Mamal
cigysol
o deulu'r carlymfilod (
Mustelidae
), sef teulu'r
wenci
a'r
carlwm
, yw'r
ffwlbart
(lluosog: 'ffwlbartiaid',
Lladin
:
Mustela putorius
), a elwir hefyd yn
ffwlbart gyffredin
,
du
neu
ffwlbart y goedwig
,
ffured Ewropeaidd
, neu
ffuret gwyllt
. Fe'i ceir yng nghoedydd, ffermdiroedd a gwlyptiroedd ar draws
Ewrop
. Mae'n bwydo ar
gwningod
,
cnofilod
,
llyffantod
a
thrychfilod
. Dyma un o hynafiad gwyllt y
ffured
dof.
Mae ei gorff a'i ben yn 20?46 cm o hyd ac mae ei gynffon yn 7?15 cm. Brown tywyll yw lliw ei flew gyda blew melyn ar ei ystlysau a phatrwm du a gwyn trawiadol ar ei wyneb. Mae'n greadur swil iawn ac i'w weld allan yn y nos. Mae'n nofiwr cryf ac yn gallu dal pysgod ond
mamaliaid
bychain yw ei hoff fwyd.
Roedd y ffwlbart (
Mustela putorius
) yn gyffredin trwy Brydain ar un adeg ond erbyn dechrau'r
20g
yn gyfyngedig i
Eryri
a Chanolbarth Cymru. Wrth i gipera leihau o'r
1920au
, a thrapio cwningod leihau o'r
1950au
, cynyddodd yn gyflym. Goroesodd y rhywogaeth yng Nghymru gan ymledu trwy ganolbarth Lloegr a cheir niferoedd cynyddol yn Lloegr a'r
Alban
heddiw. Fe'i croeswyd a'r
ffured
ddof i greu'r “ffured ddu” sy'n ddiguro ar gyfer hela cwningod a difa llygod mawr.
Ar ddechrau'r
21g
credir bod dros 17,000 ohonynt yng Nghymru.
Pa dystiolaeth gynhanesyddol o'r oes
holosen
sydd am bresenoldeb y ffwlbart yng Nghymru a/neu Brydain?
- 1. Mae cofnodion o 9 is-ffosil a gafwyd o waddodion Pleistosen o ffwlbart
Mustela putorius
, 3 ohonynt o Gymru
[1]
. Fodd bynnag, nid yw cofnodion yr is-ffosiliau hyn wedi eu dyddio'n fanwl, neu wedi eu dyddio o gwbl
[2]
- 2. Gellid dehongli naws ogleddol dosbarthiad Ewropeaidd y ffwlbart
[3]
fel arwydd iddo gyrraedd Prydain trwy ymlediad naturiol i'r gogledd o dde Ewrop ar ol enciliad y rhewlif ond cyn iddi gael ei hynysu. Yn y cyswllt yma mae'n ddadlennol cymharu dosbarthiad Ewropeaidd gogleddol
belau'r coed
Martes martes
a gyrrhaeddodd Brydain gyda
belau'r graig
Martes foina
sydd a dosbarthiad Europeaidd mwy deheuol ac na chyrrhaeddodd Prydain o gwbl (er iddo gyrraedd gogledd
Ffrainc
).
[4]
[1]
Beth ddywed yr enwau wrthym?
[
golygu
|
golygu cod
]
Yn 2002 cododd erthygl yng nghylchgrawn
Mammal Review
Cymdeithas y Mamoliaid
(''The Mammal Society'')
amheuon ynghylch statws cynhenid y ffwlbart yng Nghymru a Phrydain gan ddadlau bod y
record ffosil
prin a thystiolaeth
ieithyddol
gynnar yn bwrw amheuon ar y statws hwn. Yn wahanol i fwyafrif anifeiliaid cynhenid Prydain, nid yw enw
Cymraeg
y ffwlbart o gyff
Celtaidd
- mae'n tarddu o'r
Saesneg Canol
foulmart
) nid yn annhebyg i fwyafrif rhywogaethau estron Prydain megis y
gwningen
a'r
danas
(enwau sy'n tarddu, yn eu trefn, o'r Saesneg Canol
konyng
a
Hen Ffrangeg
dain
). Nid oes son am ffwlbart mewn
llenyddiaeth Eingl-Sacsoneg
na chwaith mewn
llenyddiaeth Gymraeg
, cyn y
Concwest Normanaidd
yn 1066. Y cyfeiriad cyntaf ato yn y Gymraeg fu yn
Llyfr Coch Hergest
y
14g
ac yn Saesneg yn
The Pardoner’s Tale
(1383) gan
Chaucer
. Mewn cyferbyniad, mae tystiadau i'r gair Cymraeg
bele
Martes martes
yn mynd yn ol o leiaf i
Gyfreithiau Cymreig
y
10g
, ac o bosibl, llawer ynghynt yn yr
Hen Ogledd
(yng ngororau'r Alban a Lloegr)
[4]
[5]
[6]
Enwau Llydaweg am y ffwlbart yw
pudask
,
putoask
a
puteos
, pob un yn tarddu o'r Ffrangeg
putois
[7]
. Nid oes atgof 'Celtaidd' felly yn yr iaith Lydaweg (iaith a gafodd ei ffurfio o'r Frythoneg yn y 5ed a'r
7g
gan ymfudiad siaradwyr yr ieithoedd hynny) yn Llydaw chwaith. Gellid dehongli'r absenoldeb hwn yn yr eirfa Gymraeg fel dadl i amau presenoldeb y ffwlbart yn nhiriogaeth siaradwyr Cymraeg cynnar ar y pryd)
[4]
. Y ffwlbart yw'r unig famal a ystyrir yn gynhenid, sydd ag enw Cymraeg o darddiad estron)
[8]
.
Yn groes i'r casineb at y ffwlbart a ddisgrifiwyd (yn Lloegr) uchod, mae rhai cerddi rhamantaidd o Oes Fictoria yn adlewyrchu peth edmygedd ohono, ac ar y cyfan mae'r enghreifftiau canlynol yn defnyddio mwy o eiriau positif ("hynod", "heb ei eilydd", "ffel", "swilaidd", "aidd") na negyddol ("bryd Pharo", "drewaidd"):
- Nos-deithydd yn ystwytho - ei goesau
- Yn gyson i reibio
- Hynod ei wedd ydyw o,
- Brawd ffured o bryd Pharo
.
- R. Roberts
[9]
- Byw heliwr heb ei eilydd - yw
- Ffwlbart a ffel ben nos-deithydd
- Pwy a ddeil yr ysbeilydd
- Allan o'i dwll yn y dydd!
- Dienw
[9]
- Y Ffwlbart
(Buddugol yn Cwrtnewydd)
- Nos heliwr yw'r 'Ffwlbart' 'swilaidd - y clawdd
- Yw cled[sic.] noddfa'r drewaidd
- Un yw ef yn llawn o aidd,
- Byr ei goes yw'r bar gwasaidd.
- Ben Davies, Glancerdin
[10]
Mae eraill yn cymharu'r ffwlbart o phethau a ystyrid yn annymunol, megis dyfodiad y modur, gydag ansoddeiriau negyddol yn bennaf ("anwaraidd", "rhywyllt", "drewi", "baw"):
- Y Modur
- Olwynog ffwlbart diflinaw, na erys,
- Anwaraidd ei gyffraw,
- Ad[sic.] yn rhywyllt, dan ruaw,
- Y byd mewn drewi a baw.
- Y Brython Cymreig (10ed Mehefin 1909)
Mewn enghraifft arall cyfleir peth o ddirgelwch yr anifail a ddarganfuwyd yng ngardd Maesymeillion - "y trydydd welwyd yno yn ystod y ddau fis diweddaf". Mae'r adroddiad yn helaethu: "Methir a dyfalu beth a'u huda i le mor beryglus, a beth sydd a fynont a gardd Maesymeillion mwy na rhyw ardd gyffredin arall. Crea y digwyddiadau gryn syndod ymysg yr ardalwyr, a gofynant gydag un llais..."
angen ffynhonnell
:
- Pa ddewin a ddywed beth huda'r ffwlbartiaid
- I ardd Maesymeillion - i le mor felldigaid
- I bwll y sugnedydd yn druain eu cyflwr,
- I fyn'd yn ddirybudd dan law'r dienyddwr?
- Llais o Gwmdyllest[sic.?] yn Y Brython Cymreig (21ain Ionawr 1898)
- Daliodd Mr W. Hughes, y Ffridd, ffwlbart nos Fawrth diweddaf. Daliwr heb ei fath yw. Beth pe rhoddem y gwaith o ddal y Kaiser iddo?
[11]
- GWEITHRED DDEWR
[dan golofn am Lwynrhydowen]
Wrth son am gwn, darfu i ast fechan Mr D Thomas, Cloth Hall
[Nantlle?]
, ladd ffwlbart yn ddiweddar yn llawer mwy ei faintioli na hi. Dyma weithred werth ei chroniclo, onide? Er mai bychan ydyw o gorff eto fel ei mheistr, medda ar ysbryd penderfynol a di-ildio. Dywedir ei bod yn greadur bach addfwyn iawn a hawdd ei thrin hyd nes y cyferfydd a "Shorthorn" ac yna, gyrrir hi i gynddeiriogrwydd bron gan ysgyrnygu ei dannedd yn arswydus. Nis gallaf gan fy nghydwybod ei beio am hyn. Ni wyddis yn iawn beth a'i cymhellodd i ymddwyn mor greulon tuag at y ffwlbart, druan; bernir yn gyffredin fod sawr Shortornaidd arno. GWYLIWR
[12]
Llen gwerin ac anecdotau ayb.
[
golygu
|
golygu cod
]
- Y Naw Helwriaeth: Dringhedydd yw pob peth a ddringo i frig pren i'w amddiffyn ei hun. Ac ni ddyly heliwr ddywedyd bele, neu gath goed, neu wiwair, neu ffwlbart, ond eu galw dringhedydd llwyd, dringhedydd du, dringhedydd coch.
[13]
- Fodd bynag, sydyn, rhuthrodd amryw o'r bobl i fyny i'r clochdy... Ar eu gwaith yn agosau at y gloch, canfyddasant, er eu syndod, ffwlbart mawr, wedi ddyrysu yn y rhaff, yr hwn, yn ei waith yn ymdrechu i ddianc, a ganai y gloch, ac a fu yn achos o'r holl gynnwrf yn y Pentref
[14]
Dywedir: “yn drewi fel ffwlbart”, “yn ddiog fel ffwlbart”.
Yn wahanol i'r
bele
, nid oes enwau lleoedd hysbys yng Nghymru sydd yn cyfeirio at ffwlbart (Mae ambell enghraifft o
Nyth Cacwn
difriol, a
Nyth Dryw
,
[2]
, ac fe glywir cyfeiriadau llafar at "Nyth Ffwlbart" fel enw ar d? anniben). Mae'r absenoldeb hwn yn gyson a'r dybiaeth nad anifail cynhenid yw'r ffwlbart.
- Tua deg o'r gloch nos Iau Gorffennaf 5ed [2018], roedd Contractor yn cyrraedd yma i barselu/lapio Byrnau Mawr mewn Plastig. Pan oedd yn troi o'r ffordd fawr i'r lon yma, fe welodd chwech neu saith o Ffwlbariaid ifanc... Dwy flynedd yn ol fe welwyd golygfa debyg ar och y (ffordd) allt Foel Gosydd [sic.], llai na hanner milltir oddiyma
[15]
.
Yn y Saesneg daeth y gair
polecat
i olau dydd ar ol
Concwest Normanaidd Lloegr
, wedi ei ysgrifennu fel
polcat
. Tra bo'r ail sill yn hunan-esboniadwy, mae tarddiad y cyntaf yn anghlir. Fe'i terddir o bosib o'r
Ffrangeg
poule
(iar), yn adlewyrchu hoffter yr anifail am ddofednod, ond fe all fod hefyd yn amrywiad ar yr
Saesneg
ful
, yn golygu
foul
(drewllyd). Yn y Saesneg Canol cyfeirid at yr anifail fel
foumart
, yn golygu rhywbeth fel
bele drewllyd
(i'w gyferbynnu efallai a'r "bele melys" (
sweet mart
))
[4]
.
Mae’n debyg nad oes yr un anifail Prydeinig arall sydd wedi cael cymaint o enwau llafar a'r ffwlbart. Yn ne Lloegr cyfeirid ato fel
fitchou
tra’n y gogledd fe’i adwaenid fel
foumat
neu
foumard
. Fodd bynnag mae llu o rai eraill gan gynnwys amrywiadau sillafu diddiwedd:
philbert
,
fulmer
,
fishock
,
filibart
,
poulcat
,
poll cat
, ayb. Adnabu Charles Oldham o leiaf 20 fersiwn o’r enw yn Swyddi Hertford/Bedford yn unig.
[16]
.
Yn yr
Hen Ffrangeg
cyfeirid at y ffwlbart fel
fissau
, a darddai o ferf
Almaeneg Isel
a
"Sgandinafaidd"
a olygai drewi. Mae'r ffurf
fitchet
yn wreiddyn y
fisher
(anifail) o Ogledd America, a enwyd gan ymfudwyr Iseldiroedd a welodd rai nodweddion tebyg yn y ddwy rywogaeth
[26]
a daeth yntau yn ei dro yn
fitch
, a ddefnyddir am groen yr anifail.
[27]
Yn ogystal a nifer o enwau brodorol yn cyfeirio at ddrewdod (gweler uchod) tardd yr enw gwyddonol
Mustela putorius
hefyd o ddrewdod naturiol y rhywogaeth hon. Ystyr y Lladin
putorius
yw drewllyd (neu waeth) ac mae'n gytras a’r gair
putrid
.
Deintiad yn ol Knight:
Sketches in Natural History
Mae ymddangosiad y ffwlbart yn nodweddiadol o aelodau'r
genws
Mustela
(y
carlymfilod
), er ei fod yn gyffredinol yn fwy cryno o gorff ac, er yn goesfer, mae iddo gorff llai hirfain na'r
minc
neu
ffwlbart y stepdir
.
[28]
[29]
. Cynffon fer sydd ganddo, tua thraean hyd ei gorff.
[28]
Mae'r llygaid yn fach gydag
iris
brown tywyll. Mae
bodiau'r traed
yn hir a lled-weog, gyda chrafangau ol 4 mm o hyd, lled-grymiog, heb fod yn ol-dynadwy. Mae'r crafangau blaen yn grymiog iawn, yn lled ol-dynadwy, ac yn mesur 6 mm o hyd
[30]
. Mae'r
traed
yn weddol hir ac yn fwy praff na rhai aelodau eraill y genws
[29]
. Mae penglog y ffwlbart yn gymharol arw a throm, yn fwy felly na'r minc, gyda pharth blaen cryf ond llydan a byr. Mewn cymhariaeth a charlymfilod eraill o faintioli tebyg, mae dannedd y ffwlbart yn gryf iawn, mawr a swmpus o'u cymharu a maint y benglog. Mae
dwyffurfedd rhywiol
y benglog yn ei amlygu ei hun ym mhenglog ysgafnach, culach y fenyw.
[31]
Ysgerbwd, fel y'i dyluniwyd yn
The New Natural History
gan Richard Lydekker.
Amrywia maintioli'r ffwlbart yn fawr. Nid yw'r rhywogaeth yn cyd-ymffurfio a
Rheol Bergmann
; mae maintioli ei gorff dros amrediad ei ddosbarthiad fel petai'n mynd yn fwy o'r dwyrain i'r gorllewin
[32]
. Mae gyrywod yn mesur 350?460 mm o hyd corff a benywod yn mesur 290?394 mm. Mae'r gynffon yn mesur 115?167 mm (gwrywod) a 84?150 mm (benywod). Mae oedolion gwryw canol Ewrop yn pwyso 1,000-1,500 gram a rhai benyw 650-815 gram. Ceir achosion o
"anferthiaeth"
ymysg ffwlbartaid ond mae'r cyfryw sbesimenau yn debyg o fod yn ffrwyth
croesfridio
[33]
[34]
Ffwlbart erythristig Cymreig ieuanc yn y British Wildlife Centre,
Surrey
,
Lloegr
Dugoch yw lliw cot aeaf y ffwlbart gyda chryfder y lliw yn cael ei benderfynu gan liw'r gwarchodflew. Ar y cefn a'r ystlys lleddfir tywyllwch y lliw gan isflew melynwyn, weithiau llwydfelyn, sydd yn dangos trwodd. Nid yw'r isflew yr un mor weladwy. Gorchuddir y cefn a'r parthau ol gan warchodflew tywyll. Mae'r gwddf, gwar a'r gest yn ddugoch. Mae'r aelodau'n ddu pur neu ddu ag arlliw o frown, a'r gynffon yn ddu neu'n ddugoch heb unrhyw isflew golau. Mae'r parth o gwmpas y llygaid yn ddu-goch, gyda rhesen o liw tebyg ar hyd pont y trwyn. Mae'r clustiau'n ddu-goch wedi eu hymylu a gwyn. Mae cot yr haf yn fyr, tenau a garw, yn llwytach, dylach ac yn llai gloyw na chot yr haf. Mae'r isflew yn wannach ei ddatblygiad yng nghot yr haf, sydd o liw llwydfrown neu lwytgoch
[35]
. Mae'r ffwlbart yn nofiwr da
[36]
ond nid yw ei flew wedi eu ynysu cystal yn erbyn d?r oer ag yw blew'r
minc Americanaidd
; tra bo'r minc yn cymryd 118 munud i oeri mewn d?r o dymheredd 8 °C, mae'r ffwlbart yn oeri llawer ynghynt, gan gymryd 26?28 munud i oeri.
[37]
Ceir dwy brif ffurf (neu ffenoteip) ar ffwlbartiaid, yr un nodweddol ac un sydd a chot dywyll heb fwgwd gwyn
[38]
. Ceir hefyd cyfnewidiadau lliw sy'n cynnwys ffurf
albino
a ffurf goch
erythristig
.
[35]
Mae'r ffwlbart yn llawer llai amddiffynnol o'i diriogaeth na'i gyd-aelodau o deulu'r
Mustelidae
gydag anifeiliaid o'r un rhyw yn rhannu'n aml yr un libart
[39]
. Ac fel eraill o'i deulu mae'r ffwlbart yn amlwreiciwr, a'r fenyw yn beichiogi'n syth ar ol paru, heb unrhyw ofyliad wedi ei hysgogi
[40]
. Fel arfer mae'n esgor ar dorraid o bump i ddeg cathan sydd yn cyrraedd cyflwr annibynnol ar ol dau neu dri mis. Mae'n bwyta cnofilod bychain, adar,
amffibiaid
ac
ymlusgiaid
[40]
. Fe all anablu ei brae trwy frathu trwy'r benglog ei brae gan ei roi i'w gadw yn ei ffau.
[40]
[41]
Ymddygiad cymdeithasol a thiriogaethol
[
golygu
|
golygu cod
]
Cynigir y termau Cymraeg canlynol am y termau Saesneg a)
habitat
, b)
home-range
a c)
territory
, sef termau a ddefnyddir am y gwahanol foddion mae mamaliaid (yn bennaf) yn defnyddio tir: yn eu trefn felly; a)
cynefin
(natur y tir, ei lysdyfiant, topograffi, uchder ayb), b)
libart
, cynefin (defaid a geifr yn unig), weithiau mewn modd mwy cyffredinol milltir sgwar (y tir cyfarwydd y mae anifail yn ei fynychu o ddydd i ddydd; gall hwn amrywio gyda rhyw, oed a thymor), ac c)
tiriogaeth
(y tir y mae anifail yn ei amddiffyn rhag cystadleuwyr, fel arfer o'r un rhywogaeth.)
Yn wahanol i
ffwlbart y stepdir
, mae bywyd y ffwlbart Europeaidd yn llawer mwy sefydlog, yn meddu ar ei
libart
lled-ddigyfnewid ei hun
[42]
. Mae nodweddion y libart hwn yn wahanol fodd bynnag yn ol y tymor, y cynefin, rhyw y deiliad a'i statws yn ei gymdeithas
[43]
. Mae benywod ffrwythlon yn ymsefydlu mewn libart penodol tra bod gwrywod ffrwythlon a'r ieuainc yn fwy symudol ac yn gwasgaru dros barthau mwy amhenodol i fodloni eu hanghenion.
[44]
Mae gwrywod yn nodweddiadol yn amddiffyn tiriogaeth fwy nag a wna benywod. Mae pob ffwlbart yn defnyddio mwy nag un wal
[45]
ac weithiau defnyddir hen wal
mochyn daear
neu
lwynog
[42]
. Mae warinoedd cwningod yn aml yn fangreoedd o brysurdeb mawr i ffwlbartod. Yn y gaeaf gwnaiff ddefnyddio adeiladau fferm neu dasau gwair fel lleoedd ymochel liw dydd. Nid yw'r ffwlbart mor diriogaethol ag yw llawer o garlymfilod bychain eraill, ac fe brofwyd iddynt rannu tiriogaeth gydag eraill o'r un rhyw. Mae tystiolaeth o ffwlbartiaid yn marcio'u tiriogaeth yn wan
[45]
. Fel carlymfilod eraill mae'n anifail di-s?n, er y gwnaiff riddfan yn ffyrnig mewn dicter, a gwichian mewn trallod. Bydd hefyd yn lleisio cri mewian isel i'w gymar neu i'w epil.
[46]
Un sydd yn bridio'n dymhorol yw'r ffwlbart, heb unrhyw ddefodau carwriaeth. Yn ystod y
tymor cymharu
mae'r gwryw yn cydio yng ngwar y fenyw er mwyn ei hysgogi i
fwrw wy
, ac wedyn mae'n cymharu a hi am hyd at awr. Mae'r rhywogaeth yn
amlwreiciol
gyda phob gwryw yn cymharu a nifer o fenywod. Yn wahanol i garlymfilod bach eraill ni chaiff
ofyliad ei ysgogi
, a beichiogir yn syth. Mae
cyfnod torogiad
y fenyw yn para am 40-43 diwrnod; esgorir ar y torllwythi ym mis Mai neu Fehefin cynnar. Mae i dorllwythi arferol bump i ddeg cathan. Ar eu genedigaeth maent yn pwyso 9-10 g ac yn mesur 55?70 mm o hyd corff; maent yn ddall a byddar. Ar ol wythnos bydd gorchudd o flew sidanaidd gwyn ar y cathannod, ac yn ei le erbyn 3-4 wythnos daw cot wlannaidd o liw llwydfrown-sinamon. Mae'r broses o'u
diddyfnu
yn cychwyn pan font yn dair wythnos oed, tra bo'r dannedd parhaol yn ymddangos ar ol 7-8 wythnos. Daw annibyniaeth y cathannod ar ol dau neu dri mis
[47]
. Mae benywod yn warchodol iawn o'u hepil, a dywedir iddynt herio pobl sydd yn dod yn rhy agos i'r dorllwyth
[48]
Ffwlbart Albanaidd yn amddiffyn gweddillion cwningen rhag gwenci, yn narlun
Archibald Thorburn
Ffwlbart yn ymosod ar
betrisen
fel y'i dangosir yn
Amgueddfa Natur Cenedlaethol Bwlgaria
Mae deiet y ffwlbart yn cynnwys
cnofilod
o faint
llygod
, yna
amffibiaid
ac yna
adar
. Prae di-fudd iddo yw amffibiaid fodd bynnag gan mor isel yw eu
gwerth caloriaidd
, pa sawl bynnag ohonynt mae'n eu bwyta. Pennir rythm ei gyfnodau bywiog gan weitharwch ei brif brae
[49]
. Ymhlith y rhywogaethau nad ydynt yn amlyn ysglyfaeth i'r ffwlbart, y mae'r
draenog
, y
neidr wair
a
thrychfilod
[50]
. Ar ynysoedd Prydain mae'n lladd
llygod mawr
a
chwningod
yn rheolaidd, ac mae'n atebol i ladd prae mwy sylweddol megis
gwyddau
ac
ysgyfarnogod
.
[47]
Gwelwyd un ffwlbart yn aros ar lan afon i ddal
llysywod
, gan ddychwelyd i'w wal gyda hwy
[51]
. Mae'r ffwlbart yn ymborthi ar lysywod yn bennaf yn ystod cyfnodau o oerfel llym, pan fydd y llysywod yn crynhoi oherwydd rhew, o gwmpas "tyllau anadlu". Yn wahanol i'r
carlwm
a'r
wenci
mae'r ffwlbart yn aml yn bwyta
celanedd
gan gynnwys gweddillion
carnolion
[52]
. Mae'r ffwlbart yn hela ei brae trwy herwa, neidio arno a'i frathu yn ei wegil gyda'i
ddannedd carnysol
, gan ei ladd. Greddf ynddo yw'r dull hwn ond fe'i perffeithir trwy ymarfer. Weithiau mae'r ffwlbart yn rhoi ei fwyd i'w gadw, yn enwedig mewn cyfnod o doreth o lyffantod
[53]
. Nid yw'r ffwlbart bob tro yn eu lladd, ond yn eu brathu ym mon y benglog a'u parlysu i'w cadw'n ffres at rywdro eto
[47]
. Er eu bod fel rheol yn swil yng ng?ydd pobl sonia'r naturiaethwr
Alfred Brehmen
yn ei
Brehms Tierleben
am enghraifft eithriadol o dri ffwlbart yn ymosod ar fabi yn
Hesse
[48]
. Yn ystod y gaeaf, pan fo ysglyfaeth byw yn brin, gall y ffwlbart ysbeilio
cychod gwenyn
am y
mel
.
[54]
Gall y ffwlbart fod yn ysglyfaeth i
lwynogod
[54]
ac i
gathod dof
a
chathod gwylltion
[55]
. Er i'r ffwlbart gydfyw a'r
minc Ewropeaidd
(er bod un cofnod o ffwlbart yn ymosod ar finc a'i lusgo i'w wal
[56]
), mae'n dioddef yn yr ardaloedd lle mae'r
minc Americanaidd
ar gael, gan fod yr ail rywogaeth yn lladd yr un prae mamolaidd a'r ffwlbart lawer mwy na'r
minc Ewropeaidd
, ac wir, fe'i gwelwyd yn erlid y ffwlbart o'i gynefinoedd corsiog
[57]
. Lle ceir y ffwlbart yn cyd-ddigwydd a
ffwlbart y stepdir
, mae'r ddwy rywogaeth yn gorgyffwrdd yn fawr yn eu dewis o ddeiet, er i'r gyntaf dueddu i fwyta mwy o fwyd tai ac adar, tra bo'r ail yn canolbwyntio fwy ar famoliaid
[58]
. Mae o leiaf un cofnod o
fele'r graig
Martes fouina
yn lladd ffwlbart
[59]
. Gall y ffwlbart ymosod ar
wenci
sy'n sylweddol llai nag ef.
[60]
Pennau o eiddo
1)
ffwlbart,
2)
ffured and
3)
croesiad ffwlbart-ffured
“
|
... o safbwynt ecolegol mae croesiadau ffwlbart-minc Ewropeaidd yn rhywle rhwng y ddau riant - y naill yn anifail tir a'r llall yn lled-acwatig
|
”
|
? Vadim E. Sidorovich, of the IUCN/SSC Mustelid, Viverrid & Procyonid Specialist Group
[34]
|
Mewn rhai ardaloedd Brydain, arweiniodd y trai yn yr arfer o gadw
ffuredi
at groesiadau ffured-ffwlbart yn y gwyllt wrth i'r anifeiliaid gael eu traed yn rhydd. Mae'n debyg i ffuredi gyrraedd Prydain ar ol
y Concwest Normanaidd
, neu efallai mor hwyr a'r
14g
[61]
. Nid yw'n bosibl ar hyn o bryd i wahaniaethu rhwng ffwlbartiaidd a chroesiadau trwy ddadansoddiad
DNA
gan fod y ddwy ffurf yn rhy berthynol a'i gilydd a chymysg eu tras i ganiatau cymhwyso dulliau genetigol modern
[62]
. Mae croesfridio rhwng y ddau anifail yn dangos, yn nodweddiadol, clytyn gwyn amlwg ar y gwddf, traed gwyn a blew gwyn yn gymysg yn y blew
[63]
. Fel arfer, bydd croesiadau cenhedlaeth gyntaf rhwng ffwlbartod a ffuredi yn datblygu ofn nodweddiadol eu rhiant gwyllt os gadewir hwynt gyda'u mam yn ystod y cyfnod critigol cymdeithasoli rhwng 7½ ac 8½ wythnos oed
[64]
. Weithiau hysbysebir croesiadau honedig fel anifeiliaid arbennig er mwyn
hela cwningod
, er fod croesiadau go iawn yn debyg o fod yn anos i'w trin, yn llai 'tebol o ymgynefino a ch?n, ac yn fwy tebyg o ladd y gwningen yn ddioed yn hytrach na'i chodi'n fyw o'i thwll yn unig
[65]
.
Gall ffwlbartod groesi a'r
minc Ewropeaidd
prin, gan ddod ag epil a elwir yn
khor'-tumak
gan werthwyr pan
[66]
a
khonorik
(o'r geiriau Rwseg am ffured a minc) gan y rhai sydd yn eu cadw
[67]
. Mae ymgroesi o'r fath yn brin iawn yn y gwyllt, ac fel arfer nid yw'n digwydd ond mewn ardaloedd lle mae'r minc Ewropeaidd ar drai
[68]
. Mae i groesiad ffwlbart-minc fwgwd wynebol gwael ei ddatblygiad, blew melyn ar y clustiau, isflew llwyd-felyn hir a blew bras gwarchodol brown tywyll. Mae'n weddol fawr, gyda'r gwryw yn cyrraedd maintioli gyda'r mwyaf i'w hil (yn pwyso 1,120-1,746 g ac yn mesur 41?47 cm o hyd), ac mae'r fenyw yn sylweddol fwy na menyw minc Ewropeaidd (yn pwyso 742 g and measuring 37 cm o hyd)
[34]
.
Mae'r mwyafrif o groesiadau ffwlbart-minc yn meddu ar benglog lawer tebycach i benglog ffwlbart nag i minc
[69]
. Fe all y croesiadau nofio'n dda fel minc a thurio am fwyd fel ffwlbart. Maent yn anodd iawn i'w dofi a'u bridio, gan fod gwrywod yn
anffrwythlon
er bod benywod yn ffrwythlon
[67]
[69]
Crewyd y croesiad ffwlbarth-minc cyntaf yn 1978 gan swolegydd
Sofietaidd
y Dr. Dmitry Ternovsky o
Novosibirsk
. Cawsant eu bridio gyntaf i gael eu ffwr (a oedd yn fwy gwerthfawr na blew y naill riant na'r llall), ond bridwyd llai gyda thrai poblogaeth y minc Ewropeaidd
[67]
. Dengys astudiaethau ar ecoleg ymddygiadol croesiadau ffwlbart-minc a fu a'u traed yn rhydd ym mlaenau'r
Afon Lovat
, fod y croesiadau'n fwy tebyg o grwydro o gyffiniau cynefinoedd acwatig na mincod pur ac yn goddef y ddwy riant-rywogaeth yn eu tiriogaeth er bod maintioli'r croesiad (yn enwedig y gwryw) yn rhwystro hyn. Yn ystod yr haf mae deietau croesiadau ffwlbart-minc yn debycach i ddeiet minc nag i ddeiet ffwlbart gan iddynt ymborthi ar
lyffantod
. Yn y gaeaf mae'r ddeiet yn gorgyffwrdd fwy a deiet y ffwlbart, ac fe fwytant gyfran fwy o
gnofilod
nag yn yr haf, er yn parhau'n ddibynnol iawn ar lyffantod, ac anaml iawn y byddant yn ysbeilio celanedd
carnolion
fel y gwna ffwlbartiaid.
[34]
Gall y ffwlbart hefyd fridio gyda
ffwlbart y stepdir
o Asia, neu'r
ffured droed-ddu
o ogledd America ac yn esgor ar epil ffrwythlon
[61]
. Mae croesiadau rhwng y ffwlbart Ewropeiadd a ffwlbart y stepdir yn brin iawn, er iddynt fynychu'r un tir mewn amryw ardaloedd. Fodd bynnag fe'u gwelwyd yn ne'r
Wcrain
, yn nhalaith
Kursk
a
Voronezh
, mynyddoedd Traws-
Carpatia
ac amryw o ardaloedd eraill.
[70]
Penglog, fel a ddyluniwyd yn
Catalogue of the Mammals of Western Europe (Europe exclusive of Russia) yng nghasgliad yr Amgueddfa Brydeinig
gan Gerrit Smith Miller
Y "gwir" ffwlbart cynharaf oedd
Mustela stromeri
a ymddangosodd yn ystod
cyfnod Villafranch
. Roedd yn gryn llai na'r ffurf bresennol, a dywedir i hyn awgrymu iddo esblygu'n gymharol hwyr. Cafwyd ffosiliau hynaf y ffwlbart modern yn yr Almaen, Prydain a Ffrainc, ac maent yn dyddio yn ol i gyfnod y
Pleistosen
Canol. Perthnasau agosaf y ffwlbart fodern yw
ffwlbart y stepdir
(
Mustela eversmanii
) a'r
ffured troed-ddu
(
Mustela nigripes
), a chredir iddynt ill tair ddeillio o hynafiad cyffredin, sef
Mustela stromeri
. Fodd bynnag, nid yw'r ffwlbart wedi esblygu i raddau mor eithafol i gyfeiriad
cigysoledd
ag a wnaeth ffwlbart y stepdir, gan iddo feddu ar benglog a deintiad llai arbenigol
[45]
[71]
[72]
[73]
Mae'n debyg i'r ffwlbart ymwahanu oddi wrth ffwlbart y stepdir rhwng 430,000 a 1.5 miliwn o flynyddoedd yn ol.
[74]
. Fe berthyn hefyd i'r
minc Ewropeaidd
ac fe all groesfridio
[66]
Merched yn hela cwningod gyda
ffured
yn
Sallwyr y Frenhines Mary
Cadarnha astudiaethau morffolegol, sytolegol a molecwlegol mai'r ffwlbart Ewropeaidd yw unig hynafiad y ffured, hwn felly yn gwrthbrofi unrhyw gysylltiad a wneid a ffwlbart y stepdir, y credid ar un adeg iddo gyfrannu i genhedlu'r ffured.
[63]
Ers 2005
[75]
adweinir saith is-rywogaeth.
Is-rywogaeth
|
Awdurdod tri-enwol
|
Disgrifiad
|
Lledaeniad
|
Synonymau
|
Ffwlbart
M. p. putorius
(
Is-rywogaeth Enwol
[
nominate
])
|
Linnaeus, 1758
|
Mwy na
mosquensis
, gyda blew tywyllach, ysgafnach a disgleiriol
[76]
|
Gorllewin
Rwsia Ewropeaidd
, gorllewin
Belarws
, gorllewin
Yr Wcrain
, Canolbarth Ewrop a
gorllewin Ewrop
|
flavicans
(de Selys Longchamps, 1839)
foetens
(Thunberge, 1789)
foetidus
(Gray, 1843)
iltis
(Boddaert, 1785)
infectus
(Ogerien, 1863)
manium
(Barrett-Hamilton, 1904)
putorius
(Blyth, 1842)
verus
(Brandt in Simashko, 1851)
vison
(de Selys Longchamps, 1839)
vulgaris
(Griffith, 1827)
|
Ffwlbart Cymreig
M. p. anglia
|
Pocock, 1936
|
|
Lloegr
a
Chymru
|
|
Ffwlbart Mor y Canoldir
M. p. aureola
|
Barrett-Hamilton, 1904
|
Is-rywogaeth fechan gydag isflew melynaidd
[77]
, gall fod yr hynafiad penodol y daw y
ffured
ohono, ar sail nodweddion deintyddol
[78]
.
|
Mynycha barthau deheuol a gorllewinol
Penrhyn Iberia
|
|
Ffwlbart Albanaidd
wedi ei
ddifodi
M. p. caledoniae
|
Tetley, 1939
|
|
Yr Alban
|
|
Ffured domestig
M. p. furo
|
Linnaeus, 1758
|
Yn ffurf wedi ei
hyweddu
, mae'r benglog a nodweddion tebyg i'r is-rywogaeth enwol er iddi rannu nodweddion a
ffwlbart y stepdir
[72]
. Fel arfer nid yw'r blew tywyll wynebol yn ymestyn at y trwyn, tra bo clytiau gwelwaidd y bochau yn ymestyn yn ehangach ac yn gwrthgyferbynnu'n wael a'r 'mwgwd' tywyll. Gall un bawen neu ragor fod yn wyn, gyda gwrychflew gwarchodol gwyn yn ymledu dros y corff, yn enwedig o gwmpas y pen ol
[79]
|
|
albus
(Bechstein, 1801)
furoputorius
(Link, 1795)
subrufo
(Gray, 1865)
|
Ffwlbart Canolbarth Rwsia
M. p. mosquensis
|
Heptner, 1966
|
Is-rywogaeth fechan, gyda blew cymharol olau ac ysgafn, ond yn ddilewyrch
[76]
|
Rwsia Ewropeaidd
|
orientalis
(Brauner, 1929)
orientalis
(Polushina, 1955)
ognevi
(Kratochvil)
|
Ffwlbart Carpathaidd
M. p. rothschildi
|
Pocock, 1932
|
Is-rywogaeth o liw gwan, ei blew yn ymdebygu i flew ffwlbart y stepdir
[80]
|
Dobruja
,
Rwmania
.
|
|
Lledaeniad, hanes a chadwraeth
[
golygu
|
golygu cod
]
Mae'r ffwlbart yn eang ei ddosbarthiad yn y
Palaearctig
gorllewinol, cyn belled a'r
Wralau
yn
Ffederasiwn Rwsia
er ei fod yn absennol o
Iwerddon
, o ogledd
Sgandinafia
, o lawer o'r
Balcanau
ac o arfordir dwyreiniol y
Mor Adriatig
. Ychydig sydd ar gael yng ngogledd
Groeg
. Fe'i ceir ym
Moroco
ym
Mynyddoedd Riff
, o lefel y mor i 240m. Cyflwynwyd ei ffurf ddofedig, y ffured, i
Brydain
, i rai ynysoedd
Mor y Canoldir
ac i
Seland Newydd
.
[6]
“
|
[Cyfieithiad] Mae yna enghreifftiau eithafol, ond erys y ffaith i ffwlbartiaid Lloegr a Chymru gael eu herlid yn llymach nag unrhyw garlymfilyn arall. A effeithodd yr erledigaeth ar niferoedd drwyddynt draw, ynteu dim ond boddhau ysbryd dialedd lleol a wnaeth? ... Gall y ffwlbart fod yr enghraifft orau o rywogaeth yr effeithiwyd yn sylweddol iawn ar ei nifer gan yr hela ddidrugaredd. Ystadau hela'r
19g
yn y pen draw fwriodd yr ergyd farwol arno [yn Lloegr]
|
”
|
Roger Lovegrove (2007)
[81]
Ym Mhrydain yn gyffredinol ystyriwyd y ffwlbart yn ymosodydd difrifol ar ddofednod cyn i
ffensys weiren
gyrraedd y tir, a'r unig ddewis a welwyd i ddod i ben a hyn oedd ei ddifa'n llwyr. Serch hynny, nid oedd hyn yn wir ymhobman efallai: dyma ddywed Peter Hope Jones mewn astudiaeth yn 1974:
[82]
“
|
[cyfieithiad]: "I sir [sef Meirionnydd] y cydnabyddir iddi fod ynghanol hen gadarnle'r ffwlbart, cofnodwyd cymharol ychydig o ffwlbartod yng nghofnodion plwyfi Meirionnydd o blith ei thaliadau bownti. Efallai nad oedd yr anifail hwn yn cael ei ystyried yn bla o bwys, ond am ba reswm bynnag, dim ond yng nghofnodion dau blwyf yn unig y cyfeirir yn uniongyrchol at y rhywogaeth hon dan yr enwau rydym yn ei adnabod heddiw. Yn y pedair blynedd 1729-1732 lladdwyd tuag 20 ym mhlwyf Tywyn, a thalwyd 2/6 am ffwlbart yn ei lawn dwf a hanner y swm hwn am ffwlbart ifanc (
kittin
meddid). Mae'r cofnodion am Llanfor.... yn dangos mai dim ond 42 a laddwyd yn y cyfnod 39-mlynedd 1720-1758, gyda'r taliad yn hanner y swm hwnnw ar y raddfa gyfredol am lwynog."
|
”
|
Cofnodion Cymreig hanesyddol cyfoes
[
golygu
|
golygu cod
]
Gyda chyrhaeddiad y modd digidol o chwilio hen ddogfennau, efallai ei bod hi'n bryd rhoi ail gynnig ar y math hwn o ymchwil, gyda'r posibilrwydd o ddarganfod swmp llawer mwy o ddata. Dyma a ddaeth i'r golwg mewn papur newydd ar lein yn y
Cymro
(7fed Gorffennaf 1898) am blwyf yn Sir Feirionnydd eto, yn awgrymu gwerth cyfartal rhwng croen llwynog a chroen ffwlbart.
- Rhoddir dyfyniadau o hen lyfr plwyf Llanfor, ger y Bala, y rhai a daflant gawodydd o oleuni ar arferion plwyfol yn Nghymru yn ystod y ganrif ddiweddaf. Dyma gyfrif un Warden Plwyf am y flwyddyn 1728:
- 5 eitem yn agor y rhestr, wedyn y canlynol:
- Telais i Huw Kydwalad am ladd llwynog 00 05 00
- Telais i Robert Huw am
ffwlbart a dau gyw
00 05 00
- Telais i Sion Lewis am groen i wneud panel i'r elor feirch 00 01 00
[3]
Ac mewn ardaloedd a phapurau eraill, fel cynnig ar ehangu ymchwil Hope Jones i weddill Cymru, gan gynnwys amrywiol ffynonellau, dyma enghreifftiau:
- Lladdwyd deg ffwlbart ar hugain
ar un ystad yn sir Aberteifi o Ebrill 20, 1891 hyd Ionawr 30, 1893
[83]
.
- Cario 200 o bales hefo Caradog o cae canol a cae sofl. Mynd i Betws hefo Caradog i nol tablets a heibio Sbyty yn ol .
Gweld 9 ffwlbart ar ffridd T? Mawr.
Cawodydd trymion, cymylog, gwlyb
(Cwm Eidda, Ysbyty Ifan, 12 Awst 1960)
[84]
Oherwydd cyd-ddibyniaeth ecolegol ddofn sydd rhwng Cymru a Lloegr mae'n werth olrhain ei hanes yno. Yng
Nghaint
talodd o leiaf 42 o
blwyfi
fownti am ffwlbart, tri ohonynt yn yr 19g, er, erbyn hynny, unigolion yn unig a gofnodwyd, yn aml ar ol bylchau o rai blynyddoedd
[85]
}}. Yn
Nheyrnas yr Alban
, yn ystod teyrnasiad
David II
trethwyd pob tociwr crwyn ffwlbart 4
c.
, a godwyd drachefn i 8c. yn 1424. Daliai crwyn ffwlbartiaid le pwysig ym marchnadoedd crwyn yr Alban; gwerthwyd 400 o grwyn yn 1829 yn Ffair Crwyn Dumfries (1816-1874) a 600 yn 1831. Y flwyddyn ganlynol, disgrifiodd adroddiad cyfoes grwyn ffwlbartod fel
"a drug on the market"
. Yn 1856, gostyngodd y nifer o grwyn a werthwyd i 240, 168 yn 1860, 12 yn 1866 ac i dim yn 1869
[86]
. Ataliwyd gostyngiad pellach gan drai cipera ar yr ystadau saethu a physgota rhwng y ddau ryfel byd.
[87]
Bellach, ceir ffwlbartiaid ar hyd y rhan fwyaf o Gymru wledig ac yn Lloegr o
Swydd Gaer
i'r de hyd at
Wlad yr Haf
, ac i'r dwyrain hyd at
Swydd Gaerl?r
a
Swydd Northampton
, er iddo farw o'r tir dros ran helaeth o Loegr, gan oroesi yng Nghymru yn unig (ac eithrio ym Mon). Bu ymlediad sylweddol dros
glawdd Offa
yn ystod y ganrif a aeth heibio. Cafodd y rhywogaeth ei chyflwyno i swyddi
Cumbria
a Westmorland (Cumbria heddiw), i
Argyll
ac i
Ddyffryn Spey
yn yr Alban yn ystod y 1970au ac 1980au, er na wyddys pa beth yw statws presennol y poblogaethau hyn.
Mae ei ddosbarthiad modern yn aneglur yn rhannol oherwydd presenoldeb croesiadau ffwlbart-ffured. Ar wahan i brosiectau ail-gyflwyno, ffactorau eraill sydd yn cynorthwyo adferiad y ffwlbart i'w hen diriogaethau yw cynnydd ym mhoblogaeth cwningod a gostyngiad mewn erledigaeth gan giperiaid. Ystyrid ei boblogaeth yn hyfyw ers canol y 1990au. Gwarchodir y ffwlbart dan ddeddf Brydeinig ac Ewropeaidd; fe'i rhestrir ar Restr 6
Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981
ac ar Reoliad 41 o [[Rheoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol, &c.) 1994|Reoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol, &c.) 1994 ac yn rhestredig yn Atodiad V o'r
Cyfarwyddiad Cynefinoedd
[88]
. Cynhaliwyd arolwg gan
Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Vincent
yn 2015 ac fe'i cafwyd wedi ymledu i ardaloedd fel
Dwyrain Lloegr
a de
Swydd Efrog
lle nas gwelwyd ef am 100 mlynedd. Disgrifiodd y naturiaethwr
Chris Packham
yr ymlediad fel "un o'r adferiadau naturiol mawr"
[89]
Fe all y ffwlbart ddioddef o
glefyd y c?n
(
distemper
),
y ffliw
(neu'r anwydwst), yr
annwyd gyffredin
a
niwmonia
. Weithiau caiff ei effeithio gan
diwmor
adwythig a d?r ar yr ymenydd (
hydrosephali
). Yn gyffredin caiff ei ddannedd eu torri, ac yn llai aml, caiff
cornwydydd
marwol ar yr en, pen a'r gwddf. Yn Ewrop ceir enghreifftiau o ffwlbartiaid yn cario'r
gynddaredd
mewn rhai ardaloedd
[90]
. Adweinir nifer o
ectoparasitau
, yn eu plith mathau o
chwain
megis,
Ctenocephalides felis
,
Archaeospylla erinacei
,
Nosopsyllus fasciatus
a'r chwannen
Paraceras melis
. Ectoparasit mwyaf cyffredin y ffwlbart yw'r
drogen
Ixodes hexagonus
, ac fe'i ceir weithiau mewn niferoedd plagus ar y gwddf a thu ol i'r clustiau. Math arall llai cyffredin sy'n manteisio arno yw
I. canisuga
. Adnabyddir hefyd y
lleuen
brathu
Trichodectes jacobi
[90]
. Ymysg yr
endoparasitiau
mae ffwbartiaid yn eu cario y mae'r
sestodau
Taenia tenuicollis
a
T. martis
a'r
nematodau
Molineus patens
,
Strongyloides papillosus
,
Capilliaria putorii
,
Filaroides martis
and
Skjrabingylus nasicola
.
[90]
- ↑
Reynolds, S.H. (1912)
A Monograph of the British Pleistocene Mammals: Mustelidae
, Palaeontographical Society, Llundain
- ↑
Yalden, D (llythyr personol)
- ↑
Mitchell-Jones ac eraill, (2000):
The Atlas of European Mammals
(Poyser, Llundain
- ↑
4.0
4.1
4.2
4.3
Brown, Duncan (2002):
The Foulmart; what's in a name
Mammal Review 32(2) 145-149
- ↑
https://onlinelibrary.wiley.com/doi/abs/10.1046/j.1365-2907.2002.00104.x
- ↑
6.0
6.1
Fernandes, M.; Maran, T.; Tikhonov, A.; Conroy, J.; Cavallini, P.; Kranz, A.; Herrero, J.; Stubbe, M.; Abramov, A.; Wozencraft, C. (2008).
"
Mustela putorius
"
.
Rhestr Goch yr IUCN o rywogaethau dan fygythiad.
Version 2008
.
International Union for Conservation of Nature
.
CS1 maint: ref=harv (
link
)
Database entry includes a brief justification of why this species is of least concern
- ↑
Hincks, R. (llythyr personol)
- ↑
https://onlinelibrary.wiley.com/doi/full/10.1046/j.1365-2907.2002.00104.x
- ↑
9.0
9.1
Y Negesydd 3ydd Rhagfyr 1897
- ↑
The Journal, Carmarthen
: 5 Chwefror 1892
- ↑
Y Dinesydd Cymreig (15 Awst 1917) dan y golofn Baladeulyn
- ↑
Y Brython Cymreig, 9 Gorffennaf 1897
- ↑
http://newspapers.library.wales/view/3593529/3593534/10/ffwlbart
- ↑
Seren Cymru, 5 Mehefin 1863:
http://newspapers.library.wales/view/3195447/3195453/28/ffwlbart
- ↑
llythyr i raglen Radio Cymru
Galwad Cynnar
gan R.O. Davies, Peniel, Dinbych
- ↑
Lovegrove, R. (2007): Silent Fields: The long decline of a nation's wildlife, Gwasg Prifygol Rhydychen
- ↑
Moore, A. W. (1924).
A vocabulary of the Anglo-Manx dialect
. Oxford University Press.
- ↑
Carr, William (1828).
The dialect of Craven: in the West-Riding of the county of York
. p. 56. Printed for W. Crofts.
- ↑
Robinson, C. Clough (1862).
The dialect of Leeds and its neighbourhood: illustrated by conversations and tales of common life, etc. To which are added a copious glossary; notices of the various antiquities, manners, and customs, and general folk-lore of the district
. p. 388. J.R. Smith.
- ↑
Bobbin, Tim (1850).
The dialect of South Lancashire: or, Tim Bobbin's Tummus and Meary : with his rhymes and an enlarged glossary of words and phrases, chiefly used by the rural population of the manufacturing districts of South Lancashire
. p. 185. J.R. Smith.
- ↑
Dinsdale, Frederick (1849).
A glossary of provincial words used in Teesdale in the County of Durham
. p. 48. J. R. Smith.
- ↑
Lewis, George Cornewall, Sir (1839).
A glossary of provincial words used in Herefordshire and some of the adjoining counties
. p. 41. J. Murray.
- ↑
Cobham, Alan (n.d.) Dialect ? A Glossary of Lancashire Words as Spoken in Mawdesley.
Mawdesley Village Web Site
. [arlein].
http://www.mawdesley-village.org.uk/dialect.php
Archifwyd
2013-05-10 yn y
Peiriant Wayback
.
- ↑
24.0
24.1
Wilson, James (1923).
The dialect of Robert Burns as spoken in central Ayrshire
. p. 190. Oxford University Press.
- ↑
Smith, J. R. (1839). The Yorkshire Dialect:
Exemplified in Various Dialogues, Tales & Songs, Applicable to the County. To which is Added, a Glossary of Such Words as are Likely Not to be Understood by Those Unacquainted with the Dialect. p.24. London: John Russell Smith.
- ↑
Powell, R.A. (1981).
Mammalian Species:
Martes pennanti
. The American Society of Mammalogists. pp. 156:1?6
.
http://www.science.smith.edu/departments/Biology/VHAYSSEN/msi/pdf/i0076-3519-156-01-0001.pdf
.
- ↑
Johnston 1903
, t. 154
- ↑
28.0
28.1
Heptner & Sludskii 2002
, t. 1108
- ↑
29.0
29.1
Miller 1912
, t. 419
- ↑
Harris & Yalden 2008
, t. 477
- ↑
Heptner & Sludskii 2002
, tt. 1112?1113
- ↑
De Marinis, Anna M. (1995)
Craniometric variability of polecat Mustela putorius L. 1758 from North-Central Italy
., Hystrix, (n.s.) 7 (1-2) (1995): 57-68
- ↑
Heptner & Sludskii 2002
, tt. 1114?1115
- ↑
34.0
34.1
34.2
34.3
Sidorovich, V. (2001)
Finding on the ecology of hybrids between the European mink Mustela lutreola and polecat M. putorius at the Lovat upper reaches, NE Belarus
Archifwyd
2012-03-16 yn y
Peiriant Wayback
.
Small Carnivore Conservation 24: 1-5
- ↑
35.0
35.1
Heptner & Sludskii 2002
, tt. 1109?1111
- ↑
Lode, T. 1999 - Comparative measurements of terrestrial and aquatic locomotion in Mustela lutreola and M. putorius. Zeitschrift fur Saugetierkunde (Mammal Biol) 64 : 110-115.
- ↑
.
Heptner & Sludskii 2002
, t. 1411
- ↑
LODE T. 2001. Genetic divergence without spatial isolation in polecat Mustela putorius populations. Journal of Evolutionary Biology.14 : 228-236
- ↑
Harris & Yalden 2008, pp. 480?481
- ↑
40.0
40.1
40.2
Harris & Yalden 2008, pp. 482?483
- ↑
Johnston 1903, p.155
- ↑
42.0
42.1
Heptner & Sludskii 2002
, t. 1129
- ↑
LODE T. 2011. Habitat selection and mating success in a Mustelid. International J of Zoology Volume 2011, Article ID 159462
- ↑
LODE T. 2001.
Mating system and genetic variance in a polygynous mustelid, the European polecat
. Genes and Genetic systems 76 : 221-227
- ↑
45.0
45.1
45.2
Harris & Yalden 2008
, tt. 480?481
- ↑
Johnston 1903
, t. 155
- ↑
47.0
47.1
47.2
Harris & Yalden 2008
, tt. 482?483
- ↑
48.0
48.1
.
Brehm 1895
, t. 158
- ↑
LODE T. 1995 - Activity pattern of polecats Mustela putorius L. in relation to food habits and prey activity. Ethology 100 : 295-308.
- ↑
Heptner & Sludskii 2002
, tt. 1127?1129
- ↑
Lydekker 1896
, tt. 115
- ↑
Zoologist: a monthly journal of natural history
, Volume 4 (1846)
- ↑
LODE T. 1996 - Predation of European polecat upon frog and toad populations at breeding sites in western France. Ethology, Ecology, Evolution 8 : 115-124.
- ↑
54.0
54.1
Maxwell, William Hamilton (1833)
The field book: or, Sports and pastimes of the United kingdom; comp. from the best authorities, ancient and modern
, E. Wilson
- ↑
Heptner, V. G. & Sludskii, A. A. 1992.
Mammals of the Soviet Union
. Vol. II, part 2, Carnivores(Feloidea)
, Leiden, E. J. Brill. 784 pp.
ISBN 90-04-08876-8
- ↑
Heptner & Sludskii 2002
, tt. 1104?1105
- ↑
Sidorovich, V. E., MacDonald, D. W., Kruuk, H. & Krasko, A., 2000.
Behavioural interactions between the naturalized American mink Mustela vison and the native riparian mustelids, NE Belarus, with implications for population changes
Archifwyd
2012-03-16 yn y
Peiriant Wayback
.
. Small Carnivore Conservation, 22: 1?5.
- ↑
Lanszki, J.; Heltai, M.
Diet of the European polecat and the steppe polecat in Hungary
Archifwyd
2011-08-31 yn y
Peiriant Wayback
.
, 2007, Mammalian Biology 72: 49-53
- ↑
Heptner & Sludskii 2002
, tt. 902
- ↑
Heptner & Sludskii 2002
, tt. 992
- ↑
61.0
61.1
Davison, A., et al. (1999)
Hybridization and the phylogenetic relationship between polecats and domestic ferrets in Britain
Archifwyd
2011-07-27 yn y
Peiriant Wayback
.
, Biological Conservation 87 :155-161
- ↑
Polecat FAQs
Archifwyd
2011-07-27 yn y
Peiriant Wayback
. ⓒ The Vincent Wildlife Trust 2010
- ↑
63.0
63.1
Harris & Yalden 2008
, tt. 485?487
- ↑
Poole TB (1972)
Some behavioral differences between European polecat,
Mustela putorius,
ferret,
M furo,
and their hybrids
. J. Zool 166:25?35
- ↑
Plummer, David Brian (2001)
In Pursuit of Coney
, Coch Y Bonddu Books,
ISBN 0-9533648-8-7
- ↑
66.0
66.1
Heptner & Sludskii 2002
, tt. 1086?1088
- ↑
67.0
67.1
67.2
"Khonorik: Hybrids between Mustelidae"
. Russian Ferret Society. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 2020-07-31
. Cyrchwyd
9 Mai
2011
.
- ↑
LODE T., GUIRAL G. & PELTIER D. 2005. European mink-polecat hybridization events: hazards from natural process ? Journal of Heredity 96 (2): 1-8
- ↑
69.0
69.1
Tumanov, Igor L. & Abramov, Alexei V. (2002)
A study of the hybrids between the European Mink
Mustela lutreola
and the Polecat
M. putorius
Archifwyd
2011-07-28 yn y
Peiriant Wayback
. Small Carnivore Conservation 27: 29-31
- ↑
Heptner & Sludskii 2002
, tt. 1144?1145
- ↑
Kurten 1968
, tt. 98?100
- ↑
72.0
72.1
Heptner & Sludskii 2002
, tt. 1115?1117
- ↑
Kurten Bjorn (1980),
Pleistocene mammals of North America
, Columbia University Press, ISBN|0-231-03733-3
- ↑
Sato, J., T. Hosada, W. Mieczyslaw, K. Tsuchiya, Y. Yamamoto, H. Suzuki. 2003.
Phylogenetic relationships and divergence times among mustelids (Mammalia: Carnivora) based on nucleotide sequences of the nuclear interphotoreceptor retinoid binding protein and mitochondrial cytochrome b genes
Archifwyd
2011-10-03 yn y
Peiriant Wayback
.
. Zoologial Science, 20: 243-264.
- ↑
Wozencraft, W.C. (2005). "Order Carnivora". In Wilson, D.E.; Reeder, D.M. Mammal Species of the World: A Taxonomic and Geographic Reference (3rd ed.). Johns Hopkins University Press.
ISBN 978-0-8018-8221-0
. OCLC 62265494
- ↑
76.0
76.1
Heptner & Sludskii 2002
, tt. 1125?1126
- ↑
Miller 1912
, t. 425
- ↑
Hemmer 1990
, tt. 49?50
- ↑
Kitchener, Andrew (2002),
Polecats and Ferrets: How to tell them apart
Archifwyd
2013-10-04 yn y
Peiriant Wayback
., The Vincent Wildlife Trust, ISBN|0946081476
- ↑
Pocock, R. I.
The Polecats of the Genera Putorius and Vormela in the British Museum
, Proceedings of the Zoological Society of London, Volume 106, Issue 3, pages 691?724, Medi 1936
- ↑
Lovegrove 2007
, t. 200
- ↑
Hope-Jones, P. (1974) Wildlife Records from Merioneth Parish Documents Nature in Wales 14(1):
https://journals.library.wales/view/1220475/1223401/38#?xywh=-300%2C1439%2C2425%2C1746
(Llyfrgell Genedlaethol Cymru)
- ↑
Y Cymro: 30th Mawrth 1893
- ↑
Dyddiadur D.O Jones, Ty Uchaf. Padog
- ↑
Lovegrove 2007
, t. 198
- ↑
Ritchie 1920
, t. 162
- ↑
Lovegrove 2007
, tt. 275?276
- ↑
Joint Nature Conservation Committee. 2007.
Second Report by the UK under Article 17 on the implementation of the Habitats, Directive from Ionawr 2001 to December 2006
. Peterborough: JNCC. Available from:
http://www.jncc.gov.uk/article17
Archifwyd
2008-11-20 yn y
Peiriant Wayback
.
- ↑
"Conservationists: Polecats 'spreading across Britain
'
"
. BBC. 28 Ionawr 2016
. Cyrchwyd
29 Ionawr
2016
.
- ↑
90.0
90.1
90.2
Harris & Yalden 2008
, t. 484
- Bachrach, Max (1953).
Fur: a practical treatise
(3rd ed.). New York : Prentice-Hall
- Batten, Harry Mortimer (1920).
Habits and characters of British wild animals
. London [etc.] W. & R. Chambers, Limited
.
https://archive.org/details/habitscharacters00battrich
- Brehm, Alfred Edmund (1895).
Brehm's Life of Animals
. Chicago: A. N. Marquis & Company
.
https://archive.org/details/brehmslifeofanim00breh
- Harris, Stephen; Yalden, Derek (2008).
Mammals of the British Isles
(arg. 4th Revised). Mammal Society.
ISBN
0-906282-65-9
.
CS1 maint: ref=harv (
link
)
- Johnston, Harry Hamilton (1903),
British mammals; an attempt to describe and illustrate the mammalian fauna of the British islands from the commencement of the Pleistocene period down to the present day
, London, Hutchinson
,
https://archive.org/details/britishmammalsat00john
- Hemmer, Helmut (1990).
Domestication: the decline of environmental appreciation
. Cambridge University Press.
ISBN
0-521-34178-7
.
CS1 maint: ref=harv (
link
)
- Heptner, V. G.; Sludskii, A. A. (2002).
Mammals of the Soviet Union. Vol. II, part 1b, Carnivores (Mustelidae and Procyonidae)
. Washington, D.C. : Smithsonian Institution Libraries and National Science Foundation.
ISBN
90-04-08876-8
.
CS1 maint: ref=harv (
link
)
- Kurten, Bjorn (1968).
Pleistocene mammals of Europe
. Weidenfeld and Nicolson
- Lewington, John (2000),
Ferret husbandry, medicine, and surgery
, Elsevier Health Sciences,
ISBN
0-7506-4251-3
- Lovegrove, Roger (2007),
Silent fields: the long decline of a nation's wildlife
, Oxford University Press,
ISBN
0-19-852071-9
- Lydekker, Richard (1896),
The hand-book to the British Mammalia
, London, Edward Lloyd
,
https://archive.org/details/cu31924052094251
- Miller, Gerrit Smith (1912),
Catalogue of the mammals of Western Europe (Europe exclusive of Russia) in the collection of the British museum
, London : printed by order of the Trustees
,
https://archive.org/details/cu31924003031220
- Ritchie, James (1920),
The influence of man on animal life in Scotland; study in faunal evolution
, Cambridge : University press
,
https://archive.org/details/influenceofmanon00ritciala
- Buczacki, Stefan (2005)
Fauna Britannica
(Llundain: Hamlyn)
- Aulagnier S.; P. Haffner, A. J. Mitchell-Jones, F. Moutou & J. Zima (2009)
Mammals of Europe, North Africa and the Middle East
(Llundain: A&C Black)
- (Saesneg)
European polecat
Archifwyd
2010-01-10 yn y
Peiriant Wayback
. - ARKive.org
Comin Wikimedia