Clwb
pel-droed
o'r
Drenewydd
,
Powys
ydy
Clwb Pel-droed Y Drenewydd
(
Saesneg
:
Newtown Association Football Club
). Mae'r clwb yn chwarae yn
Uwch Gynghrair Cymru
, prif adran pel-droed yng Nghymru ac maent wedi codi tlws
Cwpan Cymru
ar ddau achlysur; ym 1878-79 a 1894-95
[1]
.
Maent yn chwarae eu gemau cartref ar
Barc Latham
, Y Drenewydd, maes sy'n dal uchafswm o 5,000 o dorf gyda 1,110 o seddi.
Mae'r clwb presennol yn deillio o uniad rhwng clybiau pel-droed
Newtown White Star
a
Newtown Excelsior
yn ystod y 1870au. Ffurfiwyd Newtown White Star ym
1875
gan ddod yn aelod gwreiddiol o
Gymdeithas Bel-droed Cymru
[1]
. Chwaraeodd Excelsior a chlwb o'r enw
Newtown
yng nghystadleuaeth cyntaf
Cwpan Cymru
ym
1877
[2]
gyda gem Y Drenewydd yn erbyn
Y Derwyddon
ar
13 Hydref
, 1877 y gem gyntaf erioed yn hanes y gystadleuaeth
[3]
.
Ymunodd y clwb a chynghraira'r
Combination League
ym 1899-1900
[4]
ond, ar ol tymor yn unig, dychwelodd Y Drenewydd i chwarae mewn cynghreiriau lleol. Ar ol y
Rhyfel Byd Cyntaf
ymunodd Y Drenewydd a Chynghrair Canolbarth Cymru gan ennill y bencampwriaeth ym 1975?76, 1978?79, 1981?82, 1986?87 a 1987?88
[5]
.
Ar sail eu pencampwriaethau yn y 1970au a'r 1980au sicrhaodd Y Drenewydd eu lle ym mhyramid pel-droed Lloegr gan ymuno ag Adran 1 o'r
HFS Loans League
- tair rheng yn is na
Chynghrair Lloegr
- ynghyd a chlybiau Cymreig eraill fel
Bangor
,
Y Rhyl
,
Bae Colwyn
a
Chaernarfon
, ond ym
1992
dychwelodd Y Drenewydd i Gymru er mwyn ymuno a chynghrair newydd cenedlaethol Cymru.