Ffilm gyffro
Americanaidd
a gyfarwyddwyd gan
Peter Yates
ac a gynhyrchwyd gan
Philip D'Antoni
ydy
Bullitt
. Serenna
Steve McQueen
,
Robert Vaughn
a
Jacqueline Bisset
. Seiliwyd y sgript
Alan R. Trustman
a
Harry Kleiner
ar y nofel
Mute Witness
(1963) gan
Robert L. Fish
, a oedd yn ysgrifennu o dan y ffugenw Robert L. Pike. Lalo Schifrin ysgrifennodd y sgor wreiddiol. Chwaraea
Robert Duvall
ran fechan yn y ffilm fel gyrrwr
tacsi
sy'n rhoi gwybodaeth i McQueen.
Gwnaed y ffilm gan gwmni McQueen, Solar Productions, gyda'i bartner
Robert E. Relyea
yn uwch-gynhyrchydd. Cafodd y ffilm ei rhyddhau gan
Warner Bros.
-
Seven Arts
ar
17 Hydref
,
1968
, a bu'n llwyddiannus o ran gwerthiant tocynnau ac ymateb y beirniaid. Ychydig yn ddiweddarach, enillodd
Wobr yr Academi
am y Golygu Gorau ac enwebiad arall am y Sain Gorau. Mae Bullitt yn nodedig am yr olygfa lle mae car yn cael ei gwrso ar hyd strydoedd
San Francisco
, golygfa a ystyrir yn un o'r rhai mwyaf dylanwadol erioed.
Yn 2007, penderfynodd Llyfrgell y Gyngres y dylid cadw Bullitt yng Nghofrestrfa Ffilm Cenedlaethol yr Unol Daleithiau am ei bod "o arwyddocad diwylliannol, hanesyddol, neu esthetaidd".
[1]