- Am y ci, gweler
Hokkaido (ci)
.
Un o bedair ynys fawr
Japan
yw
Hokkaid?
(北海道,
Hokkai-d?
), wedi ei lleoli yng ngogledd y wlad. Gydag arwynebedd o 78,719 km², hi yw ynys ail-fwyaf Japan; mewn cymhariaeth mae arwynebedd Ynys Mon yn 714 km². Y ddinas fwyaf yw
Sapporo
. Saif i'r gogledd o ynys
Honsh?
; mae twnnel rheilffordd Seikan yn cysylltu'r ddwy ynys. Roedd y boblogaeth yn 5,507,456 yn
2010
.
Defnyddir "Hokkaid?" hefyd fel enw rhanbarth a talaith. Mae'r rhain yn cynnwys nifer o ynysoedd llai o'i chwmpas. Y fwyaf o'r rhain yw ynys
Etorofu
(3,185 km²), ynys fwyaf gogleddol Japan, sydd ym meddiant
Rwsia
ers yr
Ail Ryfel Byd
. Mae'r boblogaeth yn cynnwys lleiafrif o
Ainu
.