Ysgrifwr
a
nofelydd
Awstriaidd
yn yr iaith
Almaeneg
oedd
Jean Amery
(Hanns Chaim Mayer;
31 Hydref
1912
?
17 Hydref
1978
) a wnai dynnu ar ei brofiadau o'r
Holocost
yn ei waith.
Ganed Hanns Chaim Mayer yn
Fienna
,
Awstria-Hwngari
, yn fab i dad
Iddewig
a mam
Gatholig
. Yn sgil marwolaeth ei dad yn
y Rhyfel Byd Cyntaf
, cafodd ei fagu'n Gatholig. Astudiodd athroniaeth yn Fienna. Yn sgil yr
Anschluss
ym 1938, ffoes i
Ffrainc
, ac yna i
Wlad Belg
. Yn ystod
yr Ail Ryfel Byd
, bu'n aelod o'r gwrthsafiad yn erbyn yr Almaenwyr yng Ngwlad Belg, a chafodd ei garcharu mewn
gwersylloedd crynhoi
yn Gurs, yn ne-orllewin Ffrainc, ac
Auschwitz
yng
Ngwlad Pwyl
. Ar ddiwedd y rhyfel, wrth i'r lluoedd Sofietaidd agosau, cafodd ei symud i wersylloedd Buchenwald a Bergen-Belsen.
Wedi'r rhyfel, gweithiodd yn newyddiadurwr. Daeth i'r amlwg pan ddechreuodd ysgrifennu am ei brofiad yn yr Holocost yng nghanol y 1960au. Darllenodd ei ysgrifau ar y radio, ac ym 1964 cychwynnodd ar sawl taith ddarlithio trwy'r
Almaen
ym 1964. Mabwysiadodd y ffugenw
Ffrangeg
Jean, cyfeiriad at
Jean-Paul Sartre
, ac Amery,
anagram
o'i gyfenw Mayer. Bu farw yn 65 oed trwy
hunanladdiad
, o orddos o gyffuriau tawelu, mewn gwesty yn
Salzburg
.
[1]
Derbyniodd wobr lenyddol oddi ar Academi Celfyddydau Cain Bafaria ym 1972, a gwobrau Fienna a Lessing ym 1977.
[1]
- Jenseits von Schuld und Suhne: Bewaltigungsversuche eines Uberwaltigten
(1966).
- Uber das Altern: Revolte und Resignation
(1968).
- Widerspruche
(1971).
- Unmeisterliche Wanderjahre
(1971).
- Hand an sich legen: Diskurs uber den Freitod
(1976).
- Lefeu, oder, der Abbruch: Roman-Essay
(1974).
- Charles Bovary, Landarzt
(1978).
- Rendezvous in Oudenaarde
(1982).
- ↑
1.0
1.1
(Saesneg)
K. Hannah Holtschneider, "
Amery, Jean
" yn
Reference Guide to Holocaust Literature
. Adalwyd ar wefan Encyclopedia.com ar 28 Tachwedd 2021.