygu cod ]

    Mae holl bapurau newydd y wlad yn y Ffrangeg. Y papur (a'r wefan) newyddion fwyaf boblogaidd y Iwacu. ("ein cartref" yn Kirundi/Kiniarwanda) Mae'r ysgrifen i gyd yn Ffrangeg ond cynhwysir cyfweliadau yn Kirundi (er, gyda throsleisio ac isdeitlo yn Ffrangeg). [16]

    Serch hynny, ymddengys bod canran dda, os nad mwyafrif, gorsafoedd radio Bwrwndi yn yr iaith frodorol er bod Ffrangeg yn dal i fod yn iaith ar gyfer trafod newyddion a diwylliant o bwys. [17]

    Ceir cerddoriaeth yn yr iaith yn fyw ac ar gwefannau fel Youtube gyda fideo y gan Burundi gan y gr?p Amagaba yn denu dros filiwn o wylwyr erbyn Gorffennaf 2023. "Burundi - Amagaba (Official Video)" . Amagaba club. 2018 . Cyrchwyd 10 Gorffennaf 2023 . </ref>

    Llyfryddiaeth [ golygu | golygu cod ]

    Cyfeiriadau [ golygu | golygu cod ]

    1. (yn en) Ethnologue (25, 19 ed.), Dallas, Texas: SIL International, ISSN   1946-9675 , OCLC   43349556 , Wikidata   Q14790 , https://www.ethnologue.com/ , adalwyd 23 Ebrill 2022
    2. Ethnologue, 15th ed.
    3. "Rundi Language / Joshua Project" (yn Saesneg). joshuaproject.net . Cyrchwyd 2023-07-10 .
    4. "Glottolog 4.4 - Rundi" (yn Saesneg). glottolog.org . Cyrchwyd 2023-07-10 .
    5. Rigumye, M. "Longtemps attendue, l'Academie Rundi ouvre sous peu ? IWACU" . www.iwacu-burundi.org . Cyrchwyd 2021-09-10 .
    6. de Samie 2009
    7. Myers 1987
    8. Phillipson 2003
    9. Goldsmith & Sabimana 1989
    10. Sagey 1986
    11. Ntihirageza 1993
    12. Verdoodt 2011 , t. 515.
    13. Weinstein 1976 , t. 89.
    14. "The Story of Colera" . Global Health Media . Cyrchwyd 10 Gorffennaf 2023 .
    15. "Mental Health GAP Humanitarian Intervention Guide (Kirundi version)" . UNHCR . Cyrchwyd 10 Gorffennaf 2023 .
    16. "Fait du jour: Penurie severe d'eau dans la zone de Cibitoke" . Iwacu Web TV. 9 Gorffennaf 2023.
    17. https://en.wikipedia.org/wiki/Mass media in Burundi

    Dolenni allanol [ golygu | golygu cod ]

    Eginyn erthygl sydd uchod am Fwrwndi . Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato .