Cyn-weriniaethau'r Undeb Sofietaidd
Enghraifft o'r canlynol
| ardal ddiwylliannol, geopolitical group
|
---|
Dechreuwyd
| Chwefror 1992
|
---|
Rhagflaenwyd gan
| Yr Undeb Sofietaidd
|
---|
Lleoliad
| Estonia
,
Latfia
,
Lithwania
,
Casachstan
,
Cirgistan
,
Tajicistan
,
Tyrcmenistan
,
Wsbecistan
,
Belarws
,
Moldofa
,
Wcrain
,
Rwsia
,
Armenia
,
Aserbaijan
,
Georgia
|
---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
|
Y 15
gwladwriaeth
annibynnol a ddaeth allan o
ddiddymiad
yr Undeb Sofietaidd
yn Rhagfyr 1991 yw
cyn-weriniaethau'r Undeb Sofietaidd
.
Yn iaith wleidyddol
Ffederasiwn Rwsia
a rhai o gyn-weriniaethau eraill yr Undeb Sofietaidd, mae'r term y tramor cyfagos yn cyfeirio at y
gweriniaethau
newydd-annibynnol a ddaeth allan o
ddiddymiad yr Undeb Sofietaidd
, ac weithiau gwledydd cyfagos eraill megis
y Ffindir
a
Mongolia
. Poblogeiddiodd
Andrey Kozyrev
, Gweinidog Tramor Rwsia, y term ar ddechrau'r 1990au i gyfeirio at
ganolbarth a dwyrain Ewrop
, a defnyddir y term yn aml, er enghraifft gan
Vladimir Putin
, i ddisgrifio ardal sydd yn strategol bwysig i Rwsia ac yn rhan o'i
maes dylanwad
. Defnyddir i gyfeirio at nifer o wledydd yn Nwyrain Ewrop,
y Cawcasws
,
Canolbarth Asia
, ac hyd yn oed
y gwledydd Baltig
er bod y rhain yn tueddu i wahanu eu hunain o Foscfa ar y lwyfan ryngwladol heddiw.