Cyfarfod rhwng
Joseph Stalin
,
Franklin Roosevelt
a
Winston Churchill
oedd
Cynhadledd Tehran
a gynhaliwyd yn Llysgenhadaeth Sofietaidd
Tehran
, prifddinas
Iran
, rhwng
28 Tachwedd
a
1 Rhagfyr
1943
ar adeg dyngedfennol o'r
Ail Ryfel Byd
wrth i'r rhod ddechrau troi yn erbyn yr Almaen.
Hon oedd y gynhadledd ryfel gyntaf i Stalin ei mynychu. Pwrpas y trafodaethau yn y gynhadledd hon oedd pennu strategaeth y Cynghreiriaid yn erbyn yr
Almaen Natsiaidd
. Roedd y drafodaeth am agor ail ffrynt yng Ngorllewin Ewrop yn ganolog i hyn. Er mwyn cadw cymorth Stalin, aberthodd pwerau'r Gorllewin wladwriaethau dwyrain Ewrop. Nodwyd y gynhadledd mewn dogfennau gyda'r codename "Eureka".
Prif Ddeilliannau'r Gynhadledd
[
golygu
|
golygu cod
]
Lluniwyd cynlluniau milwrol a gwleidyddol. Y casgliadau yng nghynhadledd Tehran oedd:
- Daethpwyd i gytundeb y dylai'r
Partisaniaid Iwgoslafaidd
gael eu cefnogi gyda nwyddau, offer a gweithredoedd comando milwrol. Cyhoeddodd Churchill i Stalin ei fwriad i gefnogi'r Partisaniaid
comiwnyddol
o dan
Tito
yn Iwgoslafia yn hytrach na’r gr?p asgell dde, y
Chetniks
, oedd yn ufudd i lywodraeth alltud cydnabyddiedig Iwgoslafia yn Llundain, dan gyfarwyddyd Dra?a Mihailovi?. Gwnaeth Churchill y penderfyniad hwn ar sail adroddiadau a ddaeth i'r casgliad bod y Partisaniaid wedi achosi llawer mwy o ddifrod i'r Almaenwyr na'r Chetniks (gan gynnwys niwed i'r gwahanol grwpiau eraill, yn
Bosnia-Herzegovina
,
Croatia
a
Dalmatia
) oedd yn ymladd gyda'r Almaenwyr.
[1]
[2]
Doedd Churchil heb amau bod yr adroddiadau hyn wedi gorliwio nifer y grwpiau gwrthwynebol i raddau helaeth ac wedi lleihau grymoedd a llwyddiant Mihailovi?, diolch i ddylanwad "Five of Cambridge", gr?p o asiantau cudd-wybodaeth SIS Prydain oedd yn gweithio mewn gwirionedd i heddlu cudd y Sofietiaid, yr
NKVD
.
[3]
- Ystyriwyd ei bod yn ddymunol i
Dwrci
ymuno a'r ar ochr y Cynghreiriaid cyn diwedd 1943.
- Pe bai Twrci yn datgan rhyfel ar yr Almaen Natsiaidd, byddai'r Undeb Sofietaidd yn cefnogi'r wlad.
- Derbyniodd Brydain a'r Unol Daleithiau fwriad yr Undeb Sofietaidd i goncro ac amlyncu gwledydd y
Baltig
-
Estonia
,
Latfia
, a
Lithwania
a
Bessarabia
oedd yn rhan o
Rwmania
.
- Mynnodd Stalin sefydlu cymal gyfrinachol ar ffiniau newydd ar ol y rhyfel newydd ar gyfer
Gwlad Pwyl
, hynny yw, ar hyd
Llinell Oder-Neisse
a llinell Curzon. I'r Almaen, byddai hyn yn golygu colli
Dwyrain Prwsia
,
Pomerania
gyda
Stettin
a
Silesia
a hefyd
Dinas Rydd Danzig
. Dim ond yng
Nghynhadledd Yalta
y byddai'r mater yn cael ei gadarnhau'n gyhoeddus.
- Byddai Rwsia yn datgan rhyfel ar
Siapan
ar ol y rhyfel yn Ewrop. Datganodd ei bwriad i feddiannu ynysoedd
Sakhalin
ac
Ynysoedd Kuril
oddi ar Siapan.
- Addawodd arweinwyr milwrol y tri phwer y byddent mewn cysylltiad agos a'i gilydd o hyn ymlaen.
[4]
- Roedd Roosevelt a Stalin eisiau rhannu'r
Almaen
yn nifer o daleithiau bychain. Galwodd Churchill am "Ffederasiwn De Almaenig y
Donaw
" i fod ar wahan i Prwsia. Gohiriwyd setliad olaf problem yr Almaen.
- Addawyd i
Iran
, a feddiannwyd wedyn gan y Prydeinwyr a'r Sofietiaid, y byddai'r lluoedd meddiannol yn gadael ar ol y rhyfel. Addawodd y Prydeinwyr hefyd aildrafod y cytundeb olew.
- Addawodd Prydain a'r Unol Daleithiau anfon milwyr i Orllewin Ewrop yng ngwanwyn 1944. Yn benodol, trafodwyd - ar 30 Tachwedd - y byddai
"Operation Overlord"
yn cael ei lansio ym mis Mai 1944, ynghyd a ymgyrch filwrol yn erbyn
Ffrainc Vichy
. Byddai hyn yn tynnu peth o'r pwysau oddi ar luoedd yr
Undeb Sofietaidd
yn y Dwyrain, rhywbeth oedd yn hynod o bwysig i Stalin, yn naturiol.
[5]
Ysgrifennodd
Andrei Gromyko
, llysgennad yr Undeb Sofietaidd i'r Unol Daleithiau rhwng 1943 a 1948, tyst yng Nghynhadledd Tehran, y canlynol yn ei gofiannau ym 1988:
Yn Tehran, anogodd Stalin yn gryf y Cynghreiriaid i agor ail ffrynt yng Ngorllewin Ewrop cyn gynted a phosibl. Ceisiodd dro ar ol tro gael Churchill i ymrwymo i ddyddiad ar gyfer glanio milwyr y Cynghreiriaid yn Ewrop, ond yn ofer. Ar un adeg, yn methu a rheoli ei hun, cododd o’i gadair a dywedodd wrth Voroshilov a Molotov: “Mae gennym lawer i’w wneud gartref i fod yn gwastraffu amser fan hyn. Felly nid ydym yn mynd i unman. Yn aflonyddu ac yn amlwg yn ofni y gallai'r gynhadledd fethu, dywedodd Churchill yn frysiog, "Mae'r Marshal wedi fy nghamddeall. Gallaf roi union ddyddiad: Mai 1944.≫
—Andrei Gromyko,
Memorias
(1988) p. 102
O ran cynghreiriau a chysylltiadau rhyngwladol, trafodwyd Iran a Thwrci. Cytunodd Roosevelt, Churchill a Stalin i gefnogi llywodraeth Iran, fel y nodir yn y datganiad a ganlyn:
Mae'r tair llywodraeth wedi sylweddoli bod y rhyfel wedi achosi anawsterau economaidd arbennig i Iran, a'n bod ni i gyd yn cytuno y dylai cymorth fel cymorth economaidd barhau i fod ar gael i Lywodraeth Iran, gan ystyried y galwadau mawr a wneir gan weithrediadau milwrol ledled y byd, yn ogystal a phrinder cludiant, deunyddiau crai, a chyflenwadau i'w bwyta gan sifiliaid ledled y byd.
Ar ddiwedd y gynhadledd, Stalin oedd yr unig un i wneud ymddangosiad gyda Mohammad Shah, ymerawdwr ifanc Iran, a oedd wedi cael ei sarhau gan y Prydeinwyr a'r America.
Roedd y gynhadledd yn cyd-daro, er gwaethaf tuedd gyffredinol y Rhyfel yn amlwg o blaid y Cynghreiriaid, gyda'r Tri Ph?er yn cael eu trechu mewn brwydrau lleol: ar y ffrynt ddwyreiniol yn
Iwcrain
roedd gwrth-gyrch "?itomir" yr Almaen ar ei hanterth a oedd yn bygwth arwain at yr ailgipio
Kiyv
, oedd ond newydd ei rhyddhau gan y
Fyddin Goch
ar 6 Tachwedd; ar ffrynt yr
Eidal
roedd y byddinoedd Eingl-Americanaidd wedi cael eu rhwystro’n llwyr gan amddiffyniad medrus yr Almaen a baratowyd ar "Linell Gustav", ac yn ynysoedd y
Dodecanese
roedd y Prydeinwyr wedi dioddef cyfres o orchfygiadau ac wedi colli’r holl ynysoedd pwysicaf.
[7]
Cynadleddau Pwysig Eraill
[
golygu
|
golygu cod
]
- ↑
Branko Milju? (1982).
La revolution yougoslave
. L'Age d'homme. tt. 119?133.
- ↑
Dusan-T Batakovic (2005).
Histoire du peuple serbe
. L'Age d'homme.
- ↑
Christopher Andrew et Oleg Gordievsky,
(Saesneg)
Le KGB dans le monde, 1917-1990
, Fayard 1990,
ISBN
2213026009
et Christopher Andrew,
(Saesneg)
Le KGB contre l'Ouest (1917-1991) : les archives Mitrokhine
, Fayard, 2000, 982 p.
- ↑
Winston Churchill,
The second world war
, Volume X, capitolo 2°, pp. 60-69
- ↑
Winston Churchill,
The second world war
, Volume X, capitolo 2°, pp. 35-41
- ↑
R.Cartier,
La seconda guerra mondiale
, pp. 218-219.