Gwesty

Oddi ar Wicipedia
Gwesty
Math llety, adeilad masnachol, menter  Edit this on Wikidata
Rhan o diwydiant croeso, diwydiant gwesty, sector gwasanaeth bwyd a gwesty  Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Gwesty'r Arth, y Bont-Faen , ym 1962
Gwesty Llao Llao, Bariloche , yr Ariannin

Sefydliad sy'n darparu llety am dal am gyfnodau byr ydy gwesty . Yn y gorffennol, arferai llety elfennol olygu ystafell gyda gwely , cwpwrdd, bwrdd bychan a sinc ond i raddau helaeth mae ystafelloedd mewn gwestai mwy modern yn cynnwys cyfleusterau megis ystafell ymolchi en-suite a pheiriant rheoli'r tymheredd. Yn aml, ceir cyfleusterau ychwanegol fel ffon , cloc larwm , teledu a chysylltiad i'r rhyngrwyd ; gellir darparu byrbrydau a diodydd yn y bar-bychan , ac offer er mwyn gwneud diodydd poeth. Mae gan nifer o westai mwy o ran maint gyfleusterau fel bwytai , pyllau nofio , ac ystafelloedd cynadledda. Fel arfer, rhifir ystafelloedd mewn gwestai er mwyn i'r cwsmeriaid fedru adnabod eu hystafell.

Hanes [ golygu | golygu cod ]

Roedd gan y Rhufeiniaid dai llety ar hyd y prif ffyrdd. "Mansio" oedd enw'r math yma o adeilad. [1]

Dechreuodd llawer o westai ym Mhrydain fel tafarndai coetsis, fel y Gwesty'r Angel, Caerdydd [2] a Gwesty'r Arth, y Bont-Faen .

Cyfeiriadau [ golygu | golygu cod ]

  1. Guy De la Bedoyere (1992). English Heritage Book of Roman Towns in Britain (yn Saesneg). B.T. Batsford. t. 57. ISBN   9780713468939 .
  2. Wells, Martin (5 Rhagfyr 2013). "Brian Lee recalls the illustrious history of one of Cardiff's legendary coaching inns" . Wales Online (yn Saesneg) . Cyrchwyd 24 Mai 2015 .