Behgjet Pacolli
|
---|
|
Ganwyd
| 30 Awst 1951
Prishtina
|
---|
Dinasyddiaeth
| Cosofo
,
Y Swistir
|
---|
Galwedigaeth
| diplomydd,
gwleidydd
, person busnes
|
---|
Swydd
| Arlywydd Cosofo
|
---|
Plaid Wleidyddol
| New Kosovo Alliance
|
---|
Priod
| Anna Oxa, Maria Pacolli
|
---|
Gwobr/au
| Dostyk Order of grade I, Honor of Nation Order
|
---|
Gwefan
| http://www.behgjetpacolli.com/
|
---|
llofnod
|
---|
|
Arlywydd
Cosofo
yw
Behgjet Isa Pacolli
(ganed
30 Awst
1951
) yn Marec, Cosofo. Bu'n Brif Weithredwr cwmni adeiladu o'r
Swistir
am rai blynyddoedd a dywedir mai ef yw dinesydd mwyaf cyfoethog Cosofo.
[1]
Tra roedd yn ddisgybl yn yr ysgol uwchradd yn
Pristina
, bu'n rhaid iddo fyw mewn cwt coed-tan am bedair mlynedd a oedd yn eiddo i deulu o
Dwrci
gan fynd adre ddwywaith yr wythnos - 80
kilometr
yn ol a blaen - er mwyn nol nwyddau. Yn 17 oed cyrhaeddodd
Hamburg
,
yr Almaen
, heb geiniog yn ei boced, a chychwynodd weithio yn y dociau er mwyn talu ei ffordd. Ar yr un pryd, astudiodd yn y Brifysgol. Dysgodd pum iaith arall yn y dociau.
Ar ol cyfnod fel milwr cafodd swydd yn gwerthu i gwmni o
Awstria
, gan werthu i wledydd megis
Iwgoslafia
,
Bwlgaria
,
Gwlad Pwyl
a
Rwsia
.
Ar 17 Mawrth 2006, sefydlodd gynghrair Cosofo Newydd (AKR), a daeth y drydedd blaid mwyaf poblogaidd yn etholiad 2007.
Ers 2004 bu'n weithgar iawn yn dadlau a lobio dros annibyniaeth lwyr i Gosofo.