Charles Edward Stuart

Oddi ar Wicipedia
Charles Edward Stuart
Ganwyd 31 Rhagfyr 1720  Edit this on Wikidata
Palazzo Muti  Edit this on Wikidata
Bu farw 31 Ionawr 1788  Edit this on Wikidata
o stroc   Edit this on Wikidata
Palazzo Muti  Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Teyrnas Prydain Fawr   Edit this on Wikidata
Galwedigaeth cogiwr, arweinydd milwrol  Edit this on Wikidata
Swydd Jacobite pretender  Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Jacobites  Edit this on Wikidata
Tad James Francis Edward Stuart   Edit this on Wikidata
Mam Maria Clementina Sobieska  Edit this on Wikidata
Priod Tywysoges Louise o Stolberg-Gedern  Edit this on Wikidata
Partner Clementina Walkinshaw, Marie Louise de La Tour d'Auvergne  Edit this on Wikidata
Plant Charlotte Stuart  Edit this on Wikidata
Llinach y Stiwartiaid  Edit this on Wikidata
Gwobr/au Urdd y Gardas   Edit this on Wikidata
llofnod
Portread o Charles Edward Stuart gan William Mosman, Oriel Genedlaethol yr Alban

?yr i'r brenin Iago II/VII o Loegr a'r Alban oedd Charles Edward Stuart ( 31 Rhagfyr 1720 - 31 Ionawr 1788 ) ( Gaeleg : Tearlach Eideard Stiubhairt , yn adnabyddus wrth ei lysenw Saesneg , Bonnie Prince Charlie ).

Bywgraffiad [ golygu | golygu cod ]

Roedd Charles yn fab i James Francis Edward Stuart , yntau yn fab i Iago II/VII, oedd wedi ei ddiorseddu yn 1688 . Ganed Charles yn Rhufain , a theuliodd ei ieuenctid yno ac yn Bologna .

Cefnogid hawl y Stiwartaid i'r orsedd gan fudiad y Jacobitiaid , oedd yn cymryd ei enw o'r Lladin Jacobus ("Iago"). Roedd cefnogaeth sylweddol iddynt yn Ucheldiroedd yr Alban , a rhywfaint yng ngweddill yr Alban a gogledd Lloegr ac ychydig yng Nghymru hefyd.

Ar 23 Gorffennaf , 1745 , glaniodd Charles a saith cydymaith yn Eriskay yn Ucheldiroedd yr Alban, i gefnogi hawl ei dad i'r orsedd. Cododd faner ei dad yn Glenfinnan , a llwyddodd i godi digon o ddilynwyr i ymdeithio tua dinas Caeredin . Ar 21 Medi 1745 , gorchfygodd fyddin y llywodraeth ym Mrwydr Prestonpans , ac erbyn Tachwedd roedd ganddo fyddin o 6,000. Ymdeithiodd tua'r de, gan anelu am Lundain, a chyrhaeddodd cyn belled a Derby . Yma, oherwydd diffyg cefnogaeth gan Jacobitiaid Lloegr, penderfynwyd troi'n ol am yr Alban. Gorchfygwyd ei fyddin gan fyddin y llywodraeth dan William Augustus, Dug Cumberland ar 16 Ebrill 1746 ym Mrwydr Culloden . Bu Charles ar ffo yn Ucheldiroedd yr Alban am fisoedd cyn medru dychwelyd i Ffrainc ym mis Medi. Bu fyw yn Ffrainc a'r Eidal hyd ei farwolaeth.

Er fod cryn nifer o Jacobitiaid yng Nghymru, nid ymddengys i fawr o Gymry gymeryd rhan yn ymgyrch 1745. Dywedir i Charles yn ddiweddarach, wrth son beth a wnai dros y Jacobitiaid Cymreig, ddweud "Mi yfaf iechyd da iddyn nhw - dyna'r cyfan wnaethon nhw i mi".

Cyfeiriadau [ golygu | golygu cod ]