한국   대만   중국   일본 
Ferdinand III, Ymerawdwr Glan Rhufeinig - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Ferdinand III, Ymerawdwr Glan Rhufeinig

Oddi ar Wicipedia
Ferdinand III, Ymerawdwr Glan Rhufeinig
Ganwyd 13 Gorffennaf 1608  Edit this on Wikidata
Graz   Edit this on Wikidata
Bu farw 2 Ebrill 1657  Edit this on Wikidata
Fienna   Edit this on Wikidata
Galwedigaeth cyfansoddwr   Edit this on Wikidata
Swydd Ymerawdwr Glan Rhufeinig , brenin Hwngari  Edit this on Wikidata
Mudiad cerddoriaeth faroc   Edit this on Wikidata
Priod Maria Anna o Sbaen , Maria Leopoldine of Austria, Eleonora Gonzaga  Edit this on Wikidata
Plant Leopold I , Philip August von Habsburg, Maximilian Thomas Erzherzog von Osterreich, Marie von Habsburg, Theresia Maria Josefa von Habsburg, Ferdinand Josef Alois Erzherzog von Osterreich  Edit this on Wikidata
Llinach Habsburg   Edit this on Wikidata
Gwobr/au Marchog Urdd y Cnu Aur, Urdd y Cnu Aur  Edit this on Wikidata
llofnod

Uchelwr o D? Hapsbwrg oedd Ferdinand III ( 13 Gorffennaf 1608 ? 2 Ebrill 1657 ) a fu'n Ymerawdwr Glan Rhufeinig o 1637 i 1657, yn Archddug Awstria o 1637 i 1657, yn Frenin Bohemia o 1627 i 1657, ac yn Frenin Hwngari o 1625 i 1657.

Ganed Ferdinand yn Graz , Dugiaeth Styria , un o daleithiau'r Ymerodraeth Lan Rufeinig , yn fab hynaf i Ferdinand, Archddug Awstria, a'i wraig Maria Anna, Tywysoges Bafaria. Ym 1619 coronwyd Ferdinand yr hynaf yn Ferdinand II, Ymerawdwr Glan Rhufeinig . Bachgen galluog a llawn egni oedd Ferdinand, a dechreuodd fynychu cynghorau'r gweinidogion ac ymwneud a materion gwladol ym 1626 pan oedd yn ei arddegau. Fe'i coronwyd yn Frenin Hwngari ym 1625 ac yn Frenin Bohemia ym 1627. [1]

Yn ol gorchymyn y Pencadfridog Albrecht von Wallenstein, ni chafodd Ferdinand y cyfle i reoli byddinoedd yr ymerodraeth yn ystod y Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain (1618?48). Cynllwyniodd Ferdinand i ddiswyddo Wallenstein ym 1630, a dan ei gyfarwyddyd llwyddodd lluoedd y Hapsbwrgiaid ym 1634 i gipio Regensburg ac i drechu'r Swediaid ym Mrwydr Cyntaf Nordlingen. Arweiniodd Ferdinand y garfan heddwch yn y llys Hapsbwrgaidd wrth drafod Heddwch Prag (1635). [1]

Etholwyd Ferdinand yn Frenin y Rhufeiniaid ym 1636, ac yn sgil marwolaeth ei dad ym 1637 fe etifeddodd orsedd yr Ymerodraeth Lan Rufeinig. Cytunodd i Heddwch Westfalen ym 1648 gan ddod a therfyn i'r Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain. Bu farw Ferdinand yn Fienna yn 48 oed, a fe'i olynwyd yn Ymerawdwr Glan Rhufeinig gan ei ail fab Leopold I . [1]

Cyfeiriadau [ golygu | golygu cod ]

  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg)   Ferdinand III (Holy Roman emperor) . Encyclopædia Britannica . Adalwyd ar 15 Ebrill 2020.