Cystadleuaeth Can Eurovision 2012
|
---|
"
Light Your Fire
"
("Cyneuwch Eich Tan")
|
Dyddiad(au)
|
---|
Rownd cyn-derfynol 1
| 22 Mai 2012
|
---|
Rownd cyn-derfynol 2
| 24 Mai 2012
|
---|
Rownd terfynol
| 26 Mai 2012
|
---|
Cynhyrchiad
|
---|
Lleoliad
| Neuadd Grisial Baku
,
Baku
,
Aserbaijan
[1]
|
---|
Cyflwynyddion
| Leyla Aliyeva,
Eldar Gasimov a
Nargiz Birk-Petersen
|
---|
Perfformiad agoriadol
| Ell & Nikki: "
Running Scared
"
|
---|
Cystadleuwyr
|
---|
Tynnu'n ol
|
Armenia
Gwlad Pwyl
|
---|
Canlyniadau
|
---|
◀2011
Cystadleuaeth Can Eurovision
2013▶
|
Cystadleuaeth Can Eurovision 2012
oedd y 57ain
Cystadleuaeth Can Eurovision
. Cynhaliwyd y gystadleuaeth yn
Baku
,
Aserbaijan
, ar ol i
Ell
a
Nikki
ennill y
Gystadleuaeth Can Eurovision 2011
gyda'u can "
Running Scared
". Enillwyd y gystadleuaeth gan y gantores Swedaidd
Loreen
gyda'i chan "
Euphoria
" felly disgwylir y bydd
Sweden
yn cynnal y
Gystadleuaeth Can Eurovision 2013
.
Cynhaliwyd y rowndiau cyn-derfynol ar 22 a 24 Mai 2012 a chynhaliwyd y rownd derfynol ar 26 Mai 2012.
[2]
Ymunodd 10 gwlad o bob rownd gyn-derfynol a'r
Almaen
,
Aserbaijan
, y
Deyrnas Unedig
, yr
Eidal
,
Ffrainc
a
Sbaen
yn y rownd derfynol. Cystadleuodd 42 o wledydd,
[3]
yn cynnwys
Montenegro
, oedd yn cyfranogi am y tro cyntaf ers
2009
. Penderfynodd
Armenia
a
Gwlad Pwyl
beidio a chymryd rhan.
Penderfynwyd y byddai y system bleidleisio yn dychwelyd i'r ffenestr 15-munud a ddefnyddiwyd rhwng y gystadleuaeth 1998 a'r
gystadleuaeth 2009
. Dim ond ar ol i bob gwlad berfformio y cafodd y gynulleidfa ddechrau pleidleisio. Disodlodd y gyfundrefn honno system lle cafodd y gynulleidfa bleidleisio o ddechrau'r gystadleuaeth ymlaen fel yn
2010
a
2011
. Heb eu newid oedd y rheolau i bennu'r canlyniadau, sef hollt 50:50 rhwng rheithgorau cenedlaethol a phleidleisiau ffon.
[4]
Yn unol a rheolau swyddogol a gyhoeddwyd ar 24 Tachwedd 2011, bu 26 o wledydd yn perfformio yn y rownd derfynol, yn cynnwys y wlad letyol, y "5 Fawr", a'r 10 cystadleuwr aeth drwodd o bob rownd gyn-defrynol.
[5]
Hon oedd yr ail gystadleuaeth yn hanes Eurovision lle bu 26 o berfformwyr yn cymryd rhan, y tro cyntaf ers 2003.
Ar 25 Ionawr 2012 ym Mhalas Buta cafodd y gwledydd sy'n cystadlu (ac eithrio'r Almaen, Aserbaijan, y Deyrnas Unedig, yr Eidal, Ffrainc a Sbaen) eu rhannu yn chwe pot, yn seiliedig ar batrymau bleidleisio. Cafodd y gwledydd eu dewis o'r potiau i benderfynu a fyddent yn cystadlu yn y rownd gyn-derfynol gyntaf neu'r ail. Hefyd, roedd y dewis yn penderfynu ym mha rownd gyn-derfynol y byddai'r "5 Fawr" (yr Almaen, y Deyrnas Unedig, yr Eidal, Ffrainc, a Sbaen) yn pleidleisio.
Pot 1
|
Pot 2
|
Pot 3
|
Pot 4
|
Pot 5
|
Pot 6
|
|
|
|
|
|
|
Mae dyluniad y gystadleuaeth yn seiliedig ar thema'r gystadleuaeth, sef "
Light Your Fire!
" a gafodd ei ysbrydoli gan lysenw Aserbaijan, "
Gwlad y Tan
" ("
Land of Fire
").
Cystadleuodd 42 o wledydd yng Nghystadleuaeth Can Eurovision 2012. Cyhoeddodd
Radio Televizija Crna Gora
(RTCG), cwmni darlledu
Montenegro
, y byddai'n dychwelyd i'r gystadleuaeth am y tro cyntaf ers
2009
. Mynegwyd amheuon yn
Armenia
o'r dechrau am gystadlu o achos pryderon diogelwch am ei chynrychiolydd yn sgil Rhyfel Nagorno-Karabakh sydd yn parhau rhwng Armenia ac Aserbaijian
[6]
ac ar 7 Mawrth 2012 cyhoeddodd Armenia na fyddai'n cystadlu.
[7]
Cyfranogwyr y rownd gyn-derfynol gyntaf
[
golygu
|
golygu cod
]
Pleidleisiodd Aserbaisian, yr Eidal a Sbaen yn y rownd hon. Gohiriodd Radio Televizioni Shqiptar (RTSH), cwmni teledu Albania, ddarllediad y gystadleuaeth gan ddefnyddio pleidlais y rheithgor yn unig, ar ol i ddamwain bws ddifrifol gymryd lle yn y wlad.
- A
^
Er bod y gan yn Albaneg, mae'r teitl yn
Lladin
.
- B
^
Cenir y gan yn nhafodiaith Muhlviertlerisch (Awstria Uchaf).
- C
^
Er bod y gan yn Saesneg, mae'r teitl yn
Rwmaneg
.
Cyfranogwyr yr ail rownd gyn-derfynol
[
golygu
|
golygu cod
]
Pleidleisiodd Yr Almaen, y Deyrnas Unedig a Ffrainc yn y rownd hon. Gofynnodd yr Almaen i bleidleisio yn y rown hon. Byddai Armenia wedi cymryd rhan yn y rownd hon ond yn ddiweddarach aeth allan o'r gystadleuaeth oherwydd rhesymau diogelwch.
Cyfranogwyr y rownd derfynol
[
golygu
|
golygu cod
]
Caneuon
Cystadleuaeth Can Eurovision 2012
|
---|
| Y Rownd Derfynnol
(rhestrwyd fel sgoriwyd)
| | | Y Rowndiau Cyn-derfynol
(ni pherfformiwyd yn y rownd derfynol)
| Y Rownd Gyn-derfynol Gyntaf
| | | Yr Ail Rownd Gyn-derfynol
| |
| | Tynwyd allan
| |
|
Artistiaid sy'n dychwelyd
[
golygu
|
golygu cod
]
|
---|
Cystadleuaethau
| |
---|
Gwledydd
| Cyfredol
| |
---|
Ddim yn cystadlu
| |
---|
Wedi'u gwahardd
| |
---|
Cyn-wladwriaethau
| |
---|
Wedi ceisio cystadlu
| |
---|
|
---|