Jim Steinman
|
---|
|
Ffugenw
| Jim Steinman
|
---|
Ganwyd
| James Richard Steinman
1 Tachwedd 1947
Claremont,
Dinas Efrog Newydd
|
---|
Bu farw
| 19 Ebrill 2021
o
methiant yr arennau
Danbury, Connecticut
|
---|
Dinasyddiaeth
| Unol Daleithiau America
|
---|
Alma mater
| - Coleg Amherst
- George W. Hewlett High School
|
---|
Galwedigaeth
| cyfansoddwr
,
canwr
,
cerddor
, cyfansoddwr caneuon, canwr-gyfansoddwr,
cynhyrchydd recordiau
,
pianydd
, cynhyrchydd, awdur geiriau
|
---|
Adnabyddus am
| Making Love Out of Nothing at All
|
---|
Arddull
| cerddoriaeth roc
|
---|
Cyfansoddwr
, awdur geiriau caneuon,
cynhyrchydd recordiau
, a
dramodydd
Americanaidd oedd
James Richard Steinman
(
1 Tachwedd
1947
?
19 Ebrill
2021
).
[1]
Gweithiodd hefyd fel trefnydd, pianydd, a chanwr. Roedd ei waith yn cynnwys caneuon yn yr arddulliau roc cyfoes, dawns, pop, theatr gerdd a sgor ffilm.
Roedd ei waith yn cynnwys albymau fel
Bat Out of Hell
gan Meat Loaf (sy'n un o'r albymau a werthodd mwyaf erioed)
[2]
a
Bat Out of Hell II: Back into Hell
, a chynhyrchu albymau ar gyfer
Bonnie Tyler
. Mae ei senglau siart mwyaf llwyddiannus yn cynnwys "Total Eclipse of the Heart" gan Tyler, "Making Love Out of Nothing at All " gan Air Supply , "I’d Do Anything for Love (But I Won't Do That) " gan Meat Loaf, " This Corrosion" a "More" gan Sisters of Mercy, "Read 'Em and Weep" gan
Barry Manilow
, fersiwn
Celine Dion
o "It's All Coming Back to Me Now" (a ryddhawyd yn wreiddiol gan brosiect Steinman, Pandora's Box). Ysgrifennodd Steinman geiriau y gan "No Matter What" gan
Boyzone
(y sengl cyntaf ac unig un y gr?p i fod yn boblogaidd a chyrraedd siartiau yr UDA). Rhyddhawyd unig albwm unigol Steinman
Bad for Good
ym 1981.
Roedd gwaith Jim Steinman hefyd yn ymestyn i theatr gerdd, lle dechreuodd ei yrfa. Cafodd Steinman gydnabyddiaeth am y llyfr, y gerddoriaeth, a'r geiriau ar gyfer
Bat Out of Hell: The Musical
, yn ogystal a geiriau ar gyfer
Whistle Down the Wind
, a cherddoriaeth i
Tanz der Vampire
.
Ganwyd Steinman yn Hewlett, Efrog Newydd.
[3]
Ei rieni oedd Louis ac Eleanor. Roedd o dras Iddewig.
[4]
Graddiodd Steinman o Ysgol Uwchradd George W. Hewlett yn 1965.
[5]
Yn 1963, yn ystod ei ail flwyddyn yn Ysgol Uwchradd Hewlett, enillodd Steinman gystadleuaeth traethawd
Newsday
ar Hanes America am ei draethawd ar yr hyn oedd yn credu oedd y tri dyfais Americanaidd gorau.
[6]
Derbyniodd Steinman ei radd baglor o Goleg Amherst ym 1969.
Ar adeg ei farwolaeth, roedd Steinman yn byw yn
Ridgefield, Connecticut
.
[7]
Cafodd Steinman stroc yn 2004 a chollodd y gallu i siarad dros dro.
[8]
Bu farw Steinman o
fethiant yr arennau
mewn ysbyty yn
Danbury, Connecticut
, ar 19 Ebrill 2021 yn 73 mlwydd oed.
[3]
[7]
Ar ol i Steinman farw, dywedodd yr awdur roc Paul Stenning iddo adael "etifeddiaeth aruthrol", gan gyfeirio ato fel "y cyfansoddwr mwyaf erioed o roc symffonig" a'i nodi fel dylanwad ar amrywiaeth o fandiau ar draws sawl genre.
[9]
- ↑
"1997 Grammy Awards"
(yn Saesneg). Grammy.com. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 12 Chwefror 2015
. Cyrchwyd
23 Mai
2011
.
- ↑
"50 Best Selling Studio Albums"
(yn Saesneg). This Day In Music
. Cyrchwyd
7 Chwefror
2021
.
- ↑
3.0
3.1
Genzlinger, Neil (20 Ebrill 2021).
"Jim Steinman, 'Bat Out of Hell' Songwriter, Dies at 73"
.
The New York Times
(yn Saesneg)
. Cyrchwyd
20 Ebrill
2021
.
- ↑
Bright, Spencer (8 Rhagfyr 1996).
"Jim'll Fix It (The Sunday Times)"
.
jimsteinman.com
(yn Saesneg)
. Cyrchwyd
31 Ionawr
2019
.
Clearly there is a mutual admiration society going on between the knight of the theatre and the half-Jewish New Yorker.
- ↑
Strauss, Matthew.
"Jim Steinman, Songwriter Behind Meat Loaf's Bat Out of Hell, Dies at 73"
.
Pitchfork
(yn Saesneg).
Archifwyd
o'r gwreiddiol ar 2021-04-21
. Cyrchwyd
2021-04-21
.
- ↑
"Congressional Record: Proceedings and Debates of the ... Congress - United States. Congress - Google Books"
.
web.archive.org
(yn Saesneg). 21 Ebrill 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-04-21
. Cyrchwyd
2021-04-21
.
CS1 maint: BOT: original-url status unknown (
link
)
- ↑
7.0
7.1
Brisco, Elise (20 Ebrill 2021).
"
'
Bat Out of Hell' songwriter and producer Jim Steinman dies at 73"
.
USA Today
(yn Saesneg). Gannett Co., Inc
. Cyrchwyd
21 Ebrill
2021
.
- ↑
"Jim Steinman - Amherst College - May 25th 2013 - Full Speech"
.
youtube.com
(yn Saesneg). 25 Mai 2013
. Cyrchwyd
24 Awst
2020
.
- ↑
Cyprus Mail, 21 Ebrill 2021
- Steinmania
- Yn cynnwys Recordiad 1969 o Dream Engine