Gwrthwynebiad i'r ideoleg wleidyddol ac economaidd
comiwnyddiaeth
yw
gwrth-gomiwnyddiaeth
. Mae nifer o wrth-gomiwnyddion yn gwrthwynebu damcaniaeth gomiwnyddol, gan gynnwys syniadau
Marcsiaeth
,
Leniniaeth
,
Maoaeth
, a
Stalinaeth
, yn ogystal ag effeithiau a chanlyniadau llywodraethau comiwnyddol. Ymysg y beirniadaethau yw natur
dotalitaraidd
llywodraethau comiwnyddol a
throseddau yn erbyn dynoliaeth
ganddynt.
Ceir gwrth-gomiwnyddion ar draws y sbectrwm gwleidyddol. Ar yr adain chwith, mae nifer o
sosialwyr
yn beirniadu comiwnyddiaeth gan ei bod yn wrth-
ddemocrataidd
. Mae rhai
anarchwyr
a
rhyddewyllyswyr
yn gweld comiwnyddiaeth yn "
unbennaeth
y werin" ac yn ei beirniadu o safbwynt
unigolyddol
. Mae
ceidwadwyr
a
chyfalafwyr
yn gwrthwynebu seiliau economaidd damcaniaeth gomiwnyddol, megis
ailddosbarthu cyfoeth
. Roedd gwrth-gomiwnyddiaeth yn un o brif ddaliadau
Natsiaeth
a mudiadau
ffasgaidd
eraill, a nifer o ffasgwyr yn pwysleisio cyswllt honedig comiwnyddiaeth,
Bolsieficiaeth
yn enwedig, a'r
Iddewon
. Daw wrth-gomiwnyddiaeth hefyd o safbwynt
crefyddol
, er enghraifft
yr Eglwys Gatholig
.
Roedd gwrth-gomiwnyddiaeth ar ei hanterth yn ystod
Chwyldro Hydref
, oes ffasgiaeth yn Ewrop yn
y cyfnod rhwng y rhyfeloedd
a'r
Ail Ryfel Byd
, ac
y Rhyfel Oer
: yn wir, unrhyw adeg roedd comiwnyddiaeth ar ei hanterth.