Yr Ymerawdwr Bysantaidd Honorius
, gan
Jean-Paul Laurens
(1880). Daeth Honorius yn "Augustus" ar
23 Ionawr
393
, yn naw oed.
Roedd
Flavius Honorius
(
9 Medi
384
?
15 Awst
423
) yn
Ymerawdwr Rhufeinig
(
393
?
395
) ac yna'n Ymerawdwr Rhufeinig yn y gorllewin hyd ei farwolaeth.
Roedd yn fab ieuengaf i
Theodosius I
a'i wraig gyntaf
Aelia Flaccilla
. Cyhoeddwyd Honorius yn "Augustus", ac felly'n gyd-ymerawdwr a'i dad, ar
23 Ionawr
393
, yn naw oed.
Ar farwolaeth ei dad yn Ionawr 395 rhannwyd yr ymerodraeth rhyngddo ef a'i frawd
Arcadius
, a ddaeth yn ymerawdwr yn y dwyrain.
Yn ystod y rhan gyntaf o'i deyrnasiad, roedd Honorius yn dibynnu ar y cadfridog
Fandalaidd
Stilicho
. Priododd ferch Stilicho, Maria. Pan ymosododd y
Fisigothiaid
ar yr Eidal yn
402
, symudodd Honorius y brifddinas i
Ravenna
. Yn ystod ei deyrnasiad bu nifer o wrthryfeloedd ac ymgeisiadau i gipio'r orsedd, ynghyd ag ymosodiadau gan y barbariaid. Yn
408
cymerwyd Stilicho i'r ddalfa a'i ddienyddio. Yn
410
cipiwyd Rhufain gan
Alaric I
, brenin y Fisigothiaid.
Bu farw Honorius yn 423, heb adael etifedd. Y flwyddyn ddilynol enwebodd yr ymerawdwr yn y dwyrain,
Theodosius II
, ei gefnder
Valentinian III
, mab
Galla Placidia
a
Constantius III
, yn ymerawdwr yn y gorllewin.