한국   대만   중국   일본 
Baner Abchasia - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Baner Abchasia

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Baner Abkhazia )
Baner Abchasia

Mae gan faner Abchasia saith stribed llorweddol, pedwar yn wyrdd a thri yn wyn , gyda llaw-dde wen a saith seren wen mewn arc uwch ei phen ar gefndir coch yn y canton .

Gweriniaeth Abchasia [ golygu | golygu cod ]

Crewyd baner Gweriniaeth Abchasia yn 1991 gan V. Gamgia. [1] Mabwysiadwyr yn swyddogol ar 23 Gorffennaf 1992. [2] Mae cynllun y llaw goch canton wedi ei seilio ar faner Gano Oesol Brenhiniaeth Abkhazia. Mae'r llaw agored yn golygu " Helo i Gyfeillion! Stop i Elynion! ". [3] Mae'r saith seren yn y caton wedi eu ail-ddadansoddi i gyfeisio at y saith rhanbarth hanesyddol yn y wlad - Sadzen , Bzyp, Gumaa, Abzhywa , Samurzaqan, Dal-Tsabal and Pskhuy-Aibga. [4]

Mae'r saith streipen gwyrdd a gwyn wedi eu seilio ar Weriniaeth Fynyddyg Gogledd y Cawcasws, yr ystyriodd Abkhazia ei bod yn rhan ohono wedi diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae saith hefyd yn rhif cysegredig i'r Abkhaziaid ac mae'r gwyrdd a'r gwyn yn cynrychioli goddefgarwch Cristnogaeth ac Islam i gyd-fyw gyda'i gilydd. [5]

Gweriniaeth Hunanlywodrathol Abkhazia [ golygu | golygu cod ]

Mae Gweriniaeth Hunanlywodraethol Abkhazia sydd o dan reolaeth Llywodraeth Georgia (sy'n hawlio bod Abkhazia yn rhan o'i thiriogaeth) yn defnyddio baner sy'n cyfuno baner Jeorojia gyda streipiau gwyrdd a gwyn y Abkhazia annibynnol. [6]

Baneri Hanesyddol [ golygu | golygu cod ]

Gweriniaeth Sofiet Sosialaidd Abkhazia [ golygu | golygu cod ]

Mabwysiadwyd baner GSS Abkhazia yn 1925 pan basiodd Gweriniaeth Sofiet Sosialaidd Abkazia ei chyfansoddiad. Arddelwyd hi nes 1931, pan di-raddwyd statws Abkhazia i Weriniaeth Awtomanaidd Sofiet Sosialaidd Abkhazia gyda baner wahanol.

Gweriniaeth Awtomanaidd Sofiet Sosialaidd Abkhazia [ golygu | golygu cod ]

Cyflwynyd y faner hon o'r Weriniaeth Awtomanaidd Sofiet Sosialaidd Abkhazia yn 1978 a'i defnyddio nes cwymp yr Undeb Sofietaidd yn 1991. Roedd y faner flaenorol a ddefnyddwyd rhwng 1931 ac 1978 union yr un fath i faner GSS Georgia ac yn 1978 ychwanegwyd yr enw GASS Abkhazia wedi ei hysgrifennu yn yr iaith Abkhaz a gwyddor Abkhaz iddi.

Oriel [ golygu | golygu cod ]

Diwrnod y Faner [ golygu | golygu cod ]

Dynodwyd 23 Gorffennaf fel 'Diwrnod y Faner'. Ar 23 Gorffennaf 1992, cymeradwyodd Goruchaf Gyngor Abkhazia Faner Genedlaethol ac Arfbais Gweriniaeth Abkhazia. Dyluniwyd y symbolau hyn gan yr arlunydd Valery Gamgia, gan dynnu ysbrydoliaeth o faner Gweriniaeth Fynyddig Gogledd Cawcasws 1918. Cymeradwywyd Baner Wladwriaeth fodern Abkhazia yn ystod sesiwn o Gyngor Goruchaf y Weriniaeth yng nghanol gwrthdaro llawn tyndra rhwng carfanau Abkhaz a Sioraidd y dirprwyon. Daeth yr artist Valery Gamgia a fersiynau amrywiol o'r faner i'w hadolygu gan y comisiwn seneddol, y mae ei aelodau hefyd wedi awgrymu addasiadau. Cymeradwywyd fersiwn derfynol y faner gan Vladislav Ardzinba, Cadeirydd Cyngor Goruchaf ASSR Abkhaz. Ar ol ei chymeradwyo, cyflwynwyd y faner sidan, sy'n mesur 1.5 metr wrth 70 centimetr, mewn cyfarfod cyhoeddus yn Sukhum. [7]

Cyfeiriadau [ golygu | golygu cod ]

  1. Аргун Ю.Г. ( Argun Yu. G. ), О Государственном флаге Archifwyd 2007-09-28 yn y Peiriant Wayback . ( On the state flag ) (XLVIII итоговая научная сессия (11-13 мая). тезисы докладов. - Сухум: АбИГИ, 2004, с. 3-4)
  2. "Abkhazia (Georgia)" . FOTW Flags Of The World. 2009-08-15 . Cyrchwyd 2010-31 . Check date values in: |accessdate= ( help )
  3. http://www.ahakuytra.com/abhazya-sehitleri/247-abhazya-bayraginin-anlami.html
  4. "Государственные символы" . Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-09-28 . Cyrchwyd 2015-12-11 .
  5. "Abkhazia Flag from the Flags of the World Database" . Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-01-19 . Cyrchwyd 2015-12-11 .
  6. "copi archif" . Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-06-16 . Cyrchwyd 2015-12-11 .
  7. "The Story of Abkhazia's Flag: A Symbol of Independence" . Gwefan Abkhaz World. 23 Gorffennaf 2023.

Dolenni allanol [ golygu | golygu cod ]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Nodyn:Baneri Cenedlaethol

Ffynonellau [ golygu | golygu cod ]

Eginyn erthygl sydd uchod am Georgia . Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato .