Un o'r
ieithoedd Germanaidd Gogleddol
yw
Ffaroeg
, sy'n iaith frodorol i ryw 66,000 o bobl, 45,000 yn byw ar
Ynysoedd Ffaroe
a'r 21,000 yn
Nenmarc
a lleoedd eraill.
Perthynas a ieithoedd eraill
[
golygu
|
golygu cod
]
Datblygodd yr iaith Ffaroeg o'r
Hen Norseg
, ac yn fwy penodol o Hen Norseg y Gorllewin, fel gyda
Norwyeg
,
Islandeg
, a'r ieithoedd marw
Norn
a
Norseg yr Ynys Las
. Yr iaith gyfoes agosaf i'r Ffaroeg yw'r Islandeg - does dim modd i siaradwyr y ddwy iaith deall ei gilydd, ond o'u hysgrifennu, maen nhw'n ymddangos yn debyg oherwydd bod Ffaroeg yn defnyddio
orgraff
sy'n seiliedig ar
eirdarddiad
.
Rheolwyd yr ynysoedd fel rhan o
Ddenmarc
am ganrifoedd, a sefydlwyd y
Daneg
yn iaith swyddogol. Yn yr 20fed ganrif, yn enwedig rhwng 1908 a 1938, roedd ymgyrchu brwd dros statws i'r Ffaroeg, gyda thensiynau rhwng pobl oedd o blaid y Ffaroeg ar y naill law a'r Daneg ar y llall. Ym 1937, sefydlwyd Ffaroeg yn iaith addysg, ym 1938 yn iaith yr Eglwys, ac ym 1948 yn iaith genedlaethol fel rhan o ddeddf
Ymreolaeth
ynysoedd Ffaroe.