Mabwysiadwyd
baner yr Ariannin
yn ol y gyfraith ar 27 Chwefror 1812. Mae'r faner yn cynnwys tri band llorweddol o faint cyfartal. Mae'r ddau fand allanol yn las ac mae'r un canolog yn wyn, gyda'r
Sol de Mayo
(haul mis Mai) yn y canol. Bu sawl man addasiad i'r faner yn ystod ei hoes fel baner genedlaethol
yr Ariannin
.
Y cymesuredd swyddogol yw 5:8 neu 9:14
Crewyd y faner gan Manuel Belgrano, yn unol a chreu
cocad
yr Ariannin, ac fe'i codwyd gyntaf yn ninas Rosario ar 27 Chwefror 27 1812, yn ystod Rhyfel Annibyniaeth Ariannin. Adeiladwyd Cofeb y Faner Genedlaethol yn ddiweddarach ar y safle. Ni gymeradwywyd y cynllun gan y Triumvirate Cyntaf, ond yn
Asamblea del Ano XIII
(Cynhadledd yn 1813 i drafod dyfodol Gweriniaeth Rio de la Plata, taleithiau Wrwgwai a rhannau o'r Ariannin a Bolifia oedd wedi gwrthryfel o lywodraeth Sbaen) cytunwyd i'w chanitau fel baner rhyfel. Bu'n rhaid aros nes Cyngres Tucuman iddo ddod yn faner genedlaethol yn 1816. Ychwanegwyd haul melyn Mai i'r ganol yn 1818.
Yng nghanol y band gwyn mae arwyddlun o'r Haul (Sol de Mayo, symbol o ddwyfrydedd brodorol) a greodd, yn ol traddodiad, yn 1812 gan y teulu deallusol, diweddarach, Manuel Belgrano (mab a anwyd yn Liguria Unglia, y cyfenw cyflawn yw Belgrano-Peri) a ysbrydolwyd gan edrych tuag at yr awyr tra oedd ar lan afon Parana yn llifo, lle mae dinas bresennol Rosario yn sefyll.
Mae arwyddlun yr haul yn eicon bwysig i'r Arianninwyr, ac ymddangosodd hefyd ar fersiynau blaenorol y faner.
Yn ogystal a'r faner swyddogol (
Bandera Oficial de Ceremonia
) gyda'r Sol de Mayo, ceir hefyd faner sifil heb yr haul. Enw'r faner yma yw'r
Bandera de Ornato
(baner ornate??) sydd yr un cynllun ond heb yr haul. Fe'i hystyrir hefyd yn faner swyddogol ac yn gwbl gynrychioliadol o'r genedl.
Dylanwad ar Faneri Eraill America Ladin
[
golygu
|
golygu cod
]
Defnyddiodd y privateer Louis-Michel Aury faner yr Ariannin fel model ar gyfer ei faner glas-gwyn-glas at wladwriaeth annibynnol canolbarth America a grewyd yn 1818 yn Isla de Providencia, ynys oddi ar arfordir
Nicaragua
. Bodolodd y wladwriaeth yma nes tua 1821 cyn i wlad newydd Gran Colombia (Columbia Fawr) gymryd rheolaeth o'r ynysoedd. Ychydig yn hwyrach yn 1823 defnyddiwyd y faner yma unwaith eto fel model ar gyfer baner
Taleithiau Unedig Canol America
,
[1]
[2]
[3]
sef, cyd-ffederasiwn o wladwriaethau cyfredol
Guatemala
,
Honduras
,
El Salvador
,
Nicaragua
a
Costa Rica
yng Nghanolbarth America, a fodolodd rhwng 1823 ac 1838. Ond wedi dadfeiliad yr Undeb yma, daeth y pum talaith yn wladwriaethau annibynnol arwahan. Serch hynny, hyd heddiw mae pob un o'r cyn-daleithiau unedig yma, heblaw
Costa Rica
, yn chwifio baner glas-gwyn-glas streipiog. Mae gan
Faner Costa Rica
streipen goch wedi yn gorwedd ar yr un wen, er mwyn cynnwys lliwiau
Baner Ffrainc
.
Bu i faner yr Ariannin hefyd ysbrydoli baner gyfredol
Wrwgwai
a
Paraguay
a hefyd dyluniad baner
Periw
ar un adeg.
Chwifir baner answyddogol i gynrychioli cymuned
Y Wladfa
. Mae'r dyluniad yma yn cynnwys ffurf triband baner yr Ariannin ond gyda
draig goch
Gymreig
baner Cymru
yn hytrach nag haul Mai. Caiff y faner ei chwifio yn yr Ariannin a gan Gymru sy'n ymweld, megis mewn gem
rygbi
rhwng yr
Tim rygbi cenedlaethol yr Ariannin
a
Tim rygbi cenedlaethol Cymru
ym Mehefin 2018.
[4]
Er bod y dimensiynau a'r cyfrannau wedi'u diffinio'n dda bob amser (hyd yn oed gyda dimensiynau swyddogol: 0.9 × 1.4 metr, gyda'r bandiau lliw 30 cm yr un), mae lliwiau baner yr Ariannin yn aml yn destun dadl gan na bu benderfyniad manwl na thestun deddfwriaethol arni. Fodd bynnag, mae yna ddywediad poblogaidd iawn, sydd wedi'i ddryslyd a realiti, o leiaf ymhlith trigolion Buenos Aires. Dywedir bod gwir darddiad lliwiau baner Ariannin yn deillio o liwiau dillad y fam Iesu, y Madonna, yn ei delwedd draddodiadol sef, dwy lain glas golau a gwyn.
Mae'r deddfwr bob amser wedi diffinio y bandiau llorweddol, a oedd yn y dosbarthiad "Pantone" yn cyfateb i'r samplau hyn bob amser yn unig i ddiffinio gwyn a chelestial:
Lliw
|
RGB
|
HTML
|
HSV
|
Lab
|
CMYK
|
Esiampl
|
Glas ceruleo
|
156, 196, 226
|
#9BC4E2
|
201, 31, 89
|
77, -9, -20
|
37, 12, 3, 0
|
|
Glas ceruleo (Websafe)
|
153, 205, 255
|
#99CCFF
|
210, 40, 100
|
80, -3, -31
|
35, 10, 0, 0
|
|
Gwyn
|
255, 255, 255
|
#FFFFFF
|
0, 0, 100
|
100, 0, 0
|
0, 0, 0, 0
|
|
Melyn-aur
|
255, 205, 51
|
#FFCD33
|
45, 80, 100
|
85, 8, 76
|
1, 19, 89, 0
|
|
Du
|
0, 0, 0
|
#000000
|
0, 0, 0
|
0, 0, 0
|
75, 68, 67, 90
|
|
-
Baner Manuel Belgrano o Rosario (1812)
-
Fersiwn arall o faner Manuel Belgrano (1812)
-
Baner swyddogol gyntaf Talaith Rio de la Plata]] (1816)
-
Baner Talaith Unite del Rio de la Plata (1818-1820)
-
Baner Artigas a ddefnyddiwyd yng nghyfnod y "Liga Federal" (1815-1820)
-
Baner Cyd-ffederasiwn yr Ariannin (1840)
-
Baner Ffederasiwn yr Ariannin (1860)