Ffa coffi wedi eu rhostio.
Diod boblogaidd a wneir drwy rostio ac ychwanegu d?r poeth at ffa'r planhigyn 'coffea' yw
coffi
(hen air Cymraeg:
crasddadrwydd
);
[1]
. Fel arfer mae'r ffa wedi'u rhostio a'u malu'n fan cyn eu gwerthu i'r cwsmer. Tyfir y planhigyn mewn dros 70 o wledydd, gan gynnwys
America
, de-ddwyrain
Asia
,
India
ac
Affrica
. Ceir dau brif fath o goffi:
arabica
a
robusta
.
O'r gair
Arabeg
???
quw-wa
"nerth", y daeth y gair Arabeg ????
qahwa
'coffi'. O'r gair hwn y daeth y
Tyrceg
kahveh
, wedyn
caffe
yn
Eidaleg
. O hwn y daeth y gair
Saesneg
coffee
a gafodd ei fenthyg i'r
Gymraeg
fel 'coffi'. Cyheoddwyd y gair 'crasddadrwydd' yn gyntaf yn
Blodeu-gerdd Cymry
gan David Jones yn 1759:
"Ond gresyn fod Haidd, Gwinwydd, Llewyg y Blaidd, Ffwgws, Ystrew a Chrasddadrwydd yn amharu’r h?yl, ac yn dwyn Aroan yr hen Frutaniaid! lle’r oeddynt gynt yn byw yn h?n, yn iachach, ac yn gryfach ar laeth, ymenyn, a mel, na’i holl Sothach afiach afreidiol alltudaidd pellennig."
Darganfyddiad coffi: Chwedl Kaldi'r bugail
[
golygu
|
golygu cod
]
Dywedir y cafodd coffi ei ddarganfod gan fynach yn yr 8g.
Roedd bugail o'r enw Kaldi yn bugeilio geifr ar wastatir uchel
Jebel
Sabor yn yr
Iemen
. Roedd y geifr yn sionc iawn yn llamu ac yn dawnsio drwy'r nos. Pan ddigwyddodd y pennaeth Shadhili heibio fe ofynnodd pam oedd y geifr mor sionc. Dywedodd Kaldi eu bod wedi bod yn bwyta math o geirios coch oedd yn tyfu'n wyllt. Pan ddywedodd Shadhili y stori wrth fynach fe aeth i hela'r ceirios er mwyn gwneud arbrofiadau. Fe ddarganfu y mynach mai rhywbeth yn y garreg oedd yn cadw'r geifr yn effro. Ar ol rhostio'r cerrig yn y ffwrn, roedd e'n medru eu malu a'u rhoi mewn dwr poeth i wneud diod. Roedd y mynaich yn yfed y ddiod hon er mwyn deffro i addoli yng nghanol y nos. Fe alwasant y ddiod yn
quw-wa
( ??? ) gair
Arabeg
am nerth.
Llwyn
neu
brysgwydden
o'r
rhywogaeth
COFFEA
yw
planhigyn
coffi. O'r 60 planhigyn gwahanol mae yna ddau bwysig;-
COFFEA ARABICA
, planhigyn
arabica
a
COFFEA CANEPHORA
, planhigyn
robusta
.
Mae gan y planhigyn
flodau
bychainh gwynion gyda 5 neu 6 phetal, yn debyg i'r
siasmin
. Fe fydd y
ceirios
yn dechrau'n wyrdd, wedyn fe dront yn felyn ac yn goch. Mae dwy garreg yn y geiriosen wedi eu gwahanu gan rych. Hon yw'r ffaen goffi. Gellir gweld y dail, y blodau a'r ceirios ar y planhigyn ar yr un pryd.
Blodau coffi
Yn y 15g roedd y pererinion
Mohametanaidd
a oedd yn teithio i
Feca
yn dosbarthu coffi o'r
Iemen
ar draws
Arabia
. Cyn y 18g nad oedd coffi yn cael ei yfed y tu allan i'r byd Arabaidd.
Yn 1680 fe hwyliodd morwyr
Holandaidd
o Moca
(Al-Mukha)
yn yr
Iemen
gyda phlanigion coffi i
Sri Lanca
, ymlaen i
India
, ac wedyn i wladfeydd Holandaidd
Asia
.
O
Djakarta
yn
Java
fe dygodd morwyr Holandaidd blanhigion coffi gyda nhw yn ol i'r
Iseldiroedd
lle y cant eu ddiwyllio yn nhai gwydr gerddi llysieuol
Amsterdam
.
Ar ddechrau'r 18g, yr Iseldiroedd oedd yr unig wlad yn
Ewrop
i gynhyrchu coffi.
Ymlaen i
Ffrainc
; pan gafodd planhigion coffi eu cynnig i
Louis IV
fe roddodd nhw o dan ofal llysieuydd gardd y brenin (
Jardin du Roi
; ers
y chwyldro
-
Jardin des Plantes
).
Ym mis Mai 1723 fe hwyliodd capten Gabriel DeClieu i
Martinique
yn
India'r Gorllewin
gyda phlanhigion coffi. Roedd y fordaith yn llawn problemau. I ddechrau, roedd y morwyr Holandaidd am droi'n ol, wedyn fe hwyliasant i mewn i stormydd. Ar ol hynny roedd y tywydd mor dawel fel nad oedd gwynt i wthio'r llong ymlaen. Roedd d?r yfed yn brin ac oedd DeClieu yn gorfod arllwys ei gyfran dd?r ar y planhigion i'w cadw'n fyw.
Er hynny, roedd y cynhaeaf yn llwyddiannus iawn ac fe aethant ymlaen i gynhyrchu coffi ar ynysoedd eraill y Caribi a'i allforio'n ol i Ewrop. Yn 1727 aethant ymlaen i
Frasil
, cynhyrchydd coffi mwyaf y byd heddiw.
Lle mae coffi'n tyfu'n naturiol
[
golygu
|
golygu cod
]
Mae coffi'n tyfu'n naturiol yn
Iemen
ac mewn llain ar draws
Affrica
, o
Somalia
drwy
Ethiopia
,
Cenia
,
Wganda
,
Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo
,
Congo
hyd at
Gabon
a hefyd yn
Arfordir Ifori
a
Liberia
.
Lle mae coffi'n cael ei ddiwyllio
[
golygu
|
golygu cod
]
Gellir diwyllio coffi yn
y trofannau
. Bydd y rhan fwyaf o goffi'r byd yn cael ei gynhyrchu ym
Mrasil
,
Fietnam
a
Cholumbia
.
Cynhyrchir coffi
Arabica
ym
Mecsico
,
Gwatemala
,
El Salvador
,
Hondwras
,
Nicaragwa
,
Costa Rica
,
Jamaica
,
Colombia
,
Feneswela
,
Ecwador
,
Periw
,
Brasil
,
Cenia
,
Ethiopia
,
India
,
Sri Lanca
,
Indonesia
,
Papua Gini Newydd
a'r
Philipinau
.
neu
Goffi'r Congo
Cynhyrchir coffi
Robusta
ym
Mrasil
,
Arfordir Ifori
,
Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo
,
Wganda
,
Simbabwe
,
Madagasgar
,
Iemen
,
India
,
Indonesia
a'r
Philipinau
.
Cynhyrchir coffi
Liberia
yn
Liberia
ond ni chynhyrchir llawer iawn ohono.
Sut mae coffi'n cael ei gynhyrchu
[
golygu
|
golygu cod
]
Fel hyn y bydd y coffi gorau yn cael ei baratoi. Cant y ceorios eu trochi mewn basnau o dd?r a'u gadael i chwyddo drwy'r nos. Wedyn, cant y mwydion eu gwahanu ac ar ol hynny fe gant eu gadael i'r ffa eplesu, a'u golchi wedyn gyda llawer o dd?r.
Dyfnyddir y dull hwn ym
Mrasil
ac yn
Affrica
lle mae d?r yn brin. Taenir y ceirios am bythefnos ar arwynebedd mawr o
goncrit
neu ar ddaear wedi ei churo'n galed nes bydd y mwydion yn sychu yn yr haul.
Cyn rhostio mae ffa coffi yn wyrdd. Fel hyn y cant eu hallforio neu eu mewnforio. Mae'r coffi gwyrdd yn cael ei rostio wrth eu cynhesu'n raddol hyd at 220 °C. Wrth golli d?r fe fydd y ffaen yn chwyddo. Rhaid oeri'r ffa yn syth, neu fe losgant.
Mae yna ddau brif rywogaeth o goffi.
Arabica
, a
Robusta (Coffi'r Congo)
. Mae blas cryfach ar robusta ac mae ynddo ddwy waith gymaint o
gaffein
a
cholesterol
.
Mae coffi enydus yn gyfleus iawn ac er bod y blas ddim cystal, mae'n boblogaidd iawn ym Mhrydain. Nid oes cymaint o
gaffein
ynddo. Heddiw mae coffi enydus wedi ei
sychrewi
, hynny yw,
dihydradu
wrth ei rewi mewn
gwactod
.
Coffi wedi ei ddigaffeineiddio
[
golygu
|
golygu cod
]
Mae rhai sydd am osgoi
caffein
yn yfed coffi wedi ei ddigaffeineiddio. Gellir trin y ffa coffi gwyrddion gyda
thoddydd
hydrocarbon
wedi ei glorineiddio. Yn diweddarach fe ddefnyddir
carbon deuocsid
o dan wasgedd mawr. Mae'r dull hwn ddim yn gadael blas toddydd ar y coffi. Gan fod y broses o ddigaffeineiddio yn gwanhau blas y coffi, fe ddefnyddir
robusta
fel arfer oherwydd bod blas cryfach arno.
Nid yw coffi wedi ei ddigaffeineiddio ddim yn well i'r galon gan ei fod yn cael ei wneud gyda ffa
robusta
sy'n cynnwys llawer mwy o
golesterol
. Nid yw coffi wedi ei ddigaffeineiddio yn hollol rhydd o gaffein ychwaith.
Yn lle coffi gellir rhostio gwreiddiau
ysgall y meirch
neu
ysgellog
a'u malu.
Mae'r gyfraith yn mynnu bod rhaid dangos yn glir ar y pecyn bod rhywbeth arall heblaw coffi ynddo.
(Er mwyn rhagor o wybodaeth ewch i'r
Geirfa coffi
Label "MASNACH DEG"
Cafodd y label
Masnach Deg
ei greu yn
yr Iseldiroedd
yn yr 1980au gan y cymdeithas
Max Havelaar
. Defnyddiodd y label yn gyntaf ar goffi o
Mecsico
yn
1986
i ddangos fod y coffi yn cyfateb i safonau rhyngwladol masnach deg.
Malwr coffi
Dyma falwr traddodiadol coffi.
Wrth arllwys ffa coffi wedi eu rhostio i mewn i'r corn a throi'r ddolen, fe fydd dant yn eu malu. Fe fydd y coffi wedi malu yn cwympo i'r drar islaw.
Rhaid peidio gadael coffi yn y malwr dros nos gan fydd e'n amsugno d?r a difetha'r blas.
Potiau a pheiriannau coffi
[
golygu
|
golygu cod
]
Ibric
Yn ol pob tebyg, hwn ydy'r dull mwya hynafol o wneud coffi. Mae Ibric (o'r
Arabeg
ibrik
= pot coffi) yn debyg i sospan fach neu phiser pres gyda gwaelod wastad a dolen hir.
Mae'n draddodiadol i yfed coffi Twrcaidd mewn powlen fach yn hytrach na chwpan. Er mwyn gwneud coffi Twrcaidd mae rhaid malu'r coffi'n fan fel blawd. Rhoddir dwy lwyaid o siwgwr yng ngwaelod yr ibric a'i lenwi a d?r oer hyd at waelod y gwddf. Rhoddir dwy lwyaid o goffi i nofio ar ben y d?r. Ni throi'r coffi, gadewir iddo nofio. Rhoddir yr ibric i boethi ar y tywod poeth ger mor y canoldir. Os nad yw hwn yn gyfleus, gosodir ef ar y stof. Pan fydd y d?r yn ddigon poeth bydd ewin yn codi yng ngwddf y pot. Gwylir e'n ofalus. Pan fydd yr ewin yn cyrraedd y top, codir yr ibric o'r gwres yn union. Ni adewir iddo ferwi drosodd. Troir y coffi gyda llwy nes bod yr ewin yn gostwng. Ail boethir yr ibric a gwneir yr un peth eto. Ail boethir ef am y trydydd gwaith ond ni throi'r coffi y tro hwn. Yn ol rhai, mae rhaid poethi'r coffi pum gwaith, ond beth bynnag, ni throir ef y tro olaf. Gadweir yr ibric am funud er mwyn i'r gwehillion suddo i'r gwaelod ac arllwysir y coffi i'r cwpanau yn ofalus. Ni adewir y gweddillion arllwys i mewn i'r cwpanau. Gellir ychwanegu llaeth ond mae siwgwr ynddo'n barod.
Melior /
Cafetiere
/ Gwasg Ffrengig
[
golygu
|
golygu cod
]
Melior
Gair
Ffrangeg
am bot coffi yw
cafetiere
.
Cafodd ei ddyfeisio gan Saesnes o'r enw
Elizabeth Dakin
yn
1841
, ond fe ymddangosodd gyntaf yn
Ffrainc
yn 1950 dan yr enw "Melior". Mae'r egwyddor yn debyg i goffi Twrcaidd ond bod hidlydd fel piston yn gwasgu'r gwehillion i waelod y pot. Fe fyddwch chi'n rhoi ffa coffi wedi malu yng ngwaelod y pot ac arllwys d?r poeth arno, disgwyl rhyw dri neu bedwar munud, ei droi ychydyg gyda llwy, wedyn gwthio'r piston yn araf i'r gwaelod.
Trawslun Bialetti
(Gall
pot
Moca
, olygu
percoladur
hefyd.)
Bialetti
Dyfeisiwyd hwn gan Ffrancwr ond yn
yr Eidal
y daeth yn boblogaidd pan ymddangosodd yn 1933 dan yr enw "Bialetti"; maent yn boblogaidd yn
Sbaen
hefyd.
Mae'r potyn
Tebot Moka
mewn dwy ran sy'n sgriwio i'w gilydd. Tywelltir d?r yn y rhan isod (A) a gosodir twmffat (B) gyda hidl ynddo. Rhoddir y coffi yn y twmffat a'i wasgu gyda'r llwy. Sgriwir y potyn (C) yn dynn ar ei ben a'i osod ar y stof. Pan fydd y d?r yn dechrau berwi bydd gwasgedd yr ager yn gwthio'r d?r poeth drwy'r coffi ac i mewn i'r potyn uchaf (C). Mae'r coffi'n barod yn syth. Er bod hwn yn gwneud diod derbyniol, dydy e ddim yn gwneud y coffi gorau gan fod y d?r yn rhy boeth ac yn dueddol i ddifetha'r blas.
Darllawydd gwactod
(vacuum brewer)
ydy hwn, wedi ei ddyfeisio gan Sais. Gan fod yr offeryn wedi'i wneud o wydr, does dim metal nag unrhyw ddefnydd arall i ymyrryd ar flas y coffi. Mae twmffat mawr o wydr gyda hidlydd yn ffitio'n ddiddos yng ngwddf potyn gwydr sy'n hanner llawn o dd?r oer. O dan y potyn mae lamp fach sy'n llosgi gwirod methyl. Pan fydd yr awyr yn twymo ac yn chwyddo fe fydd e'n gwthio'r d?r poeth drwy diwben gwydr i'r twmffat uwchben. Os symudir y lamp fe fydd yr awyr yn oeri a chreu gwactod sy'n sugno'r d?r poeth drwy'r coffi ar ben yr hidlydd. Mae'r system hon yn sicrhau bod tymheredd y d?r yn gywir. Pan fydd y coffi'n barod gellwch godi'r twmffat o'r potyn a'i rhoi i'r naill ochr. Mae hwn yn gwneud coffi ardderchog. Dyma ffordd rhamantus o yfed coffi, gan fod y lamp fechan yn debyg i gannwyll ar y bwrdd.
(O'r gair
Lladin
percolare
= hidlo) Mae'r coffi mewn hidl o ddur ddi-staen o dan ceuad y pot. Pan fydd y d?r yn poethi fe fydd e'n codi drwy tiwben, rhedeg drwy'r hidl ac yn ol i'r pot. Fe fydd hwn yn ail-godi a rhedeg drwy'r hidl ambell waith a chryfhau'r coffi yn raddol. Mae coffi percoladur yn lan iawn ond braidd yn wan.
Caiff
ffa coffi
mal eu dodi mewn
hidlydd coffi
(papur fel rheol, ond hefyd
dur distaen
) a caiff d?r berw ei arllwys drosto a diferi'n araf i gwpan,
m?g
neu
debot
oddi tano i'w yfed gyda neu heb laeth. Mae'r dull yma'n boblogaidd yn y cartref. Mae modd defnyddio gwaddod y ffa coffi fel
compost
neu
wrtaith
.
Espresso
(Gair
Eidaleg
=gwasgu allan.) Mae pwmp yn gwasgu ergyd o dd?r poeth drwy hidl bach yn llawn ffa coffi wedi malu, yn syth i'r cwpan sy wedi ei osod yn union o dan yr hidl.
- Peidiwch a defnyddio d?r berwedig (mae coffi yn wahanol i de). Mae d?r berwedig yn difetha'r blas. Dylai'r d?r fod yn canu; 90 °C. Os ydy'r d?r yn berwi rhaid gadael iddo oeri am un funud cyn gwneud y coffi.
- Peidiwch a golchi eich pot coffi gyda'r llestri neu fydd blas sebon ar y coffi. Gwell golchi pot coffi mewn d?r poeth a bicarbonad.
- Peidiwch ag ail gysylltu eich pot coffi cyn ei rhoi i gadw. Rhaid cadw'r darnau yn wahan neu fyddyn nhw'n mynd i ddrewi a rhoi blas cas ar y coffi.
- Am ychwaneg o awgrymiadau ewch i
Sut i wneud coffi da
.
Os gofynnwch chi am goffi mewn unrhyw wlad fe gewch chi'r coffi wedi wneud yn y ddull lleol os ddywedwch chi ddim mwy. Er enghraifft, pan ofynnwch am goffi yng Nghymru fe fydd e'n cyrraedd mewn cwpan gyda llaeth a siwgwr. Os gofynnwch am
cafe
yn Ffrainc, gewch chi goffi bach du espresso mewn demitasse. Os gofynnwch am
caffe
neu
caffe normale
yn
yr Eidal
fe gewch chi espresso bach du hefyd, ond anarferol iawn fydd rhywun yn gofyn am goffi heb ddweud sut fyddyn nhw'n ei hoffi. Mae blas arbennig hefyd ar goffi Eidalaidd gan fod nhw'n dueddol i gymysgu
30% Robusta
gyda
70% Arabica
. Fe welwch chi goffi Eidalaidd
Arabica pur
ar werth hefyd.
Gweler y rhestr coffi isod
am syniadau.
Espresso
- Espresso
: (gair
Eidaleg
=wedi ei wasgu allan) coffi bach du
- Cafe
/
Cafe express
/
Cafe noir
: espresso yn
Ffrangeg
- Ristretto
/
Caffe stretto
:
espresso
bach cryf
- Macchiato freddo
:
espresso
gyda diferyn o laeth oer
- Macchiato caldo
: espresso gyda diferyn o laeth poeth
- Noisette
:
macchiato
yn
Ffrangeg
- Corretto
:
espresso
gyda diferyn o wirod ynddo
- Corretto grappa
:
espresso
gyda diferyn o
grappa
ynddo
- Cappuccio
:
cappuccino
mawr
- Large cappuccino
:
cappuccio
yn
Awstralia
- Caffe alla romana
: coffi mewn gwydr
- Caffe (e) latte
: llaeth poeth gyda espresso a llaeth ewinnol ar ei ben (i frecwast)
- Cortado
: tebyg i'r
Caffe macchiato
Eidalaidd a'r
Noisette
Ffrengig ond gyda cymuseredd fwy neu lai yn hafal (yn ol chaeth) o espresso a llaeth poeth
- Caffe latte aromatizzato
: espresso gyda sudd o unrhyw sawr, llaeth poeth a llaeth ewinnol ar ei ben
- Flavoured coffee
:
caffe latte aromatizzato
yn
Saesneg
- Caffe freddo shakerato
: coffi oer wedi ei ysgwyd (gellir ychwanegu gwirod neu
fanila
)
- Coffi rhew : gyda
thriagl melyn
a rhew
- Cafe frappe
: coffi wedi corddi gyda
hufen ia
a
d?r barlys
gyda rhew (o wlad
Groeg
yn wreiddiol)
- Salsa
fanila : coffi gyda ychydig o sudd
fanila
, d?r soda a rhew
- Carameleon
: Ychydig o
lemoned
, ychydig o driagl
caramel
a choffi wedi decaffeineiddio gyda rhew
- Liegeois
:
hufen ia
gyda choffi rhew arno a
chantilly
(hufen melys wedi corddi) ar ei ben
- Granita di caffe con panna
: coffi yn llawn naddion rhew gyda
chantilly
(hufen melus wedi corddi) ar ei ben
(Er mwyn gweld rhagor ewch i'r
Geirfa coffi
.)
- Mae coffi'n cynnwys
caffein
sy'n cyffroi'r
system nerfol canolog
. Fe fydd e'n parhau'r dygnedd wrth gadw'r teimlad blinedig yn ol. Dydy e ddim yn gwella perfformiad corfforol ond mae e'n esmwytho gwaith sy'n angen cydweithrediad y corff. Ar y llaw arall, dydy e ddim yn dda i yfed gormod o goffi.
- Byddwch yn ymwybodol fod
robusta
a choffi wedi
decaffeineiddio
yn cynnwys lefel uchel o
golesterol
.
- Gall lwch coffi gwyrdd (ffa coffi heb eu rhostio) achosi'r
fogfa
ac
alergedd
y croen.
- Er mwyn gwybod rhagor, ewch i'r erthygl "
caffein
".
Yn sgil t?f anhygoel mewn yfed y gwahanol fathau o goffi espresso y tu allan i'r caffe draddodiadol, gwelwyd t?f mewn cwpanau untro
plastig
a
chardfwrdd
gan ychwanegu ar sbwriel
tirlenwi
. Mae bellach sawl cwmni yn cynhyrchu
cwpanau clud
sy'n gwpannau ailddefnydd sy'n cadw'r diod yn gynnes, yn declun gwydn a gellir yfed y coffi yn syth o'r gwpan.
- Moca (Moka / Mocca)
yw'r coffi gorau. Mae e'n cael ei allforio o
Al-Mukha
, porthladd masnachwyr coffi yn yr
Iemen
. Mae llawer o goffi Moca yn dod o
Ethiopia
.
- Y coffi drytaf yw
Kona
o
Hawai
a
Blue Mountain
o
Jamaica
.
- Pobl
y Ffindir
sy'n yfed y mwyaf o goffi. Mae pob un yn yfed pum gwaith cymaint o goffi na'r Cymry.
- Mae gwaddod coffi yn dda i'r ardd ac yn cadw'r malwod i ffwrdd.
- Mae
Celf latte
yn derm ar y gwaith celf ceir eu creu ar ewin coffi, yn enwedig paneidiau fel
Flat White
,
Caffe latte
a weithiau
Siocled poeth
.