한국   대만   중국   일본 
Arfbais Rwmania - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Arfbais Rwmania

Oddi ar Wicipedia
Arfbais Rwmania

Eryr euraidd coronog ar darian las yw arfbais Rwmania . Dalia'r eryr deyrnwialen yn ei grafanc chwith, cleddyf yn ei grafanc dde, a chroes Uniongred yn ei big. Ar ei frest mae'n dwyn tarian chwarterog sy'n darlunio symbolau rhanbarthol: eryr euraidd i gynrychioli Walachia , pen tarw am Foldafia , eryr a saith castell i gynrychioli Transylfania , a llew euraidd yn dwyn crymgledd i ddynodi Oltenia a Banat . Ar hollt sy'n rhannu'r ddau chwarter isaf, darlunir dau ddolffin i symboleiddio Dobruja .