Sefydliad sy'n darparu
llety
am dal am gyfnodau byr ydy
gwesty
. Yn y gorffennol, arferai llety elfennol olygu ystafell gyda
gwely
, cwpwrdd, bwrdd bychan a
sinc
ond i raddau helaeth mae ystafelloedd mewn gwestai mwy modern yn cynnwys cyfleusterau megis
ystafell ymolchi
en-suite
a pheiriant rheoli'r tymheredd. Yn aml, ceir cyfleusterau ychwanegol fel
ffon
,
cloc larwm
,
teledu
a chysylltiad i'r
rhyngrwyd
; gellir darparu byrbrydau a diodydd yn y
bar-bychan
, ac offer er mwyn gwneud diodydd poeth. Mae gan nifer o westai mwy o ran maint gyfleusterau fel
bwytai
,
pyllau nofio
, ac ystafelloedd cynadledda. Fel arfer, rhifir ystafelloedd mewn gwestai er mwyn i'r cwsmeriaid fedru adnabod eu hystafell.
Roedd gan y Rhufeiniaid dai llety ar hyd y prif ffyrdd. "Mansio" oedd enw'r math yma o adeilad.
[1]
Dechreuodd llawer o westai ym Mhrydain fel tafarndai coetsis, fel y
Gwesty'r Angel, Caerdydd
[2]
a
Gwesty'r Arth, y Bont-Faen
.