Ysbrydolwyd
baner Panama
gan yr
faner Unol Daleithiau America
. Mae'r faner yn cynnwys pedwar chwarter gyda seren goch a seren las mewn dau chwarter a'r ddau chwarter arall yn las a'r llall yn goch. Mae'r coch (Rhyddfrydol) a glas (ceidwadol) yn cynrychioli'r ddau
blaid wleidyddol
sy'n bresennol ar adeg y sylfaeni'r wladwriaeth yma yng
Nghanolbarth America
. Mae'r gwyn yn cynrychioli'r heddwch y mae'r sefydliadau'n gweithredu ynddi.
[1]
Tachwedd y 4ydd yw
Diwrnod y Faner
- sef diwrnod Annibyniaeth Panama oddi ar
Colombia
.
Mabwysiadwyd y faner yn swyddogol ar
4 Tachwedd
1925
[2]
ac mae'n seiliedig ar y faner a fabwysiadwyd ym 1903 a addasu yn ddiweddarach. Roedd y faner wreiddiol wedi ei ddylunio gan y diplomydd Panamanaidd, Manuel Amador Terreros, ar noson 1 Tachwedd 1903. Ei fwriad oedd creu baner yn cynrychioli byd gwleidyddol y Panama ar yr adeg honno. Mae'r glas hefyd yn cynrychioli'r Mor Tawel a'r
Mor y Caribi
; coch y gwaed a gollwyd dros y wlad a gwyn am heddwch.
Mae'r faner gyfredol yn union yr un peth a'r faner wreiddiol ond bod y ser wedi ffeirio lle gyda'r chwarter lliw llawn gan roi'r seren las uchaf yn y
canton
sydd yn fwy arferol i'r lygad ac yn dilyn confensiwn
Banereg
.
[3]
Cynigwyd cynllun arall gan Philippe Bunau-Varilla yn 1903
[4]
oedd wedi ei seilio ar faner yr Unol Daleithiau a chwaraeodd ran yn mrwydr Panama dros annibyniaeth oddi ar Colombia gan gyfuno'r lliwiau melyn a choch - lliwiau sydd ym maneri
Colombia
a
Sbaen
er mwyn cydnabod perthynas Panama gyda'r ddwy wlad honno. Yn y
canton
dyluniwyd ddau haul yn symbol o ogledd a de America gyda dolen rhyngddynt yn symbol o
Gamlas Panama
ac uno dwy
gefnfor
. Gwrthowyd y cynllun yma gan ei fod yn rhy debyg i faner yr UDA.
Mae baner Panama yn adnabyddus ar draws y byd fel
baner cyfleustra
. Caiff ei chwifio gan longau masnach er mwyn hwylstod masnachu.
-
Baner Gwladwriaeth Sofran Panama pan oedd yn rhan o Wladwriaeth Unedig Colombia, 1855-1886)
-
Cynnig baner Philippe Bunau-Varilla (1903)
-
Baner Panama 1903-1925. Noder fod y ser wedi newid safle yn y faner a ddefnyddir yn gyfredol
-
Ystondard
Arlywydd Panama
- ↑
(Flags of the World, published DK Publishing, 1997)
- ↑
Gaceta Oficial No. 4601
Archifwyd
2012-03-19 yn y
Peiriant Wayback
. March 25, 1925
- ↑
Guevara, Helkin (November 5, 2015).
"Historia de las primeras banderas panamenas y de la que no es 'original
'
"
[History of the first Panamanian flags and of the one that is not 'original'] (yn Spanish). Panama City, Panama:
La Prensa
. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar November 6, 2015
. Cyrchwyd
December 23,
2017
.
CS1 maint: unrecognized language (
link
)
- ↑
Schoultz, Lars (1998).
Beneath the United States: a history of U.S. policy toward Latin America
(arg. [Fourth printing].). Cambridge, Massachusetts: Harvard University Press. t.
166
.
ISBN
0-674-92276-X
.