John Coltrane
|
---|
|
Ganwyd
| John William Coltrane
23 Medi 1926
Hamlet
|
---|
Bu farw
| 17 Gorffennaf 1967
Huntington, Efrog Newydd,
Dinas Efrog Newydd
|
---|
Man preswyl
| John Coltrane House, Hamlet,
Indianapolis
, John Coltrane Home
|
---|
Label recordio
| Blue Note, Atlantic Records, Impulse!, Prestige, ABC Records
|
---|
Dinasyddiaeth
| Unol Daleithiau America
|
---|
Alma mater
| - Combs College of Music
- William Penn High School
|
---|
Galwedigaeth
| arweinydd band,
cyfansoddwr
, arweinydd, cerddor jazz, chwaraewr sacsoffon,
canwr
|
---|
Cyflogwr
| - Atlantic Records
- Blue Note
- Impulse!
- Prestige
|
---|
Arddull
| jazz
, modal jazz, free jazz, post-bop, hard bop
|
---|
Priod
| Alice Coltrane
|
---|
Plant
| Ravi Coltrane
|
---|
Gwobr/au
| Gwobr Grammy am Gyraeddiadau Gydol Oes, 100 Greatest African Americans, Pulitzer Prize Special Citations and Awards, North Carolina Music Hall of Fame
|
---|
Gwefan
| https://www.johncoltrane.com/
|
---|
Sacsoffonydd
a chyfansoddwr
jazz
o
America
oedd
John William Coltrane
(
23 Medi
1926
?
17 Gorffennaf
1967
), a adnabuwyd weithiau fel "
Trane
".
[1]
Gan ddechrau chwarae yn arddulliau
bebop
a
bop galed
, roedd Coltrane (ar yr un pryd a'i gyfaill a'i gyd-berfformiwr
Miles Davis
) yn arloesol wrth gyflwyno
moddau
cerddorol i jazz, ac yn hwyrach yn ei yrfa roedd yn ffigwr allweddol yn
jazz rhydd
. Er gwaethaf ei yrfa cymharol fyr - dim ond deng mlynedd sydd rhwng ei record gyntaf dan ei enw ei hun a'i farwolaeth - fe'i hystyrir yn un o gerddorion pwysicaf ail hanner yr
ugeinfed ganrif
, yn un o ffigyrau canonaidd
jazz
ac yn un o'r sacsoffonwyr pwysicaf erioed.
[1]
Bu Coltrane yn chwarae'r
clarinet
cyn dechrau ar y
sacsoffon
yn yr ysgol.
[2]
Bu'n chwarae ym mandiau cymunedol ac ysgol cyn ymuno a'r llynges a chwarae ym mandiau yno hefyd. Roedd
Charlie Parker
yn ddylanwad cynnar, ac ar ol gadael y llynges aeth Coltrane ymlaen i chwarae ym mandiau nifer o gerddorion eraill gan gynnwys
Dizzy Gillespie
a
Johnny Hodges
.
Daeth yn fwy adnabyddus fel rhan o bumawd mawr gyntaf
Miles Davies
yn 1955. Ar gefn ei waith gyda Davis dechreuodd recordio'n fynych yn ystod 1957. I'r cyfnod hwn mae recordiau mawr gyntaf Coltrane yn perthyn. Bu Davis yn ddylanwad pwysig iawn, a dilynodd Coltrane y trwmpedwr drwy gyflwyno moddau cerddorol i'w gerddoriaeth. Ar yr un pryd, datblygodd arddull unigryw ar y sacsoffon gan symud oddi wrth bebop ac arddull
Charlie Parker
; defnyddir y term
sheets of sound
ar gyfer dull Coltrane o chwarae ar recordiau megis
Giant Steps
(1957). Arhosodd gyda Davis (ac eithrio cyfnod sabothol ym mand
Thelonious Monk
) am weddill y 50au cyn gadael yn 1960 i ffurfio ei fand ei hun.
Ar ol gadael Davis, ffurfiodd Coltrane ei fand ei hun gyda
McCoy Tyner
ar y piano,
Elvin Jones
ar y drymiau, a nifer o faswyr cyn i
Jimmy Garrison
gwblhau'r band yn 1962. Y gr?p hwn oedd band enwocaf Coltrane ac fe recordiwyd nifer fawr o weithiau gyda nhw rhwng 1962 a 1965. Record enwocaf y band oedd
A Love Supreme
a recordiwyd yn hwyr yn 1964 cyn ei chyhoeddi yn 1965. Darn crefyddol, defosiynol oedd hwn, ac fe'i hystyrir yn un o recordiau pwysicaf yn hanes jazz.
Yn ystod y 60au roedd cerddoriaeth Coltrane yn dangos fwyfwy dylanwad
jazz rhydd
. Dechreuodd Coltrane gyflwyno technegau'r arddull i'w chwarae ac i chwarae ei fand, er gwaethaf yr ymateb cymysg a gafodd y newid hwn gan feirniaid y cyfnod. Roedd yr albwm
Ascension
yn 1965 yn dangos newid mawr: byrfyfyrio pur gan gr?p mawr oedd hwn oedd yn llawer mwy chaotig na'r gerddoriaeth a glywyd ganddo yn gynharach. Gadawodd Tyner a Jones yn 1965 ac fe gymerwyd eu llefydd yn y band gan
Alice Coltrane
(gwraig John) ac
Rashied Ali
. Yn ystod yr un cyfnod ymunodd
Pharaoh Sanders
y gr?p fel ail sacsoffonydd.
Bu farw Coltrane o ganser yr afu yn 1967 yn 40 oed yn unig; mwy na thebyg bu defnydd sylweddol o alcohol a chyffuriau yn ystod ei fywyd yn ffactor.
Cymerodd Coltrane le
Charlie Parker
fel sacsoffonydd mwyaf dylanwadol jazz. Bu'n ddylanwad uniongyrchol mawr ar bron i bob sacsoffonydd yn y gerddoriaeth a ddaeth ar ei ol, gan gynnwys nid yn unig y rhai a chwaraeodd gydag ef megis
Pharaoh Sanders
ac
Archie Shepp
, ond hefyd eraill fel
Wayne Shorter
ynghyd a sacsoffonwyr cyfnodau diweddarach megis
David Murray
a
Joe Lovano
. Coltrane yw un o ffigyrau canolog
jazz rhydd
a ffigyrau pwysicaf jazz yn y cyfnod ar ol 1960au.
Rhestr yw'r isod o holl recordiau Coltrane a gynhyrchwyd dan ei arweinyddiaeth a'i oruchwyliaeth ef, yn ystod ei fywyd. Nid yw'n cynnwys nifer fawr o recordiau byw swyddogol ac answyddogol, sesiynau dan arweinyddiaeth eraill, neu sesiynau na chafodd ei ryddhau tan ar ol i Coltrane symud ymlaen i gwmni arall (neu ar ol iddo farw).
Prestige and Blue Note Records
[
golygu
|
golygu cod
]
- Coltrane
(1957)
- Blue Train
(1957), ei unig sesiwn i
Blue Note
- John Coltrane with the
Red Garland
Trio
(1958)
- Soultrane
(1958)
- Giant Steps
(1960)
- Coltrane Jazz
(record gyntaf gyda
McCoy Tyner
ac
Elvin Jones
) (1961)
- My Favorite Things
(y record gyntaf gyda'r sacsoffon soprano) (1961)
- Ole Coltrane
(1961)
- Africa/Brass
(1961)
- Live! at the Village Vanguard
(ymddangosiad cyntaf
Jimmy Garrison
) (1962)
- Coltrane
(albwm gwahanol i'r un o 1957 dan yr un enw. Hwn oedd y record gyntaf gyda'r pedwarawd 'clasurol' yn unig) (1962)
- Duke Ellington
& John Coltrane
(1963)
- Ballads
(1963)
- John Coltrane and Johnny Hartman
(1963)
- Impressions
(1963)
- Live at Birdland
(1964)
- Crescent
(1964)
- A Love Supreme
(1965)
- The John Coltrane Quartet Plays
(1965)
- Ascension
(y pedwarawd fel rhan o grwp mawr) (1966)
- New Thing at Newport
(gydag
Archie Shepp
) (1966)
- Kulu Se Mama
(1966)
- Meditations
(pedwarawd gyda
Pharoah Sanders
ac
Rashied Ali
) (1966)
- Live at the Village Vanguard Again!
(1966)
- Expression
(albwm olaf Coltrane) (1967)