Eric Hobsbawm
|
---|
|
Ganwyd
| 9 Mehefin 1917
Alexandria
|
---|
Bu farw
| 1 Hydref 2012
o
niwmonia
Llundain
|
---|
Man preswyl
| Fienna
, Villa Seutter,
Berlin
,
Llundain
|
---|
Dinasyddiaeth
| y Deyrnas Unedig
|
---|
Alma mater
| |
---|
Galwedigaeth
| ysgrifennwr
, hanesydd mewn economeg, hanesydd cymdeithasol, academydd, newyddiadurwr cerddoriaeth,
hanesydd
|
---|
Cyflogwr
| |
---|
Adnabyddus am
| The Age of Revolution: Europe 1789?1848, Bandits, The Age of Capital: 1848?1875, The Age of Extremes: A History of the World, 1914?1991, Primitive Rebels: Studies in Archaic Forms of Social Movement in the 19th and 20th centuries
|
---|
Plaid Wleidyddol
| Plaid Gomiwnyddol Prydain Fawr
|
---|
Tad
| Leopold Percy Hobsbaum
|
---|
Mam
| Nelly Hobsbaum
|
---|
Priod
| Muriel Seaman, Marlene Hobsbawm
|
---|
Plant
| Julia Hobsbawm, Andy Hobsbawm, Joss Bennathan
|
---|
Gwobr/au
| Gwobr Balza, Bochum Historian Prize, Gwobr Ernst Bloch, Gwobr hanes Wolfson, Lionel Gelber Prize, Deutscher Memorial Prize, Doethuriaeth er Anrhydedd Prifysgol Girona, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Fienna, doethur honouris causa o Brifysgol Carolina de Praga, Cymrawd yr Academi Brydeinig, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, honorary citizen of Vienna, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America, Gwobr Llyfr Leipzig am Gyfraniad i Dealltwriaeth Ewropeaidd, Cydymaith Anrhydeddus, Medal Medlicott
|
---|
Hanesydd
ac awdur
Marcsaidd
o
Sais
oedd
Eric John Ernest Hobsbawm
(
9 Mehefin
,
1917
–
1 Hydref
2012
), a elwir gan amlaf yn "Eric Hobsbawm" neu'n "E. J. Hobsbawm". Ymhlith ei weithiau enwocaf yw ei driawd ar "y
bedwaredd ganrif ar bymtheg
hir":
The Age of Revolution: Europe 1789?1848
,
The Age of Capital: 1848?1875
, ac
The Age of Empire: 1875?1914
; a'i lyfr ar "yr
ugeinfed ganrif
fer",
The Age of Extremes: The Short Twentieth Century, 1914?1991
.
Cafodd ei eni i deulu
Iddewig
yn
Alecsandria
,
yr Aifft
, ym 1917, a symudodd i
Fienna
pan oedd yn ddwyflwydd oed. Masnachwr Prydeinig oedd ei dad a llenores Awstriaidd oedd ei fam, a bu farw'r ddau yn ystod
y Dirwasgiad Mawr
. Ymunodd Eric Hobsbawn a'r
Blaid Gomiwnyddol
yn 14 oed tra'n byw ym
Merlin
a'i ewythr. Ymfudodd i Loegr ym 1933 ac aeth i
Brifysgol Caergrawnt
. Penodwyd yn ddarlithydd hanes yng
Ngholeg Birkbeck
ym 1947 a dyrchafwyd yn athro ym 1970.
[1]
[2]
Cyhoeddwyd ei
hunangofiant
,
Interesting Times: A Twentieth Century Life
, yn 2002.
Bu farw ar 1 Hydref 2012 yn y Royal Free Hospital,
Llundain
, o
niwmonia
.
[3]