Digwyddiad aml-chwaraeon
rhyngwladol
pwysig oedd
Gemau Olympaidd yr Haf 1948
, a adnabyddir yn swyddogol fel
Gemau'r XIV Olympiad
. Fe'i cynhaliwyd yn
Llundain
,
Lloegr
, o
29 Gorffennaf
hyd
14 Awst
1948
. Wedi seibiant o 12 mlynedd oherwydd yr
Ail Ryfel Byd
, rhain oedd Gemau Olymaidd yr Haf cyntaf i gael eu cynnal ers
Gemau 1936
yn
Berlin
. Roedd Gemau 1940 wedi cael eu cynllunio ar gyfer
Tokyo
, ac yna
Helsinki
; ac roedd Gemau 1944 i fod wedi cael eu cynnal yn Llundain. Dyma oedd yr ail dro i Lundain gynnal y Gemau Olympaidd, wedi i'r ddinas fod yn lleoliad ar gyfer
1908
. Dychwelodd y Gemau i Lundain eto yn
2012
.