Jose de San Martin
|
---|
|
Ganwyd
| Jose Francisco de San Martin y Matorras
25 Chwefror 1778
Africa
|
---|
Bu farw
| 17 Awst 1850
Boulogne-sur-Mer
|
---|
Man preswyl
| Buenos Aires
,
Madrid
,
Llundain
,
Lima
,
Paris
|
---|
Dinasyddiaeth
| yr Ariannin
|
---|
Alma mater
| - Royal Seminary of Nobles of Madrid
|
---|
Galwedigaeth
| person milwrol,
gwleidydd
,
milwr
|
---|
Swydd
| President of Peru, Llywodraethwr Mendoza, Commander-in-Chief of the Chilean Army
|
---|
Plaid Wleidyddol
| Patriot
|
---|
Tad
| Juan D' San Martin y Gomez
|
---|
Mam
| Gregoria Matorras, Rosa Guaru
|
---|
Priod
| Maria de los Remedios de Escalada
|
---|
Partner
| Rosa Champuzano
|
---|
Plant
| Mercedes Tomasa San Martin y Escalada
|
---|
Gwobr/au
| Urdd yr Haul, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Genedlaethol San Marcos
|
---|
llofnod
|
---|
|
Cadfridog
Archentaidd
oedd
Jose Francisco de San Martin y Matorras
(
25 Chwefror
1778
?
17 Awst
1850
)
[1]
a oedd yn brif arweinydd rhyfeloedd annibyniaeth
yr Ariannin
,
Tsile
, a
Pheriw
oddi ar
Ymerodraeth Sbaen
.
Ganwyd yn Yapeyu,
Rhaglawiaeth Rio de la Plata
, a leolir heddiw yn
Nhalaith Corrientes
, yr Ariannin. Symudodd gyda'i deulu i
Sbaen
yn 1783, ac ymunodd a'r fyddin yn 11 oed. Brwydrodd yn erbyn lluoedd Napoleon yn
Rhyfel Iberia
o 1808 i 1811.
Aeth i
Buenos Aires
yn 1812 ac ymunodd a
Thaleithiau Unedig Rio de la Plata
yn y chwyldro yn erbyn Ymerodraeth Sbaen. Enillodd fuddugoliaeth yn erbyn y Sbaenwyr ym Mrwydr San Lorenzo (1813), ac arweiniodd Fyddin y Gogledd yn 1814. Cynlluniodd i drechu lluoedd Sbaen drwy sefydlu byddin i groesi'r
Andes
ac ymosod arnynt ar hyd arfordir
y Cefnfor Tawel
. Enillodd Tsile ei hannibyniaeth yn sgil brwydrau Chacabuco a Maipu (1818).
Arweiniodd San Martin lynges i ymosod ar luoedd Sbaen yn
Rhaglawiaeth Periw
. Yn sgil buddugoliaeth yn
Lima
yn 1821, penodwyd San Martin yn Amddiffynnydd Periw. Bu'n cwrdd a
Simon Bolivar
ar 22 Gorffennaf 1822 yn
Guayaquil
,
Ecwador
, a chymerodd Bolivar yr awennau yn chwyldro Periw. Ymddeol o'r fyddin a wnaeth San Martin, ac ymfudodd i
Ffrainc
yn 1824. Bu farw yn
Boulogne-sur-Mer
yn 72 oed.
San Martin yw un o arwyr cenedlaethol yr Ariannin a Pheriw, ac un o
Libertadores
De America
. Enwir yr anrhydedd uchaf a wobrwyir gan lywodraeth yr Ariannin, Urdd y Cadfridog San Martin, ar ei ol.