Gwefan
rwydweithio cymdeithasol
yw
Facebook
, yn debyg i
Bebo
a
MySpace
. Yn anffurfiol, defnyddir yr enw
Gweplyfr
arno yn y Gymraeg.
[1]
Pan lansiwyd Facebook yn
2004
gan
Mark Zuckerberg
, roedd aelodaeth wedi ei gyfyngu i fyfyrwyr
Prifysgol Harvard
, ac yna fe ehangwyd i sawl prifysgol arall yn yr
Unol Daleithiau
.
[2]
Yn raddol ehangwyd yr aelodaeth i unrhyw un oedd a chyfeiriad
e-bost
sefydliad addysgol (e.e. .edu, .ac.uk, ayyb) ar draws y byd, ac yn
2006
agorwyd y wefan i unrhyw berson. Mae'r defnyddwyr yn creu pwll o Ffrindiau ac yn danfon gwybodaeth a negeseuon at ei gilydd neu eu gosod ar eu tudalennau.
Ym Medi 2012, roedd gan Facebook dros biliwn o ddefnyddwyr,
[3]
a chredir bod 8.7% o'r rheiny yn rhai ffug.
[4]
Yn
2007
aed a Mark Zuckerberg i'r llys gan gwmni ConnectU.com gan honni ei fod wedi dwyn eu syniad nhw am y wefan, ac wedi oedi datblygiad eu gwefan nhw'n fwriadol wrth weithio iddynt yn 2003.
[5]
- Mae'n rhaid cofrestru a Facebook cyn cael mynediad i'r wefan.
- Gellir dewis ymuno a rhwydweithiau a seilir ar leoliad daearyddol (gwladwriaeth, gwlad neu ddinas), sefydliad addysg neu gyflogwr.
Yn 2008 fel rhan o ddatblygiad Facebook ychwanegwyd rhyngwyneb amlieithog o ddewis y defnyddiwr. Ymhlith yr ieithoedd y gellir eu defnyddio mae'r canlynol:
- Cymraeg
- Saesneg
- Sbaeneg
- Catalaneg
- Norwyeg
- Almaeneg
- Tsieceg
- Tsieineeg
- Daneg
- Ffinneg
- Eidaleg
- Iseldireg
- Pwyleg
- Rwsieg
- Swedeg
- Tyrceg
- Portiwgaleg (Brasil)
- Siapaneg
- Coreg
Cafwyd sawl cwyn am ddiffyg
preifatrwydd
ar Facebook. Yn 2010, datgelwyd fod nifer o raglenni fel gemau ar Facebook yn hel gwybodaeth bersonol a bod rhai'n eu pasio ymlaen (neu eu gwerthu) i gwmniau eraill. Roedd hyn yn digwydd hyd yn oed ar ol i ddefnyddwyr Facebook ddewis lefel diogelwch gwybodaeth uchaf posib. Roedd y wybodaeth a "ffermiwyd" felly'n cynnwys enwau go iawn, cyfeiriadau a gwybodaeth bersonol arall. Ym mis Hydref 2010, ar ol wynebu bygythiad o gael achos llys yn eu herbyn yn yr Unol Daleithiau, mynnodd Facebook eu bod wedi cymryd camau i atal hynny.
[6]