Baner OPEC
|
Enghraifft o'r canlynol
| baner
|
---|
Mae
baner Cyfundrefn y Gwledydd Allforio Petroliwm
neu'n fwy cyffredin,
baner OPEC
yn faner a chymesuredd o 3:5.
[1]
Mae'r talfyriad
OPEC
yn sefyll am Organization of Petroleum Exporting Countries. Mae'r corff yn
cartel
ryngwladol sy'n ceisio lliwiau pris a maint cynhyrchu ac allforio
olew
.
Mae'r faner yn
faes
las gyda'r talfyriad OPEC wedi ei ysgrifennu mewn ffont unigryw gan adleisio siap crwm barel o olew.
Sefydlwyd OPEC yn 1960 yn
Baghdad
, prifddinas
Irac
. Mae ei, ers 1965, phencadlys yn
Fienna
, prifddinas Awstria - nad sy'n gynhyrchydd olew. Yr aelodau gwreiddiol oedd: Irac, Iran, Cowait, Arabia Sawdi, a Feneswela.
Aelodau cyfredol y Corff (yn 2019) yw:
Aljeria
,
Angola
,
Cowait
,
Ecwador
,
Yr Emiradau Arabaidd Unedig
,
Gini'r Cyhydedd
,
Gabon
,
Iran
,
Irac
,
Gweriniaeth y Congo
,
Libia
,
Nigeria
,
Arabia Sawdi
(arweinydd de fact), a
Feneswela
. Mae
Indonesia
a
Catar
yn gyn-aelodau.
[2]
Mae'r 14 gwladwriaeth (ym Medi 2018) yn gyfrifol am 44% o gynnyrch olew y byd ac 81.5% o gronfeydd "profiedig" o olew'r byd.