한국   대만   중국   일본 
Canser - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Canser

Oddi ar Wicipedia
Canser
Enghraifft o'r canlynol dosbarth o glefyd  Edit this on Wikidata
Math disease of cellular proliferation, neoplasm, tiwmor , clefyd   Edit this on Wikidata
Y gwrthwyneb neoplasm diniwed  Edit this on Wikidata
Label brodorol καρκ??νο?  Edit this on Wikidata
Enw brodorol καρκ??νο?  Edit this on Wikidata

Mae canser neu canser yn gr?p o heintiau ble mae celloedd yn ymosodol (yn tyfu a rhannu yn rhy sydyn a chryf nes mynd yn rhemp drwy'r corff gan ymosod arno). Yn aml, gall chwalu drwy'r corff, drwy gyfrwng y lymff neu'r gwaed . Tyfu, ymosod a chwalu; dyma'r nodweddion sy'n eu gwahaniaethu oddi wrth y tiwmor . Gall rhai mathau o ganser greu tiwmor, ac eraill megis liwcemia yn peidio a gwneud hynny.

Y gangen honno o feddygaeth sy'n astudio , gwneud diagnosis , trin ac atal canser ydyw oncoleg .

Canser mewn oedolion [ golygu | golygu cod ]

Mae'r ystadegau a restrir isod ar gyfer oedolion yn yr Unol Daleithiau :

Dynion Merched
mwyaf cyffredin (yn ol nifer o achosion) mwyaf cyffredin (yn ol marwolaeth) mwyaf cyffredin (yn ol nifer o achosion) mwyaf cyffredin (yn ol marwolaeth)
canser y brostad (33%) canser yr ysgyfaint (31%) canser y fron (32%) canser yr ysgyfaint (27%)
canser yr ysgyfaint (13%) canser y brostad (10%) canser yr ysgyfaint (12%) canser y fron (15%)
canser colorectaidd (10%) canser colorectaidd (10%) canser colorectaidd (11%) canser colorectaidd (10%)
canser y bledren (7%) canser y pancreas (5%) canser endometriaidd (6%) canser ofaraidd (6%)
melanoma croenol (5%) liwcemia (4%) lymffoma ddi-Hodgkin (4%) canser y pancreas (6%)

Canser mewn plant [ golygu | golygu cod ]

Peth gymharol brin ydyw canser mewn plant a glasoed : dim ond 150 achos ym mhob miliwn o blant. Dengys ystadegau'r 'National Cancer Institute' sydd wedi'i sefydlu yn UDA, fod yr achosion o ganser mewn plant wedi cynyddu bron i 20% rhwng 1975 a 1990, yn bennaf oherwydd y cynnydd mewn achosion o liwcemia . Ers 1990, mae'r niferoedd wedi lleihau ychydig. [1]

Mae'r plant sy'n byw ger atomfeydd niwclear yn fwy tebygol o gael canser. [2]

Cyfeiriadau [ golygu | golygu cod ]

  1. Awduron: James G. Gurney, Malcolm A. Smith, Julie A. Ross (1999) Cancer Incidence and Survival among Children and Adolescents, United States SEER program 1975-1995 , Cancer Statistics Branch, National Cancer Institute, a geir ar y wefan: SEER web site
  2. Reasonable Doubt: Children living near nuclear facilities face an increased risk of cancer.