Cangen o'r ieithoedd Germanaidd, rhan o'r teulu o
ieithoedd Indo-Ewropeaidd
yw'r
ieithoedd Germanaidd gogleddol
. Mae'r gangen yn cynnwys ieithoedd
Llychlyn
:
Daneg
,
Ffaroeg
,
Islandeg
,
Norwyeg
a
Swedeg
. Maen nhw i gyd yn tarddu'n hanesyddol oddi wrth
Hen Norseg
. Fe'u siaredir yn frodorol dros gwledydd y Llychlyn,
Denmarc
,
Gwlad yr Ia
,
Norwy
a
Sweden
a hefyd gan leiafrif yn
y Ffindir
.
Yn draddodiadol, fe ddosberthir yr ieithoedd Germanaidd gogleddol yn ddau gr?p: y gr?p gorllewinol, yn cynnwys
Islandeg
,
Ffaroeg
a
Norwyeg
, a'r gr?p dwyreiniol,
Daneg
a
Swedeg
. Mae'r dosbarthad hwnnw yn adlewyrchu ffactorau hanesyddol, gan fod yr Islandeg a'r Ffaroeg wedi datblygu allan o dafodieithoedd Hen Norseg a siaradwyd yn
Norwy
. Heddiw tueddir hefyd i ddefnyddio dosbarthiad yn Scandinafeg Ynysig (
Islandeg
a
Ffaroeg
) a Scandinafeg Gyfandirol (
Daneg
,
Swedeg
a
Norwyeg
). Mae'r ail ddosbarthiad yn rhoi blaenoriaeth i ffactorau synchronig, yn enwedig, debygrwydd yr ieithoedd heddiw, gan gynnwys gradd cyd-ddealtwriaeth rhyngddynt.
Mae'r gwahaniaethau ieithyddol rhwng yr ieithoedd Scandinafaidd Cyfandirol heddiw yn fychan. Mae'r rhesymau dros eu rhannu nhw'n dair iaith heddiw yn bennaf yn wleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol, yn hytrach nag yn ieithyddol. Mae gradd uchel ar gyd-ddealltwriaeth rhyngddynt, yn enwedig rhwng Bokmal Norwyeg a Daneg.