Cwmni dosbarthu
ffilmiau
Americanaidd yw
DreamWorks Pictures
, sy'n eiddo i
Amblin Partners
. Fe'i sefydlwyd yn wreiddiol ar 12 Hydref 1994 fel stiwdio ffilm actio gan
Steven Spielberg
,
Jeffrey Katzenberg
, a
David Geffen
. Dosbarthodd y stiwdio ei ffilmiau ei hun a a rhai a gynhyrchwyd gan eraill.
Yn 2005 cytunodd y sylfaenwyr i werthu'r stiwdio i
Viacom
, sy'n rhiant i
Paramount Pictures
. Cwblhawyd y gwerthiant ym mis Chwefror 2006 ("DW Studios" yw enw'r fersiwn hon bellach). Yn 2008, cyhoeddodd DreamWorks ei fwriad i ddod a’i bartneriaeth a Paramount i ben a gwnaeth gytundeb i gynhyrchu ffilmiau gyda Gr?p Reliance Anil Dhirubhai Ambani India, a chafodd DreamWorks Pictures ei ail-greu fel endid annibynnol. Y flwyddyn ganlynol, ymrwymodd DreamWorks i gytundeb dosbarthu gyda
Walt Disney Studios Motion Pictures
, lle byddai Disney yn dosbarthu ffilmiau DreamWorks trwy
Touchstone Pictures
; parhaodd y drefn tan 2016. Ers 2016, mae
Universal Pictures
wedi dosbarthu a marchnata'r ffilmiau a gynhyrchir gan DreamWorks Pictures. Ar hyn o bryd, lleolir swyddfedd DreamWorks yn
Universal Studios Hollywood
.
Mae DreamWorks Pictures yn wahanol i
DreamWorks Animation
, ei hen adran animeiddio a gafodd ei ddeillio yn 2004 ac a ddaeth yn is-gwmni i
NBCUniversal
yn 2016. Mae cwmni Spielberg yn parhau i ddefnyddio nodau masnach gwreiddiol DreamWorks dan drwydded gan
DreamWorks Animation
.