Iesu o
Nasareth
(c. 6CC - c. 27), a elwir hefyd
Iesu
(neu
Isa
gan Fwslimiaid;
Iesu Grist
neu
Crist
gan Gristnogion), yw'r unigolyn canolog mewn
Cristnogaeth
. Mae'n golygu gwahanol bethau i wahanol bobl:
- Mae Cristnogion yn credu mai ef oedd unig Fab
Duw
. Yn ogystal, mae'r rhan fwyaf ohonynt yn credu mai ef oedd Duw ei hunan, sef ail Berson y Drindod wedi'i
ymgnawdoli
fel dyn.
[1]
- Mae
Mwslemiaid
yn credu ei fod yn broffwyd Duw, yn olynydd i
Ibrahim
a
Moses
ac yn rhagflaenydd i'r Proffwyd
Mohamed
.
[2]
[3]
- Mae'r rhan helaeth o academyddion yn credu mai person go iawn oedd ef.
[4]
[5]
[6]
[7]
[8]
[note 1]
Maent yn ei weld fel athro crefyddol
Iddewig
ond nid ydynt yn credu bod y
gwyrthiau
sydd yn gysylltiedig a'i fywyd wedi digwydd.
- Mae rhai yn cwestiynu a oedd Iesu Grist yn berson go iawn ac yn meddwl mai ffrwyth dychymyg ei ddisgyblion cynnar oedd ef. Er hyn, damcaniaeth ymylol yw hon nad yw'n cael ei chredu gan braidd dim ysgolheigion.
[13]
Hanes Iesu Grist yn ol y traddodiad Cristnogol
[
golygu
|
golygu cod
]
Iddew
oedd Iesu Grist yn byw ym
Mhalesteina
tua dwy fil o flynyddoedd yn ol. Yn draddodiadol, cymerwyd dyddiad geni Iesu ar
25 Rhagfyr
yn y flwyddyn
1 CC
yn ol y drefn
Anno Domini
a grewyd gan
Dionysius Exiguus
yn
525
. Cred rhai ysgolheigion mai
1 OC
oedd Dionysius yn ei fwriadu fel blwyddyn geni Iesu. Mae'r hanes yn yr Efengylau yn awgrymu dyddiad ychydig cynharach, gan fod cyfeiriad at
Herod Fawr
a fu farw yn
4 CC
.
Ganed ef
yn nhref
Bethlehem
, ond treuliodd ei ieuenctid yn
Nasareth
,
Galilea
. Roedd yr Iddewon yn cael eu rheoli gan y
Rhufeiniaid
, ac roedd yn gas ganddynt hyn ac yn credu bod y proffwydi wedi rhag-ddweud y byddai y
Meseia
yn dod i'w rhyddhau. Daeth llawer ohonynt i gredu mai Iesu Grist oedd y Meseia hwnnw. Crwydrodd o gwmpas Palesteina yn pregethu a dysgu'r bobl gyda deuddeg disgybl yn ei helpu. Roedd hefyd yn iachau pobl ac yn gwneud gwyrthiau. Am ei fod mor boblogaidd roedd yr awdurdodau crefyddol Iddewig yn ofni bod Iesu Grist yn cael gormod o ddylanwad ar y bobl ac roeddent am gael gwared ohono. Yn y fe lwyddon nhw i berswadio
Pontius Pilat
, y rhaglaw Rhufeinig, i gytuno i'w groeshoelio am ei fod, yn ol yr awdurdodau Iddewig, yn fygythiad i awdurdod Rhufain.
Mae'r Efengylau yn dweud wrthym fod Iesu Grist wedi
codi o'r bedd
ar y trydydd dydd ar ol ei groeshoelio.
Roedd Iesu Grist wedi gofyn i'r disgyblion barhau gyda'r gwaith o ddysgu'r bobl am Dduw. Dau berson pwysig a wnaeth lawer i sicrhau y byddai
Cristnogaeth
yn tyfu oedd
Pedr
a
Paul
a weithiasant fel cenhadon dros y ffydd newydd yn y
Lefant
ac
Asia Leiaf
.
Traddodiadau apocryffaidd a phoblogaidd Cristnogol
[
golygu
|
golygu cod
]
Ceir sawl hanes a thraddodiad
apocryffaidd
am yr Iesu yn y traddodiad Cristnogol. Y llyfr apocryffaidd enwocaf amdano yng
Nghymru
'r
Oesoedd Canol
yw
Mabinogi Iesu Grist
.
Hanes Iesu yn ol y traddodiad Islamaidd
[
golygu
|
golygu cod
]
Yn
Islam
, ystyrir fod Isa (
Arabeg
: ????) yn broffwyd annwyl gan Dduw ac yn Feseia. Yn ol y
Coran
ganwyd Isa heb dad biolegol i Miriam (neu Maryam:
y Forwyn Fair
) trwy ewyllys
Allah
(Duw). Felly fe'i gelwir Isa ibn Maryam (Iesu mab Mair), gan ddefnyddio'r enw mamiarchaidd am nad oes ganddo dad (Coran 3:45, 19:21, 19:35, 21:91). Fel y proffwydi eraill roedd bywyd Isa yn ddi-fai. Roedd yn garedig i bobl ac anifeiliaid ac yn byw mewn tlodi a phurdeb.
Roedd yn medru gwneud gwyrthiau ond dim ond trwy ewyllys Duw; dyn oedd ef, nid Mab Duw. Mae'r Coran yn rhybuddio yn erbyn credu mewn dwyfolaeth Isa (Coran 3:59, 4:171, 5:116-117). Dyw Mwslemiaid ddim yn credu yn y croeshoeliad ac aberth Iesu; credant mai hud a lledrith gan Dduw oedd hynny i dwyllo gelynion Isa a'i fod wedi'i ddwyn yn syth i'r nef (Coran 4:157-158).
Traddodiadau apocryffaidd a phoblogaidd Islamaidd
[
golygu
|
golygu cod
]
Ceir sawl traddodiad apocryffaidd yngl?n ag Isa. Roedd yn gwrthod alcohol ac yn llyseuwr. Credir bod Isa wedi derbyn efengyl o'r enw Injil gan Dduw a bod honno'n cyfateb i'r
Testament Newydd
, ond ei fod wedi cael ei llygru gydag amser.
Gan ddilyn rhai o'r dywediadau a briodolir i Mohamed, mae rhai Mwslemiaid yn credu y daw Isa yn ol yn y cnawd ar ol
Imam Mahdi
(y proffwyd ail olaf) i drechu'r
Dajjal
("Y Twyllwr"; ffigwr
Gwrth-Grist
). Bydd yn disgyn yn
Damascus
o'r nef ac yn byw gweddill ei oed naturiol yn ymladd drygioni. Mae Mwslemiaid
Sunni
yn credu y bydd yn cael ei gladdu ym
Medina
, yn ymyl
Mohamed
. Nid yw pawb yn derbyn hynny o bell ffordd.
Mae enwad fach yr
Ahmadiyyaid
yn credu bod Isa wedi goroesi'r croesholiad a theithio i
Kashmir
lle bu farw fel proffwyd dan yr new Yuz Asaf a chael ei gladdu yn
Srinagar
: mae hyn yn
heresi
i'r mwyafrif o Foslemiaid.
Mae sawl awdur wedi ystyried yr Iesu yng ngoleuni
mytholeg
gymharol ac yn honni bod elfennau o gredoau a thraddodiadau
paganaidd
y cyfnod wedi eu benthyg, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, gan yr
eglwys
gynnar.
- ↑
Dywed
Richard A. Burridge
: "There are those who argue that Jesus is a figment of the Church’s imagination, that there never was a Jesus at all. I have to say that I do not know any respectable critical scholar who says that anymore."
Y
Testament Newydd
yw'r brif ffynhonnell. Golygwyd y pwysicaf o'r llyfrau apocryffaidd gan M.R. James yn
The Apocryphal New Testament
(Rhydychen, 1924; arg. newydd 1953).
Mae sawl pennod yn y
Coran
yn ymwneud a'r proffwyd Isa a'i fam
Miriam
. Ceir yn ogystal sawl llyfr a thraddodiad apocryffaidd amdano (ceir manylion am rai ohonynt yng ngolygiad M.R. James o Apocryffa'r Testament Newydd, uchod).
- ↑
"Who is Jesus? What Do Christians Believe?" Johns Hopkins University. Graduate Christian Fellowship.
[1]
Archifwyd
2013-03-04 yn y
Peiriant Wayback
. 1 Mai 2013
- ↑
Glasse, Cyril (2001).
The new encyclopedia of Islam, with introduction by Huston Smith
(arg. Edition revisee.). Walnut Creek, CA: AltaMira Press. t. 239.
ISBN
9780759101906
.
- ↑
The Oxford Dictionary of Islam
, p.158
- ↑
In a 2011 review of the state of modern scholarship,
Bart Ehrman
(a secular agnostic) wrote: "He certainly existed, as virtually every competent scholar of antiquity, Christian or non-Christian, agrees" B. Ehrman, 2011
Forged : writing in the name of God
ISBN
978-0-06-207863-6
. p. 285
- ↑
Robert M. Price
(an atheist who denies the existence of Jesus) agrees that this perspective runs against the views of the majority of scholars: Robert M. Price "Jesus at the Vanishing Point" in
The Historical Jesus: Five Views
edited by James K. Beilby & Paul Rhodes Eddy, 2009 InterVarsity,
ISBN
028106329X
p. 61
- ↑
Michael Grant
(a
classicist
) states that "In recent years, 'no serious scholar has ventured to postulate the non historicity of Jesus' or at any rate very few, and they have not succeeded in disposing of the much stronger, indeed very abundant, evidence to the contrary." in
Jesus: An Historian's Review of the Gospels
by Michael Grant 2004
ISBN
1898799881
p. 200
- ↑
Robert M. Price
(a Christian atheist) who denies the existence of Jesus agrees that this perspective runs against the views of the majority of scholars: Robert M. Price "Jesus at the Vanishing Point" in
The Historical Jesus: Five Views
edited by James K. Beilby & Paul Rhodes Eddy, 2009 InterVarsity,
ISBN
0830838686
p. 61
- ↑
Jesus Now and Then
by Richard A. Burridge and Graham Gould (April 1, 2004)
ISBN
0802809774
p. 34
- ↑
Ehrman, Bart
(25 April 2012).
"Fuller Reply to Richard Carrier"
.
The Bart Ehrman Blog
. Cyrchwyd
2 Mai
2018
.