Damcaniaeth ym
mholisi tramor
Unol Daleithiau America
yn ystod
y Rhyfel Oer
oedd
damcaniaeth y dominos
sydd yn tybio byddai
gwladwriaeth
sydd yn troi'n
gomiwnyddol
yn ysgogi llywodraethau comiwnyddol i ddod i rym mewn gwladwriaethau cyfagos, megis effaith
dominos
yn cwympo.
[1]
Defnyddiwyd y syniad yn gyntaf gan yr Arlywydd
Harry S. Truman
i gyfiawnhau danfon cymorth milwrol i
Wlad Groeg
a
Thwrci
yn y 1940au, ac roedd yn rhan bwysig o bolisi tramor yr Arlywydd
Dwight D. Eisenhower
yn y 1950au. Bu llywodraeth yr Unol Daleithiau yn pryderu'n enwedig am ymlediad comiwnyddiaeth yn
Ne Ddwyrain Asia
, a defnyddiwyd effaith y dominos i gyfiawnhau ymyrraeth filwrol gan yr Americanwyr yn
Rhyfel Fietnam
.
- ↑
Leeson, Peter T.; Dean, Andrea (2009). "The Democratic Domino Theory".
American Journal of Political Science
. 53 (3): 533?551. doi:10.1111/j.1540-5907.2009.00385.x.