Ar 11 Medi 1973 cafodd
Salvador Allende
, Arlywydd
Tsile
, ei ddymchwel mewn
coup d'etat
a drefnwyd gan
luoedd milwrol Tsile
gyda chefnogaeth
yr Unol Daleithiau
. Sefydlwyd
jwnta
filwrol dan y Cadfridog
Augusto Pinochet
gan ddod a llywodraeth yr
Unidad Popular
, a etholwyd yn ddemocrataidd, i ben.
Ymyrraeth yr Unol Daleithiau
[
golygu
|
golygu cod
]
Roedd llywodraeth yr Unol Daleithiau yn ystyried y posiblrwydd y byddai Allende yn ennill etholiad 1970 yn drychineb am ei bod yn awyddus i amddiffyn buddianau economaidd a strategol yr Unol Daleithiau ac atal ymlediad
comiwnyddiaeth
a
sosialaeth
yn
America Ladin
. Cyfnod y
Rhyfel Oer
oedd hyn. Ym Medi
1970, dywedodd yr Arlywydd
Nixon
wrth y
CIA
nad oedd llywodraeth gan Allende yn dderbyniol ac awdurdododd $10,000,000 (swm eithaf sylweddol yn 1970) i atal Allende rag ennill grym neu i'w ddymchwel pe bai'n llwyddo i ddod yn arlywydd. Galwyd cynlluniau'r CIA i atal Allende yn
"Trac I"
a
"Trac II"
; roedd
Trac I
yn ceisio atal Allende trwy "ddichell seneddol", tra bod
Trac II
yn fod i berswadio swyddogion clo ym myddin Tsile i weithredu
coup
pe bai Allende yn ennill.
[1]
Ar ol etholiad 1970, ceisiodd cynnlun Trac I annog yr arlywydd ar fin gorffen ei dymor,
Eduardo Frei Montalva
, i berswadio ei blaid, y (
PDC
) i bleidleisio dros
Alessandri
yn y Gyngres. Byddai Alessandri wedyn yn ymddeol ar unwaith a galw am etholiad newydd. Buasai Eduardo Frei yn rhydd i sefyll eto wedyn yn ol cyfansoddiad Tsile, gyda siawns da efallai i guro Allende. Ond dewisodd
Siambr Dirpwryon Tsile
Allende yn Arlywydd, ar yr amod ei fod yn parchu'r Cyfansoddiad.
Yn ol rhai sylwebyddion a haneswyr, ni fu rhaid gweithredu
Trac II
, am fod lluoedd arfog Tsile eisoes yn symud i'r cyfeiriad yna.
[2]
Mae eraill yn dadlau fod y CIA wedi chwarae rhan flaenllaw yng nghynllwyn Pinochet ac eraill, neu o leiaf wedi ei hybu'n sylweddol.
Mae'r Unol Daleithiau wedi cydnabod chwarae rhan yng nglweidyddiaeth Tsile cyn y
coup
, ond mae ei rhan yn y
coup
ei hun yn ddadleuol. Rhybuddwyd y CIA gan eu cysylltiadau yn Tsile ddeuddydd o flaen llaw, ond y llinell swyddogol yw na chwareodd y CIA ran uniongyrchol ynddo.
[3]
Rhoddwyd cymorth ariannol gan lywodraeth UDA i gefnogi streic gyrwyr loriau preifat, a ychwanegodd i'r anhrefn economaidd cyn y
coup
,
[4]
Ar ol i Pinochet gipio grym, dywedodd
Henry Kissinger
wrth yr Arlywydd
Richard Nixon
"na wnaeth yr Unol Daleithiau hyn," ond "mi ddaru ni helpu." (gan gyfeirio at y
coup
ei hun).
[5]
Yn ychwanegol, mae dogfennau a ryddhawyd dan lywodraeth
Bill Clinton
yn dangos bod llywodraeth UDA a'r CIA wedi ceisio cael gwared o Allende yn 1970 cyn iddo ennill grym ("
Prosiect FUBELT
"). Erys nifer o ddogfennau perthnasol heb eu cyhoeddi.
- ↑
Hinchey Report
Archifwyd
2009-10-20 yn y
Peiriant Wayback
. Y CIA yn Tsile. 18 Medi 2000. Cyrchwyd 18 Tachwedd 2006.
- ↑
"Church Report. Covert Action in Chile 1963-1973"
Archifwyd
2009-09-11 yn y
Peiriant Wayback
., 18 Rhagfyr 1975.
- ↑
CIA Reveals Covert Acts In Chile
Archifwyd
2004-08-07 yn y
Peiriant Wayback
., CBS News, 19 Medi 2000.
- ↑
Jonathan Franklin,
Files show Chilean blood on US hands
,
The Guardian
, 11 Hydref 1999.
- ↑
The Kissinger Telcons: Kissinger Telcons on Chile
, National Security Archive Electronic Briefing Book No. 123, gol. Peter Kornbluh, postiwyd 26 Mai 2004. Ceir y deialog ar
TELCON: 16 Medi 1973, 11:50 a.m. Kissinger Talking to Nixon
.