Un o
daleithiau
dwyreiniol
Unol Daleithiau America
yw
Talaith Florida
neu
Florida
, neu weithiau'n Gymraeg:
Fflorida
,
[1]
gorynys fawr rhwng y
Cefnfor Iwerydd
a'r
Gwlff Mecsico
. Fe enwodd
Juan Ponce de Leon
y dalaith yn
1513
.
Ym 1763 bu Prydain yn ffeirio
Cuba
am Florida wedi i'r Prydeinwyr meddiannu dinas
La Habana
/
Hafana
. Symudwyd y boblogaeth Sbaeneg i Guba wedyn. Yn 2010 roedd y boblogaeth yn 18,801,310.
[2]
Mae gan y dalaith arwynebedd o 65,755 milltir sgwar (170,305 km2), a dyma yw'r 22 dalaith fwyaf o ran maint o holl daleithiau'r Unol Daleithiau. Mae gan Florida yr arfordir cydgyffyrddol hiraf yn yr Unol Daleithiau, yn gorchuddio tua 1,350 o filltiroedd (2,170 km). Ceir pedair ardal ddinesig fawr, nifer o ddinasoedd diwydiannol llai o ran maint, a nifer o drefi bychain yno.
Roedd Florida’r 27ain o’r taleithiau i ymuno a’r
Unol Daleithiau
ym 1845. Prifddinas y dalaith yw
Tallahassee
.
O’r 19g ymlaen daeth pobl o daleithiau eraill, denwyd gan dywydd cynhesach Florida. Erbyn y 20g roedd twristiaeth wedi dod yn bwysig i Florida. Agorwyd
Disney World
ym 1971. Mae ganddo maint o 30,500 o aceri, ac yn denu tua 46 miliwn o ymwelwyr yn flynyddol.
[3]
Mae
Canolfan Ofod Kennedy
wedi bod yn allweddol i gyflawniadau’r Unol Daleithiau yn y maes
Gofod
ac hefyd yn denu twristiaid.
Mae gan Florida gorsydd mawr. Yr un mwyaf yw
Cors Everglades
. Rhennir un arall,
Cors Okefenokee
, efo
Georgia
.
1
|
Jacksonville
|
813,518
|
2
|
Miami
|
399,457
|
3
|
Tampa
|
345,556
|
4
|
St. Petersburg
|
248,098
|
5
|
Orlando
|
235,860
|
6
|
Tallahassee
|
172,574
|
7
|
Fort Lauderdale
|
184,892
|
8
|
Melbourne
|
76,068
|
9
|
Pensacola
|
76,068
|
10
|
Key West
|
25,478
|
11
|
Lake Wales
|
12,071
|