한국   대만   중국   일본 
Joachim von Ribbentrop - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Joachim von Ribbentrop

Oddi ar Wicipedia
Joachim von Ribbentrop
Ganwyd Ulrich Friedrich Wilhelm Joachim Ribbentrop  Edit this on Wikidata
30 Ebrill 1893  Edit this on Wikidata
Wesel  Edit this on Wikidata
Bu farw 16 Hydref 1946  Edit this on Wikidata
o crogi   Edit this on Wikidata
Nurnberg , Nuremberg Court Prison  Edit this on Wikidata
Man preswyl Y Swistir , Lloegr , Canada , yr Almaen , Dahlem  Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth yr Almaen   Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Lycee Fabert  Edit this on Wikidata
Galwedigaeth gwleidydd , diplomydd  Edit this on Wikidata
Swydd member of the Reichstag of Nazi Germany, German Foreign Minister, ambassador of the German Reich  Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Plaid y Gweithwyr Sosialaidd Cenedlaethol   Edit this on Wikidata
Tad Richard Ribbentrop  Edit this on Wikidata
Mam Johanne Sophie Hertwig  Edit this on Wikidata
Priod Annelies von Ribbentrop  Edit this on Wikidata
Plant Rudolf von Ribbentrop, Bettina von Ribbentrop, Ursula von Ribbentrop, Adolf Richard von Ribbentrop, Barthold von Ribbentrop  Edit this on Wikidata
Llinach Ribbentrop  Edit this on Wikidata
Gwobr/au Coler Urdd Isabella y Catholig, Bathodyn y Parti Aur, Iron Cross 2nd Class, Order of the German Eagle, Danzig Cross, Urdd y Cyfarchiad Sanctaidd, Marchog Uwch Groes Urdd y Seintiau Maurice a Lasarus, Knight grand cross of the order of the crown of Italy, Uwch Groes Rhosyn Gwyn y Ffindir gyda Choler, Urdd Sant Steffan o Hwngari, Urdd Isabel la Catolica, Imperial Order of the Yoke and Arrows, Urdd Carlos Manuel de Cespedes, Q114840231  Edit this on Wikidata
llofnod
Joachim von Ribbentrop
[Reichsminister]
Yn ei swydd
4 Chwefror 1938 ? 30 Ebrill 1945
Fuhrer Adolf Hitler
Rhagflaenwyd gan Konstantin von Neurath
Dilynwyd gan Arthur Seyss-Inquart
Llysgennad yr Almaen i'r Deyrnas Gyfunol
Yn ei swydd
11 Awst 1936 ? 4 Chwefror 1938
Penodwyd gan Adolf Hitler
Rhagflaenwyd gan Leopold von Hoesch
Dilynwyd gan Herbert von Dirksen

Roedd Willy Ullrich Friedrich Joachim von Ribbentrop ond adnenbyd fel rheol fel Joachim von Ribbentrop yn Natsi Almaeneg, diplomydd a gwleidydd a chwaraeodd ran ffurfiannol ym mholisi tramor Almaen dan Adolf Hitler . Bedyddwyd Ullrich Willy Friedrich Joachim Ribbentrop (ganed Wesel , 30 Ebrill 1893 - marw Nuremberg , 16 Hydref 1946 ). Fe'i dienyddiwyd fel troseddwr rhyfel ar ol yr Ail Ryfel Byd .

Rhwng 1938 a 1945, roedd yn Weinidog Materion Tramor yn Llywodraeth Adolf Hitler. Un o'i gampau pwysicaf oedd y cytundeb di-ymddygiad ymosodol rhwng yr Almaen Natsiaidd a'r Undeb Sofietaidd gomiwnyddol dan y teyrn Stalin yn 1939 a roddodd y rhyddid i'r Almaen a'r Undeb Sofietaidd ymosod a rhannu Gwlad Pwyl a gan hynny, ddechrau cyflafan yr Ail Ryfel Byd .

Magwraeth [ golygu | golygu cod ]

Ganwyd Von Ribbentrop yn fab i swyddog yn y fyddin. Ar ol graddio o'r ysgol uwchradd, aeth i Ganada , lle cafodd swydd fel cynrychiolydd gwerthu. Ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf dychwelodd i'r Almaen i wasanaethu yn y fyddin. Ar ol y Rhyfel bu’n gweithio yn y fasnach win am ychydig flynyddoedd. Yn 1927 mabwysiadodd y rhagfynegiad bonheddig 'von' gan fodryb. Priododd Anneliese Henkell, dynes gyfoethog ac aelod o dylwyth Almaenig adnabyddus, a barodd iddo godi ymhellach ar yr ysgol gymdeithasol. Roedd "Ribs snob" yn un o'i lysenwau.

Gyrfa Natsiaidd [ golygu | golygu cod ]

Gweinidog y Reich, Joachim von Ribbentrop mewn ffurfwisg SS-Gruppenfuhrer , 1938

Ym 1932 ymunodd Von Ribbentrop a Plaid Genedlaethol Sosialaidd Gweithwyr yr Almaen ( NSDAP ) dan arweiniad Adolf Hitler . Cynigodd Von Ribbentrop helpu Hitler i gysylltu a Franz von Papen , Canghellor yr Almaen ar y pryd. Ar ol i Hitler gael ei benodi'n Ganghellor, daeth Ribbentrop yn un o'i gynghorwyr materion tramor. Ym 1934, fe'i penodwyd yn Gomisiynydd Diarfogi'r Reich (Genefa). O 1935 - 1938 bu'n llysgennad o 1936 yn gweithio yn Llundain. Llwyddodd i drafod aildrefnu Llynges yr Almaen (1935). Chwaraeodd ran flaenllaw yn y Cyfamod Dur rhwng yr Almaen a'r Eidal Ffasgaidd. Yn 1936 luniodd y Gytundeb Gwrth-Comintern a ddaeth i rym rhwng yr Almaen a Japan.

Roedd von Ribbentrop yn dalentog iawn yn ieithyddol (roedd yn siarad Saesneg a Ffrangeg rhugl), ond gyda'i ymddygiad llwyddodd i aflonyddu ar eraill yn rheolaidd. Er enghraifft, daeth a saliwt Hitler at frenin Prydain ac fe'i gelwid yn Llundain fel 'Brickendrop' (ystyr 'gollwng brics' yw gwneud blunder). Cymerodd ran yn y bygythiad o Arlywydd Tsiecoslofacia, Hacha . Doedd Galeazzo Ciano ddim yn hoff ohono..

Yr Ail Ryfel Byd [ golygu | golygu cod ]

Ym 1938 penodwyd von Ribbentrop yn Ysgrifennydd Gwladol. Bu'n cynrychioli'r Reich (oedd erbyn hyn yn cynnwys Awstria ) wedi'r Anschluß yn Cyflafareddiadau Fienna , ble dyranwyd tiriogaeth Tsiecoslofacia i Hwngari dan arweiniad y Rhaglaw Miklos Horthy yn 1938 ac yna rhan ogleddol Transylfania i Hwngari yn Ebrill 1939.

Yn rhinwedd y swydd honno, cwblhaodd gytundeb di-ymddygiad ymosodol (a elwir hefyd yn Cytundeb Molotov?Ribbentrop ) rhwng yr Almaen a'r Undeb Sofietaidd ar 23 Awst 1939. Wedi'r cytundeb, llwyddodd yr Almaen i oresgyn Gwlad Pwyl ym mis Medi 1939 a dechreuodd yr Ail Ryfel Byd. Dyma oedd uchafbwynt gyrfa von Ribbentrop.

Ym 1940, fe negododd y Cytundeb Tridarn gyda Japan a'r Eidal, gyda'r tair gwlad yn cytuno i gefnogi ei gilydd yn erbyn Unol Daleithiau America . Roedd o blaid cadw perthynas dda gyda'r Undeb Sofietaidd ac yn erbyn Cyrch Barbarosa sef yr ymosodiad ar yr Undeb Sofietaidd yn 1941. Yn hydref 1941, yn sgil polisi Lend-Lease sef cymorth American i Brydain a diwyddiadau ac ymosodiadau mynych rhwng llongau tanfor yr Almaen yr U-boot yng Nghefnfor yr Iwerydd a'r llongau rhyfel UDA oedd yn amddiffyn llongau masnach Prydain, gweithiodd Ribbentrop yn ddygn i danseilio trafodaethau rhwng yr UDA ac Ymerodraeth Siapan ac er mwyn hyrwyddo ymosodiadau gan Siapan ar yr UDA. [1] Gwnaeth ei orau glas i gefnogi datganiad rhyfel yr Almaen ar yr Unol Daleithiau wedi ymosodiad Siapan ar Pearl Harbour ar ddiwedd 1941. [2]

Wedi diwedd 1941 ac am gweddill ei ddeiliadaeth, ni chwaraeodd ran fawr bellach ar y sin wleidyddol. Yn 1945 cafodd ei roi o'r neilltu gan y Llyngesydd Donitz . Cafodd ei arestio yn Flensburg gan luoedd Gwlad Belg a thri milwr o Brydain. Yn 1946, fe'i rhoddwyd ger bron y llys yn Nhreial Nuremberg gydag un ar hugain o arweinwyr Natsiaidd eraill yr Almaen. Cyflwynodd yr erlynwyr dystiolaeth ei fod yn chwarae rhan weithredol yn y gwaith o gynllunio ymddygiad ymosodol yr Almaen ac alltudio Iddewon i'r gwersylloedd marwolaeth, yn ogystal a phledio am ladd awyrenwyr Americanaidd a Phrydain a gafodd eu saethu i lawr dros yr Almaen Natsiaidd. Fe'i cafwyd yn euog a'i ddedfrydu i'w grogi . Fe'i dienyddiwyd ar 16 Hydref 1946 yn Nuremberg.

Am rhywun oedd wedi ei benodi'n ddiplomat, roedd von Ribbentrop yn rhyfeddol o amhoblogaidd ymysg ei gyfoedion ac yn fynych yn pechu uchelswyddogion gwledydd eraill gyda'i agwedd trahaus a difeddwl. [3]

Gyrfa Filwrol [ golygu | golygu cod ]

Dolenni allanol [ golygu | golygu cod ]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Wikiquote
Wikiquote
Mae gan Wiciddyfynu gasgliad o ddyfyniadau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau [ golygu | golygu cod ]